Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDOR Y TONIC SOL-FFA. ÍNDEB CERDDOEOL GLANAU TEIFI AC AERON. | Mae yn dda genym weled fòd yr Undeb hwn wedi ei osod i lawr ar seilian mor dda, a chlywed ei fod jn myned yn mlaen mor llwyddianus. Deallwn fod daioni dirfawr wedi ei wneyd yn barod trwy y sym- Ẁdiad hwn. Mae y cynydd yn nifer y rhai sydd yn èlluog i ddarllen cerddoriaeth yn fawr iawn, ac yn enwedig wrth ystyried mai peth hollol newydd mewn lìawer cymydogaeth oedd y Sol-ffa cyn y symudiad îjwn. Ceir gwrthwynebiad, wrth gwrs, i'r gwaith da Itwn fel i bob gwaith da arall; ond y mae y mwyaf- lif mawr—yn weinidogion, blaenoriaid, a'r dynion mwyaf crefyddol, yn hynod o bleidiol iddo—yn edrych arno fel rhywbeth o Dduw, ac yn disgwyl y gwneir pethau mawr drwyddo. Da genym ddeall fod dros ddwyfil o enwau ar y " Cronicl." Cynhelir y Gymanfa nesaf yn Llangeitho, ddydd fercher, Meh. 5. Disgwylir y bydd yno gynulliad osog, a chanu da. Mae yn ddiau hefyd y bydd .0 ugeiniau, os nad canoedd, yn cymeryd eu tyst- rifau, y rhai a gyfiwynir yn gyhoeddus gan yr einydd, y Parch. J. Eoberts (Ieuan Gwyllt). Yr ydym yn meddwl nas gallwn wneyd yn well na iyhoeddi Eheolau yr Undeb hwn yn y Cerddor. ddengys i ni fod ynddynt lawer o bethau ag y lai Undebau cyffelyb fod ar eu mantais o'u 'elychu. Dyma y Rheolau:— Enw yr Undeb fydd Undeb Cerddorol Glanau ifi ac Aeron. .II. Amcan yr Undeb fydd gwellhau Caniadaeth y rsegr, dyrchafu chwaeth y dosbarth ieuanc i werth- Srogi Cerddoriaeth Foesol a Chrefyddol, a dysgu •wyddorion Canu iddynt yn nghyfundrefn y Tonic p-ffi.—Mae yn achwyniad cyffredinol na all ond fcydig ymuno yn y Canu Cynulleidfaol, am fod y gnau a'r Hymnau yn ddieithr. Ni ellir gwneyd yr feusawd hwn mwyach, gan y byddyr Undebyn rhoddi pwb gyfleusdra i'w dysgu. Mae y Canu Corawl, fel ígelwir, i ddarfod i raddau pell o fewn terfynau yr pdeb, a rhoddir yr amser yn gwbl ar y Sabbath i Bysgu y Tonau a'r Hymnau ar gyfer y Gymanfa. Bydd iCyfarfodydd Oanu Wythnosol yn rhoi mantais i'r bl ieuainc ac ereill i ddadblygu eu talentau yn y agea oll-bwysig hon o wybodaethj ac er mwyn fneyd hyn yn eglur i bawb, rhodder annerchiadau ÿnych o r pwlpud a lleoedd ereill ar y dymunoldeb o m, a'r angenrheidrwydd am dano. / glll. Bod holl achosion yr Undeb i gael eu trefnu gan ffyllgor cynwysedig o ddau gynrychiolydd o bob lle.— Jae angenrheidrwydd anhebgorol am i'r ddau hyn fod |°ymon mwyaf effro a ffyddlawn yn mhob Capel, fel y ■f ddont yn gwir ofalu am holl achosion yr Undeb gar- jh a gwneyd cydwybod i bresenoli eu hunain yn Tre- 'ron ar adeg ymgynulliad y Pwyllgor. IV. Bod Trysorydd ac Ysgrifenydd Cyffredinol a Lleol yn perthyn i'r Undeb, ac i gael eu dewis yn fiyn- yddol.—fiydd y rhai hyn yn aelodau o'r Pwyllgor yn rhinwedd eu swydd. V. Bod hawl gan bawb fyddant yn aelodan o'r Ysgol Sabbathol i ymuno a'r Undeb, ar yr ammod i'r gwyr- ywod dalu ls., benywod, 9c, a phlant dan 15 oed, 6c., yn flynyddol.—Gadewir y dull a'r amser o'u casglu at ddoethineb pob lle. VI. Bod llyfr i gael ei argraffu yn y dull a'r amser y penderfynir gan y Pwyllgor, yn cynwys enwau holl aelodau yn nghyd a phethau ereill perthynol i'r Undeb, ac i gael ei alw Cronicl Undeb Cerddorol Glanau Teifi ac Aeron.—Bydd y 11 'fr hwn yn Docyu Aelod- aeth i bob un a gyflawno ei aJdewid, a rhydd hawl iddo fyned i'r Gymanfa nesaf yn ddidal. Ni bydd y llyfr hwn yn drwydded i neb gyfranogi o freintiau yr Undeb ond i'r aelodau yn unig. Os dewisa rhywun ymuno ar ol argraffu y Cronicl, bydd groesaw iddo, ar yr ammod iddo dalu yn ol y rheol, a chaiff gerdyn yr Undeb yn Docyn Aelodaeth. VII. Bod achos yr Undeb i gael ei roddi o flaen y Cynulleidfaoedd ar y Sabbathau cyntaf o fis Hydref bob blwyddyn, ac i'r sawl a ddewisant ymuno ag ef roddi eu henwau cyn neu ar y 30ain o'r un mis. VIII. Bod Athrawon Trwyddedig i gael eu gosod gan y Pwyllgor yn mhob He yn yr Undeb i ddysgu Elfenau Cerddoriaeth ar gynllun y Tonic Sol-ffa, ac i gael eu talu yn ol fel y penderfynir gan y Pwyllgor.—Ni bydd hawl gan neb i ddysgu canu am gyflog, cyn derbyn y Dystysgrif Cynydd. Os daw cwyn cyfreithlon yn erbyn un o'r Athrawon Cyflogedig ei fod yn esgeuluso mewn rhyw fodd gyflawni ei ddyledswydd, bydd hawl gan y Pwyllgor ei ddiswyddo ar wythnos o rybydd, neu attal rhan o'i gyflog. IX. Bod pob lle i gymeryd y gofal manylaf i dde- chreu a diweddu y Cyfarfodydd Canu yn brydlon. Na oddefir iddynt gael eu dechreu ar ol hanner awr wedi chwech, ac ni chaniateir dros ddwy awr o amser.—Os na ellir dechreu pob Cyfarfod trwy weddi, gofaler eu gorphen felly, fel y bydàont yn fwy teilwng o addoliad y Goruchaf, ac amcau yr Undeb yn cael ei wneyd yn fwy eglur. Ac i'r diben o gario amcan y Eheol hon allan yn briodol, gofaled pregethwyr a bîaenoriaid, yn nghyd a dynion goreu pob lle, fod yn bresenol yn y Cyfarfodydd. Llywydd presenol yr Undeb, yr ydym yn gweled, ydyw y Parch. J. Evans, Abermeurig; ac yr ydym yn gweled ei fod yn cymeryd i mewn 19 o gynulleid- faoedd—i lawr o Gwmystwyth i Lanbedr ac Aber- meurig, ac yn groes o Landdewi a Thregaron (ie a Soar), i Lanafan; a bu agos iddo gipio Lledrod i fyny yn ei freichiau.