Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 45 BWRDD YSGOL LLUNDAIN A CHERDDORIAETH. Adroddiad Mr. John Eyans. Mae yri gofus gan ddarllenwyr yCerddor Tonic Sol-ffa ddarfod i Fwrdd Ysgol Llundain fabwysiadu cyfun- drefn y Sol-ffa, a phenodi Mr. John Evans i fod yn Arolygyddj neu yn Brif Athraw Cerddorol i'w hysgol- ion. Er ys ychydig wythnosau yn ol, dygodd Mr. Evans ei Adroddiad cyntaf o flaen y Bwrdd; ac yr ydyni yn rboddi crynhodeb o'r prif bethau a nodie ganddo. Dywed ei fod wedi talu ymweliad a'r ysgolion i gyd— a'r rhan fwyaf o honynt ddwywaith, ac a rhai deir- gwaith. Cafodd nad oedd cerddoriaeth yu cael ei ddysgu o gwbl mewn 17 o honynt. Yr oedd tri o'r athrawon hyny heb wybod dim am gerddoriaeth, a'r rban fwyaf o'r lleill newydd gychwyn eu hysgolion. Mewn 78 o'r ysçolion, nid oedd dim ond dysgu y plant i ganu yehydig o hymnau neu ganeuon ysgol wrth y glust. Yr oedd 5 o ysgolion newydd ddechreu gyda chyfundrefn y Tonic Sol-ffa; a'r gyfundrefn hon ydyw yr unig un a arferir yn yr ysgolion lle y dysgir y plant igauu wrth nodau. Mae y canu yn y cyffredin "yn ofnadwy o gwrs a thrystiog—cana y bechgyn yn enwedig gyda'u hnll nerth." Mewn llawer o'r ysgolion mae y defnydcliau yn dra peirwon, ac yn gofyn llawer iawn o lafur cyu y gellir eu cael i ganu yn dda; ac eto, gydag atbrawon deallus a difrifol, ac ymdrech priodol, gellir diagwyl am gynyrch da. Ỳr oedd yr athrawon i gyd yn dewis y Tonic Sol-ffa. Teiralai y rhan fwyaf o honynt mai erwaith ofer fyddai ceisio dysgu y plant i ddarllen cerddoriaeth mewn un drefn arall. Rhoddai Mr. Evans ar ddeall iddynt, er fod y Bwrdd wedi cymeradwyo y Sol-ffa, eto nad oedd efe wedi cael ei gyfarwyddo i'w gorfodi ar neb, a'i fod yn dymuno cael gwybod gan bob athraw pa gyfundrefn íyddai oreu ganddo. Dymunai y rhan fwyaf o'r athraw- on ar fod i ddosbarthiadau athrawon gael eu hagor, fel y gallent ddysgu y gyfundrefn yn fwy trwyadl, a gweled hefyd y dull goreu i'w dysgn i'r plant. Llwyddodd i s-efydlu tri o ddosbarthiadau athrawon rnewn gwahanol barthau o'r brif ddinas. Nifer y dosbarth (athrawon ysgolion cofier) yn Marlborough Street, oedd 45, yn Bath Street, 56, ac yn Burdett Hall, 97. Yr oedd y dyddordeb a deimlid yn y dos- barthiadau hyn, a'r cynydd yn dra boddhaol. Yr oedd yn defnyddio yr un llyfrau a'r un gwersi yn rnhob un o'r dosbarthiadau: ac yr oeddyr athrawon yn hofa hyny. Cymhellasai lawer o'r athrawon i newid eu hamser-dafleni, fel y gallent, yn Ue un wers o awr yn yr un wythnos, gael dwy o leiaf o haner awr bob un, aewn cerddoriaeth. Anogasai hwynt hefyd i beidio çynyg dysgu yr holl ysgol ar unwaith—fel yr oedd vía^£r yn ^wneyd, ond gwneyd yr ysgol yn ddau ddos- tjartb. yn ol eu gallu. X mae yn mhob ysgol tua'r aryaedd ran o'r plant yn gallu dysgu canu yn fuan, a'r neill ynfwy araf. Gallent ddysgu yr holl ysgol felly II yn llawer gwell trwy ei rhanu yn ddau ddosbirth ; a byddai hyny hefyd yn ddarpariaeth ar gyfer y plant newydd o hyd. Galluogid hwynt hefyd i ddwyn y lleisiau dan well dysgyblaeth, ac i dori i lawr yr arferiad o floeddio a chanu yn gwrs, yr hyn oedd nid yn unigyn niweidio lleisiau y plant, ond yn dinystrio y tynerwch a'r coethder teimlad a ddylai gael ei gynyrchu gan gerddoriaeth. Yr oedd wedi trefnu i ymweled a phob ysgol mor fynych ag oedd yn bosibl, ac i gymeryd y wers gerddorol ei hun am y rhan fwyaf o'r amser y byddaiyn bresenol. Ar ol rhai misoedd o lafur, byddai yn alluog i ddos- barthu yr ysgolion gyda golwg ar eu cynydd, a dangos pa rai oedd yn gyffredin, da, a rhagorol. Y PARCH. J. T. FEASTON AR GERDDORIAETH. Riioddodd y Parch. J. T. Feaston brawf ar gynllun anarferedig yn y gynulleidfa a ffurfiodd ac y bu yn weinidog iddi am flynyddoedd yn Lczells, Birmingham. Trwy fod yr eisteddleoedd i gyd yn rhyddion, a'r achos yn ei holl ranau yn cael ei gynal gan roddion gwir- foddol yr eglwys a'r gynulleidfa, efe a ddosbarthodd yr addoldy gyda golwg, mewn modd arbenig, ar ganiad- aeth gynulleidfaol, gan roddi y rhai a ganent yr un llais gyda'u gilydd. Llwyddodd felly, ynghyd a thrwy y cyfarfodydd canu wythnosol, i gael caniadaeth gynulleidfaol ragorol yn y gynulleidfa. Y mae wedi ymadael er ys amser bellach, ac ysgrif- enodd lythyr tra dyddorol yn ddiweddar at y gynulleidfa ar y pwnc. Yn myeg pethau eraill, efe a ddywedai:— " Yr wyf wedi cael fy synu yn ddiweddar wrth weled pa mor gryf ydyw y syniad yn meddyliau pobl, a cblywed pa mor barod ydynt i wneyd defnydd o hono, sef—* Nad ops oud ychydig o wahaniaeth yn mha drefn y cenir mawl yr Arglwydd os bydd y galon yn gywir.' Yn awr gofynaf—A fyädai rhieni neu feistr yn barod i dderbyn esgus o'r fath dros gyflawniad didrem, esgeu- lus o ddyledswydd ? Gofynaf yn ychwaneg—Ai nid ydyw cyflawmiad esgeulus o ddyledswydd yn brawf nad ydyw y galon yn gywir ? Mae yr Ysgrythyr, yn sicr, yn dysgu hyny. Yr ydym yn darllen yn Malachi:— " Os ydwyf fl dad, pa le mae fy anrhydedd ? ac os wyf fi feistr, pa le mae fy ofn ? Chwi a ddywedwch, Yn mha beth y dirmygasom dy enw di ? Offiymu yv ydych ar fy allor fara halogedig. Ac os offrymu yr ydych y dall, y cloff, a'r clwyfus, onid drwg hyny ? Cynyg ef yr awrhon i'th dywysog ; a fydd efe foddlawn i ti, neu a dderbyn efe dy wyneb ? Ond melldigedig yw y twyll- odrus, yr hwn y mae yn ei ddiadell wrryw, aca adduna ac a abertha un llygredig i'r Arglwydd; canys Brenin mawr ydwyf fi, medd Arglwydd y lluoedd." Dylai aberth moliant, fel pob aberth arall, fod <;yn ddi- anaf." Tuag at benderfynu pa beth yw ein dyledswydd, mae y cwestiwn yn codi, beth yw ein manteision. Nid yr un peth a ddisgwylir oddiwrth farbariaid ag oddinrrth bobl yn nghanol cyfleusterau gwlad wareidcÜedig.