Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 41 TYSTEB MR. AMBROSE LLOYD. O'r lioll feibion a nierched cerddorol a fagwyd i Gyniru, nid oes neb ag sydd yn haeddu mwy o barch na Mr. John Arabrose Lloyd. Er ys amser yn ol, yn ngwyneb fod Mr. Lloyd, o herwydd gwaeledd eiiecbyd, wedi rhoddi heibio ei alwedigaeth, daeth i feddwl nifer o'i gyfeillion yn Liverpool a lleoedd eraill, i wneyd ychydig o dysteb iddo. Nos Lun, Medi 23, rhoddwyd ciniaw yn y Dudley Arms Hotel, Ehyl, ar yr achlysur o gyflwyno iddo yr arwydd hwn o barch. Cymerwyd y gadair gan y Parch. Dr. Butterton. Ar ei law dde, eisteddai Mr. Lloyd, ar ei aswy ei ddau fab, Mri. W. A. Lloyd a J. A. Lloyd, ieu., ac o amgylch y bwrdd tua ohant o foneddigion o Rhyl a lleoedd eraill. Ar ol gwneyd cyfiawnder a'r arlwy ddanteithiol a barotoisid i'r corph, aed yn mlaen at brif orchwyl y Oj-nulliad. Ar ol myned trwy y defodau o yfed iechyd y Frenhines, &c.,_ a darllen rhai llyrthyrau oddiwrth gyfeillion na allent fod yn bresenol, yfwyd iechyd Mr. LÌoyd, a darllenwyd yr anerchiad canlynol iddo :— " Ar ran y pwyllgor a benodwyd yn Ehyl a Liverpool i godi trysorfa er eich anrhegu a thysteb, y mae genym yr anrhy dedd o ofyn eich derbyniad o bwrs o 200 punt. Yr ydym yn ei roddi i chwi fel datganiad o edmyg- edd o'ch talentan, diolchgarwch am eich cysegriad dihunan-gar o honynt er gwellhau eich cydwladwyr, a pharch i'ch cymeriad personol. Dymunem gydnabod eich hymdrechion naeithion a Uwyddianus er dadblygu a thaenu archwaeth at a gwybodaeth o'r gelfyddyd ardderchog a dyrchafedig o gerddoriaeth, ac yn enwedig y rhan helaeth a gymeras- och yn y rhagoroldeb sydd yn bresenol yn nodweddi cerddoriaeth eglwysig y Cymry. Y mae eich cynyrchion yn adnabyddus yn ein holl addoldai, a chan eu bod yn cydgordio mor gywir ag fâith ac anadliadau yr enaid dynol, byddant o angen- Aeidrwydd yn dal lle uchel yn ngwasanaeth mawl. Dymunem gydnabod hefyd y gefnogaeth werthfawr aroddasoch i'r Eisteddfod Genedlaethol, a'ch parod- jwydd !)-,]-, amser i gynorthwyo unrhyw symudiad a 'Jddai yn tueddi er gwelliant a chynydd cich gwlad achcenhedlaeth. .." ydym yn gweddio ar i'ch bywyd gael ei arbed yn Il.lr> ac ar i iechyd, llwyddiant, a bendith yr Hollalluog eichdilyn." . îr oedd yr anerchiad wedi ei arwyddo gan swyddog- jon y ddau bwyllgor; ac yr oedd wedi ei ysgrifenu yn rydferth, a'i wneyd i fyny yn y modd mwyaf chwaeth- ^s ac addurniadol. Yr oedd y pwrs wedi ei weithio sída üawer iawn o fedrusrwydd gan Miss Brown. aelod °8orMr.LloydynEhyl. Mnabyddwyd yr anrheg gan Mr. Lloyd yn ei ddull -mi, chwaethus a charedig ei hun. Yn y lle cyntaf, oedd yn teimlo diolchgarwch i'w gyfeilìion am gario baH ?U ^amcan mor Hwyddianus; ei ail deimlad oedd Wûp luT am *°^ e* gyfeilüon yn ystyried yn briodol «euthur hyn iddo; a'r trydydd, gostyngeiddrwydd, wrth ofyn iddo ei hun pa beth a wnaethai i deilyngu hyn. Nid oecld wedi gwneyd braidd ddim; yr oedd dwsinau ac ugeiniau wedi gwneyd mwy nag ef. Teimlai ofid fod hyn wedi cymeryd lle mor ddiweddar yn ei fywyd, pryd na allai ddisgwyl gwneyd dim a fyddai yn deilwng mewn ffordd o ad-daliad; ond carai wneyd mwy eto os arbedir ei fywyd. Gyda golwg ar yr hyn a ddywedasai cadeirydd ac ysgrifenydd pwyllgor Ehyl, nad oeddynt yn gwybod pwy oedd, nac o ba le y daethai, dymunai egluro y pethau hyn i'w gyfeillion am y waith gyntaf. Ganwyd ef yn y Wyddgrug, bedwar dhvrnod o flaen brwydr Waterloo, gyferbyn a masnachdy a elwid Cefn-y-gadair, a gedwid gan rieni Glan Alun. Yr oedd ei dad, Enoch Lloyd, yu asicuydd a dodrefn-wneuth- urwr; yr oedd hefyd yn bregethwr lleol gyda'r Bed- yddwyr, a chymerodd wedi hyny or'aleglwys. Yr o,:-dd ei frawd henaf (Isaac Lloyd) yn adnabyddus iawn erys haner can mlynedd yn ol, fel meiutonydd, areiîhiwr, llenor, a bardd, ac adwaenid ef wr:h yr enw Cynddelw. Mae y bardd sydd ya myned wrth yr enw hwnw yn bresenol wedi datgan ei ofid lawer pryd am gymeryd yr enw pryd na wyddai i bwy y perthynai yu flaencrol. Yr oedd yn gyfaill mynwes d i'r Parch. John Blackwell, B.A. (Alun), ac efe oedd golygydd gweithiau Alun. Aeth ei frawd i Liverpool i gadw ysgol, ac wedi hyny galwodd am dano yntau i gymeryd gofal y plant ieu- angaf, ac i ddysgu ei hun. We>lí hyny rhoddodd ei frawd yr ysgol i fyny, ac aeth i olygu papyr newydd— y Blaclcburn Standard. Cafodd yntau le mewn ysgol fel cynorthwywr; wedi hyny efe a aeth i ysgol Picton, ac oddiyno i ysgol y Liverpool Mcchanic's Institute. Dechreuodd yn yr ysgol isaf, ond wedi hyny penodwyd ef yn athraw yn yr ysgol uchaf, ac arosodd yno am un mlynedd ar ddeg. Trwy fod ei iechyd yn gwanhau, efo a ymadawodd, a bu am ychydig yn y lithographic business, ac wedi hyny yn trafaelio gydag un o'r Cryn- wyr. O'r diwedd, pa fodd bynag, aeth i drafaelio yn Nghymru dros dy Mri. Woodall a Jones. Tua phedair blynedd yn ol, cafodd afiechyd trwm iawn yn Nghaer; a dylasai roddi ei waith heibio y pryd hwnw; ond arol cael adferiad mewn rhan, ac yn ngwyueb fod ganddo deulu lluosog o blant, ailymaflyd yn ei waith a wnaeth. Pan yn y Wryddgrug yn fachgen, byddai yn myned i'r "CapelMawr" (capel y Meíhodistiaid Calfinaidd), a thrwy fod ganddo lais da, byddai yn arwain y trebles ; a thrwy ei fod yn yr Ysgoí Genedlaethol, efe a ymunodd hefyd a chor yr Eglwys. Yn Lirerpool, byddai yn mynychu Eglwys Dewi Sant, ac yuo y dysgodd efe werthfawrogi gwasanaeth prydferth yr Eglwys—ar- graffiadau pa un sydd heb ei lwyr adael hyd y dydd hwn. Ar ol ymadawiad ei frawd, efe a aeth i gapel Brunswick Street, ac wedi hyny i gapel Bedford Street, ac yn olaf i gapel yr Annibynwyr yn Great Crosshall Street, Ue yr oedd ei gefnder, y Parch, W. Ambrose. Derbyniwyd ef yn aelod yn yr eglwys hono gan y Parch. W. "Williams, y Wern. Nid ydoedd yn ddyn plaid; dysgasai weled fod daioni yn perthyn i bob enwad, ac estynai ddwylaw cymdeithas i bawb, fel y gallai wneyd pob daioni a allai. Cymerwyd rhan yn y gweitbrediadau dilynol gan amrywiol foneddigioa j a theimlai pawb yn falch o gael