Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEEDDOR Y TONIC SOL-FFA. 37 tOnyddiaeth y sol-ffawe. Nid oes gaii y Cymry hyd yn hyn ond ychydig iawn o fantais i ddysgu lleisio. Nid oes un athraw yn rhoddi gwersi ar hyn yn y Dywysogaeth; ac nid oes dim yn argraffedig ar y pwnc ond y gwersi a geir yn y Cerddor Cymreip, a'r cyfarwyddiadau a roddir yn Llyfr y Llais. Wrth ystyried yr anfanteision dirfawr dan ba rai y llafuriant, nid ydyw yn rhyfedd mewn un modd fod y Cymry yn ol i'r Saeson yn y peth neillduol hwn. Y mne Mr. Curwen wedi rhoddi cyfarwyddiadau lled helaeth ar y pwncyn y Standard Course, yn ei Grammar of Vocal Music, ac yn y Beporter- Ar y mater hwn, fel pob mater arall, y mae yn ysgrifenu yn fanwl a gofalus; ac ymddengys fel pe byddai wedi astudio y pwnc gyda chymorth y prif athrawon. Y mae yn ddy- wediad cyffredin, pa fodd bynag, yn Llundain a phrif drefydd Lloegr, fod Tonyddiaeth llais y Sol-ffawyr, nid yn unig yn wahanol i'r eiddo cantorion eraill, ond yn waeth na hwynt. Nid ydym mewn sefvllfa i allu barnu drosom ein hunain pa un a ydyw yr haeriad hwn yn gywir ai peidio; ond y mae yr ychydig droion y cawsom gyfleustra i wrando corau Tonic Sol-ffa yn Llundain wedi ein gogwyddo i dybied fod gormod o wirionedd yn yrbneriad. Yr ydym wedi crybwyll ein hanfoddlon- rwvdd i'w dull yn lleisio fwy nag unwaith yn y Cerddor. Y mae Mr. Charles Lunn, gwr ag sydd wedi talu llawer o sylw i'r pwnc, yn ysgrifenu arno fel y can- Jyn:— "Nidoesun effaithheb achos. Ymddengys fod corph y Sol-ffawyr heb wybod yr achos paham y maent hwy yn cynyrchu gwaelach ton na chorau eraill, ac felly nid ydynt yn gwybod pa fodd i symud yr achos o hyny. Fel corph, mae y Sol-ffawyr yn gweithio yn well nag eraill; ond y mae cynyrch da yn dibynu ar weithio yn ìawn. Fy achwyniad i yn eu herbyn ydyw, nad ydyw y rhai sydd yn gweithio yn gweithio yn iawn. "Mae yr athrawon mwyaf llwyddianus mewn cy- nyrchu ton yn dysgu bob amser yr hyn a elwir gan Sig. Garcia yn * ysgytiad y glottis.' Y mae yn beth hollol yn ei le i gantorion corawl gael addysg mewn cynyrchu ton, o herwydd ton ydyw prawf-safon canwr feí y mae lliw i baentiwr; ac y mae Mr. Curwen yn ei Standard Course wedi ymdrechu rhoddi hyn. Ÿn anffodus ar- weiniwyd ef ar gyfeiliorn gan y llyfr niweidiol hwnw, Tlie Yoìce in Singing. FeÌ hyn y dywed Mr. Curwen:— ' Pan y sonia Garcia ac athrawon eraill am "ysgytiad y glottis," y maent yn cyfeirio at y oauad tyn sydd yn canlyn ar ol aeoriad y gwefusau hyn o eiddo y Brefant (LarynosJ* Y mae hyny yn anghywir, ond nid yw yn gwneyd dim gwahaniaeth. Dylesid dweyd fod yr ys- gytiad yn cael ei achosi gan ryddhad (neu laciad) y llinynau gau, pryd y mae y rhai gwir yn cadw eu sefyllfa gyfochrog. Gellir teimlo yr ysgytiad mewn pesychiad ysgafn, neu wrth swnio yn eglur y llythyren , * Ceir eglurhad helaeth, yr helaethaf yn Gymraeg, ar yr 29° ^ Ueisio1 yn y Cerddor Cymreig, Khif. 23, 25, 27, g neu lc. Mae y fantais hon gan y gair Scala, trwy fod ei sill gyntaf yn gorfodi "ymdoriad" eglur y llafariad; ond wrth ei ddefnyddio ni ddylai yr s ond yn brin gael ei chlywed, a rhaid yngan yr c yn eglur.' " Yn awr, yr wyf fi yn dweyd (a gallaf ei brofi os yn angenrheidioí) fod yr ataliad hwn gan lythyren yddfol yn yr agorfa, y peth mwyaf niweidiol ag sydd yn bosibl, o herwydd yn lle dwyn y tanau lleisiol yn nes, y mae yn eu gwahanu, ac yn lle yr hyn sydd wir, y mae yn rhoddi gau ataliad ag sydd trwy gydwasgiad yn enyn llinyn ììyslynaidd y fynedfa ;trwy ba un yr â y sain, a'r canlyniad fydd yr hyn a elwir ' crygni'r parson.' Mae y glottis yn sefyll yn mhell islaw y lle y cynyrchir yr c, yr hon a gynyrchir trwy ryddhad ataliad a wneid trwy ymlyniad y tafod wrth y taflod, a gellir dweyd y gydsain mewn sibrwd ; ond cynyrchir yr ' ysgytîad' tu cefn i 'afal Adda,' ac y mae yn ymdoriad o'r awyrgyd- wasgedig rhwng y gau a'r gwir linynon lleisiol. " Yn mhellach, fel pe byddwn yn rhwym o wrthbrofi y cyfeiliornad hwn, mi a welais achos yn mha un y galíai y claf roddi ysgytiad pur i'r glottis, ond nis gallai ddweyd g, x, ~k, q, na c galed. " Nid oes genyf un amcan wrth ysgrifenu ond awydd gwasanaethu y gelfyddyd o leisio yn dda, pa un bynag ai í?an Sol-ffawyr neu ddisgyblion rhyw gyfundrefn arall. Mewn trefn i ddysgu cynyrchu ílais, y mae tri pheth yn angenrheidiol:—Yn gyntaf, adsefydlu mant- oliad (tonyddiaeth) yn ermyg uniougyrchol y swn; yn ail, symud ymaith bobataliadauniweidiol,a'r llythyren c (a k) yn eu mysg; yn drydydd, symud ymaith y cym- deithasiad tybiedig rhwng organau ymadrodd ac organ- au lleisiadaeth, fel y gallar llywodraethu y naill yn annibynol ar y llall." Eyderwn y bydd athrawon a disgyblion y Tonic Sol- ffa yn talu sylw mwy nag erioed i gynyrchiad a llyw- odraethiad y llais yn y tymor sydd yn awr ar ddechreu. " LLUNIO Y GWADN FEL BYDD Y TEOED." Syr,—Mae y darllenydd yn cofio mai yr hyn oedd genym dan sylw y tro o'r blaen ydoedd, Corau yn canu darnau rhy anhawdd; ond yr hyn fydd genym y tro hwn fydd " Corau Cymreig yn canu Saesoneg." Yr ydym yn rhyfeddu wrth ddarllen hanes cyngherddau yn Nghymru fod cymaint o ddarnau Saesoneg yn cael eu canu, yn enwedig yn y rhanau hyny o Gymru ag y gwyddom fod Saesoneg yn mron mor ddieithr iddynt a Hebraeg. Nid ydyw yn syn fod trigolion Clawdd Offa yn canu tipyn o bob peth, o herwydd gwyddant hwy os na wnant hyny na fydd ond oferedd iddynt ddisgwyl cynulleidfa fawr. Ond am y rhanau ereill o Gymru, nid oes ganddynt un rheswm i'w roddi. Os dywedant eu bod yn methu cael digon o ddarnau Cymreig, gwydd- ant nad y w hyny yn wirionedd; os dywedant mai er mwyn enill cynulleidfa y maent yn gwneyd, gwyddant eto fod hyny yn gyfeiliornad. Feallai fod rhywun yn