Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. 21 CHWAETH CEEDDOEIAETH Y SOL-FFA. y mae yn dda iawn genym weled athrawon a dos- barthiadau y Tonic Sol-ffa yn Nghymru yn ymgadw, yda graddau helaeth iawn o ofal, rhag cerddoriaeth cael a llygredig. Dvmunem fod yn bob cymorth ddynt yn y mater hwn. Yr ydym yn credu yn ylanwad cerddoriaeth. Credwn fod ei gallu yn jruthrol bwysig i gymeriad gwlad a chenedl. Y mae jerddoriaeth wael, gyda geiriau gweigion neu lygr- ìdig, yn un o'r pethau mwyaf dinystriol i ddynion euainc. O'r ochr arall, y mae cerddoriaeth dda, iur, brydferth, ar eiriau coeth a dyrchafedig, yn un i'r pethau mwyaf rhinweddol i goethi a dyrchafu y neddwl a'r cymeriad. Ar yr egwyddor hon, yr rdym wedi gwrthod cyhoeddi dim o duedd isel a ;wag, heb son am y llygredig, yn y Cerddor Sol-ffa. ^yddai yn anmhrisiadwy werthfawr yn ein golwg pe yddai pawb yn gydwybodol a difrifol yn gwneyd yr n modd. Nid oes neb a all amgyffred y nerth sydd ,n bethau isel ar ol unwaith caei ychydig o flas nynt. Un ffordd arbenig yn mha un y maent yn neyd niwed ydyw trwy dynu blas ac archwaeth diar bethau sylweddol a phur. Yr ydym yn ofni nad ydyw y gofal dyladwy yn el ei arfer yn y cyfeiriad hwn. Gwelsom rai Caneuon " yrj ddiweddar yn y Gymraeg ag na fedrai .n cydwybod eu cymeradwyo mewn un modd i nenctyd ein dosbarthiadau. A phaham y cymhellir thach Neuaddau Cerddorol a Chyngherddau isel 'oegr i sylw ein plant a'n cerddorion ieuainc? Pa- m y cynygir darostwng ein chwaeth at y pethau aelion hyn? Y mae digon o gerddoriaeth o'r sparth puraf yn barod i'w gwasariaethu; a phe na ddai genym ddigon, y mae nifer fawr o gyfansodd- r yn ein gwlad ni ein hunain a fedrant gyfan- idi cerddoriaeth fwy rhagorol na'r pethau hyn. Y mae un cyfeiriad arall ag y chwenychem roddi i arno yn y lle hwn. Yr ydym yn gweled rhai eillion yn ceisio rhoddi geiriau crefyddol ar ein alawon Cenedlaethol. Nid ydym yn dweyd na gwyd alawon Cenedlaethol i arferiad fel Tonau ulleidfaol. Gwnaeth Luther hyny, a gwnaeth nc ac eraill yr un peth. Ond nid ydyw hyny yn prawf y dyliä ceisio gwneyd y cyfryw beth eto. 'heswm paham y dygent hwy yr alawon hyny i 'anaeth y cysegr öfcdd am fod prinder o l.'onau. oedd Tonau cysegredig a chrefyddol i'w cael, ac oedd nifer y rhai a allent gyfansoddi y cyfryw nau ond ychydig iawn. Erbyn hyn y mae yn llol wahanol. Y mae cyflawnder mawr o'r Tonau íyddol goreu wrth law ât bob math o wasanaeth, y mae yn y byd gerddorion wrth y canoedd a fedrant wasanaethu i gyflenwi pob diffyg yn y cyfeir- iad hwn. Cadwer, gan hyny, yr hen alawon Cym- reig, a hen alawon cenedlaetbol pob gwlad yn wir, at wasanaeth moesoldeb, rhinwedd, a gwladgarwch. Y mae y maesydd hyny yn ddigon eang. Dyger hwynt i arferiad ar eiriau pur a da yn y cyfarfodydd dirwestol, yn nghyfarfodydd Egin yr Oes, ac yn y Cyfarfodydd Llenyddol. Ond ein barn a'n teimlad ni, a hyny ar ol sefyll yn hir ac yn bwyllog uwch ben y pwnc, ydyw, nad oes angen, ac na ddylid ceisio eu ìlusgo i mewn i'r cysegr ar eiriau cre- fvddol. UNDEB DINORWIC, DISGWYLFA, A CHEFNYWAEN. Dydd Sadwrn, Mai 4, cynhaliwyd cyfarfod gan ddos- barthiadau yr Undeb hwn yn nghapel Disgwyìfa, i'r diben o roddi arddangosiad o'u gwaith a'u cynydd yn ystod y tymor a aeth heibio. Yr oedd y tri dosbarth yn y gauaf diweddaf dan ofal Mr. Hugh H. Parry, yr hwn sydd wedi gwneyd llawer iawn i ddyrchafu cerdd- oriaeth yn y dosbarth hwn, ac yn enwedig gyda'r Tonic Sol-ffa. Trodd yr hin yn anffafriol yn y prydnawn, fel na ddaeth ynghyd ond ychydig heblaw aelodau y dosbarth- iadau. O herwydd yr un achos hefyd ni chafwyd presenoldeb y Parch. J. Jones, Llanrug, yr hwn oedd i lywyddu yn y prydnawn. Yn ei absenoldeb, dewiswyd Mr. Pritchard, athraw yr Ysgol Frytanaidd; adygwyd y s;waith ymlaen fel hyn. I ddecbreu, canwyd y Don Gynulleidfaol Lledrod. Gwers anhawdd iawn ar y Modulatnr, gan Mr. Parry. Tarewid y cyfryngau mwyaf anhawdd gyda sicrwydd diwyro gan y rhan fwyaf o lawer o'r disgyblion. Canu Hen Gymru fy ngwlad, gan ddosbarth Cefnywaen. Gwers ar Amser, yn cynwys chwarteri, teir-ranau, gorphwysiadau, o'r fath fwyaf anhawdd, gan y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt). Er nad oedd pawb yn berffaith yn y wers hon, yr oedd yr ymarferiad, ar y eyfan, yn rhagorol. Canu Corn y Gad, gan ddosbarth Disgwylfa. Gwers mewn dweyd seiniau wrth eu gwrando, gan Mr. Parry. Anhawdd oedd iddo daro unrlìyw gyfryngan na byddai iddynt eu dweyd a'u canu ar ei ol. Canu Glan y Nant, gan gor Dinorwic. Gwersi lleisiol gan Ieuan Gwyllt, ar " Sca—la," ac ar lafariaid yr iaith Gymraeg. Canu Hallelujah Chorus, gan y dosbarthiadau ynghyd. An- fynych y clywsom yr amser yn cael ei gadw yn fwy cywir trwy yr holl ddarn. Erbyn yr hwyr, yr oedd y gwlaw wedi mynedheibi \ ac yr oedd yr addoídy lawer yn Uawnach. Cymerwyd y gadair gan y Parch. G. Pany, Llanberis. I ddechreu canwyd Llangoedmor. Gwers anhawdd ar y Modulator gan Ieuan Gwyllt. Canu Hymn Marseillaise, gan ddosbarth Cefnywaen. Gwers ar "Eynegiant Cerdd- orol," gan Ieuan Gwyllt, yn cynwys ymaiferion ar y gwan a'r cryf, gwanhad a chryfhad, byrseiniau,