Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC SOL-EFA. 33 Y DIWEDDAR DR. LOWELL MASON. Anaml y cafodd neb oes feithach i wneuthur daioni nag a gafodd y cerddor poblogaidd, llwyddianus sydd newydd gymeryd ei ehedfa oddiar y ddaear yn yr America. Yr oedd Lowell Mason yn awdwr, yn gy- hoeddwr, ac yn ddyn enwog gyda cherddoriaeth cyn bod rhai ag sydd yn myned mewn oedran yn bresenol wedi eu geni. Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf yn Bos- ten yn 1821—mwy na haner can mlynedd yn ol, ac yn hwnw yr ymddangosodd gyntaf ei Don gynulleidfaol a ddaeth mor boblogaidd yn America a Phrydain, sef Missionary (Llyfr Tonau Cynulleidfaol, Ehif. 110). Ar ol hyny, dygwyd lliaws o gasgliadau allan ganddo ef ei hun, ac mewn undeb ag eraill, y rhai, ynghyd a'r dos- barthiadau cerddorol a'r holl beirianwaith y bu efe yn foddion i'w sefydlu, a roddasant fywyd newydd mewn cerddoriaeth yn yr Unol Daleithiau, ac a roddasant i gerddoriaeth yn y wlad hono ei nodwedd a'i delw neill- ûuol yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf. Yr oedd Dr. Lowell Mason yn un o'r cyfansoddwyr mwyaf poblogaidd, yn un o'r athrawon mwyaf medrus, ac yn ddyn ag yr oedd ei holl galon a'i ysbryd yn ei waith. Ar ryw gyfrif, yn wir, efe ydoedd creawdwr cerddoriaeth grefyddoí America. Nodwedd arbenig ei gyfansoddiadau oedd bywiogrwydd; ac y mae holl gyfansoddwyr y wlad wedi cymeryd eu cyweirnododdi- wrtho. Cafodd gydwoithwyr egniol a medrus yn Thos. Hastings. G. J. Webb, a J. B. Woodbury ; a disgyblion iddo, meibion vn wir, ar ei lun a'i ddelw ei hun, i fesur helaeth, ydyw'W. B. Bradbury, G. F. Root, T. F. Se- ward, a'i olynydd a'i berthynas Luther Mason. Math o gyfaddasiad o gyfundrefn Nägeli, ar gynllun Pest- alozzi, gyda "doh eymudol," wrth gwrs, ydoedd ei gyfundrefn. Ganwyd ef yn Medfield, Massachusetts, ar yr 8fed o Ionawr, 1792. Amlygodd chwaeth at gerddoriaeth pan yn ieuanc iawn. Yr oedd yn arweinydd cor yn ei dref enedigol pan yn llanc ; a phan symudodd i Savannah, yn ysgrifenydd mewn Bank, penodwyd ef yn arweinydd canu mewn un o'r eglwysi Presbyteraidà mwyaf yn y dref. Ar ol dyfod yn adnabyddus fel cerddor trwy ?ylchrediad cyflym ei Lyfr Tonau cyntaf, ymsefydlodd yn Boston, ac ymgysegrodd yn llwyr at wasanaeth cerddoriaeth. Yn 1855, cafodd y gradd o Ddoctor mewn Cerddoriaeth—y cyntaf a gafodd y radd hono yn Aruerica—gan Brif Ysgol New York. Bu drosodd yn Ewrop fwy nag unwaith. Parhaodd i lafurio yn fywiog a gweithgar hyd o fewn ychydig i amser ei farwolaeth. fiu farw yn Örange Vaíley, ar yr lleg o Awst, 1872, ^edi gadael 80 mlwydd oed. î GERDDORIAETH YN Y RHIF. HWN. Y mae bellach amryw ílynyddoedd er pan y mae aosharthiadau Tonic Sol-ffa wedi eu sefydlu mewn awer o leoedd; ac y mae yn dda genym ddeall eu bod yn cael eu cynal ymlaen gycla chysondeb trwy y blyn- yddoedd mewn rhai manau, er fod manau eraill o ba rai y mae dosbarthiadau Sol-ffa wedi diflanu, o herwydd lluddio iddynt gan farwolaeth barhau. Lle mae dos- barthiadau yn cael eu cynal yn gyson a rheolaidd, y mae cynydd mewn gallu a medr cerddorol yn cymeryd lle; ac nid cerddoriaeth o nodwedd elfenol a syml iawn a wna y tro iddynt. I gyfarfod ag angen a chwaeth y cyfryw, ymddengys i ni mai buddiol—angenrheidiol, yn wir, ydyw cyhoeddi o bryd i bryd ddarnau o'r gerdd- oriaeth fwyaf pur a chlasurol. Gwyddom y byddai yn hawdd iawn i ni lenwi ein Cerddor a phethau mwy "poblogaidd," ond y mae yn amheus iawn genym ai nid oes gormod yn ciel ei aberthu ar allor pobíogrwydd y dyddiau hyn yn Nghymru. Byddai o werth anrhaeth- ol pe ymdrechai athrawon i feithrin yn ein dosbarth- iadau Sol-ffa archwaeth at y pur, y prydferth, a'r coeth. Tuag at eu cynorthwyo yn hyn, yr ydym yn ein rhifyn diweddaf wedi argraífu dernyn bychan tra choethedig o waith Moüirt; a heddyw yr ydym yn gosod ger ea bron un o'r darnau mwyaf goruchel o gerddoriaeth gret'yddol a gyfansoddwyd erioed. Dywed Mr. Edward Holmes am dano :— " Y mae hwn yn un o gynyrchion mwyaf y gelfydd- yd. Y mae ei effeithiau a'i arddull mewn symledd, eangder, ac arddur.cJJ digymar." Am gychwyuiad yr ehedgan efe a ddywed —"Nid oes neb ag a'i clywodd a all anghofio ei hefiaith trydanol. Ni ddarfu i Handel erioed daro yn fwy fel taranfollt." Bydd i'r corau írotío fod eisiau nerth, manylrwydd amser, ac arddunedd yn yr ehediant hon. Carem yn fawr pe clywem fod ein dosbarthiadau wedi dysgu, ac yn canu yn efteithiol y dernyn tra mawreddog hwn. Carem hefyd gael gair o farn a theimlad yr athrawon gyda golwg ar gyhoeddi ychwaueg o ddarnau o'r dos- barth hwn. GOHEBIAETH. Syr,—Canu ydyw pwnc y dydd yn mysg ieuenctyd Cymru y dyddiau hyn. Dysgir darnau anhawdd a chelfyddgar ar gyfor cystadleuaethau a chyngherddau; ac mae yn ddiddadl fod y llafur, ar y cyfan, yn ateb dyben da. Ond y raae corau gwledig yn llafurio dan anfantais ddirfawr i allu canu Uawer o gyfansoddiadau yn effeithiol, ac i osod allan feddylddrychau neillduol y cyfansoddwyr, yn gjTmaint a bod y tcrmau a arferirgan ein cyfansoddwyr yn cael eu rhoddi yn Saesneg, Ital- aeg, neu ryw iaith ag nad ydyw v Cymro uniaith yn ei deall. Yn ngwyneb hyn, fy uymuniad i, a llawer heblaw fi, ydyw, ar i gyfansoddwyr Cymru ddefuyddio geiriau o'u hiaith eu hunain i ddyuodi pa fodd y byddant am i'w cynyrchion gael eu canu. Beth all fod yr achos fod cyfansoddwyr Cymru—gweithwyr heb ond ychydig o fanteision addysg gan mwyaf, yn defnyddio y termau estronol hyn ? Ai tlodi yr iaith Gymraeg, anwybod- aeth o honi, ynte rhywbeth arall ? Mae yn sicr y