Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

k^A \V?<? CEEDDOE Y TONIC SOL-FFA. 17 COLEG Y TONIC SOL-FFA. Ohbrwybd ein bod yn awyddns am wneyd lle i'r oll o'r papyran a ddarllenwyd yn nghynadledd Undeb Sol-fFa Gogledd Cymru yn y Bala yn ein rhifyn di- weddaf, bu raid i ni adael Gweithrediadau Cyfarfod- ydd "Coleg y Tonic Sol-ffa" a gynhaliwyd yn Llun- dain yn yr wythnos ddiweddaf o'r flwyddyn. Ond yn unol a'r hen air " Gwell hwyr na hwyrach ", yr ydym yn ymaflyd yn y gorchwyl heddyw. Cynhaliwyd y cyfarfodydd, dan lywyddiaeth y Parch. J. Curwen, yn PÍaistow, dyddiau Mawrth, Mercher, ac Iau, Rhag. 28, 29, 30. Dydd Mawrth, ar ol cael adolygiad byr a dyddorol ar weithrediadau y Coleg yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, etholwyd 16 o aelodau anrhydeddus—5 o Lundain, 5 o leoedd eraill yn Loegr, 5 o Scotland, ac 1 o Gymru. Wedi hyny, etholwyd Cynghor am y flwyddyn, yn cynwys 28 o aelodau. Y mae 20 o'r rhui hyny o Lundain, 1 o Scotland, a'r lleill o wahanol leoedd yn Lloegr. Gwnaed rhai cyfnewidiadau yn ngyfansoddiad y Coleg; ac yr ydym yn deall y bydd iddo gael ei ar- graffu yn fuan fel y mae yn sefyll yn bresenol. Yn nechreu y cyfarfod yn yr hwyr, galwodd Mr. Curwen sylw at y gwaith pwysig a wneir gyda'r gyf- undrefn yn yr Ysgolion dyddiol. Yma y mae y gwaith yn myned yn mlaen yn gyson ac effeithiol, pryd y mae y dosbarthiadau hwyrol yn anwadal ac weithiau yn marw. Darllenodd Mr. E. J. Curd, A.C., Caer, bapyr a alwai yn " Drem ar Gydgan o eiddo Handel." Dad- ansoddiad llawn a thrwyadl ydoedd hwn o'r Gydgan " Glory to God." Nodai allan y tri thestyn a ddefn- yddir, a'r modd y maent wedi eu gweithio allan gan law alluog y cyfansoddwr. Cafwyd papyr gan Mr. J. S. Curwen yn cynwys nodiadau cerddorol a wnaed ganddo yn Holland, Germani, a Belgium yn ystod yr haf diweddaf. Rhoddodd Mr. Thos. Warr, A.C., Canterbury, wers fel engraifft, er mwyn gwneyd sylwadau beirn- iadol arni gan y gwrandawyr. Yr oedd ei dalent i egluro pob anhawsder a deflid o'i flaen, a'i dymer dda yn dra rhagorol. Darllenodd Mr. Ashcroft, A.C., bapyr ar Ganiad- aeth Gynulleidfaol. Mewn cysylltiad a'r papyr hwn rhoddodd y Parch. J. T. Feaston, gynt o Birmingham, ddisgrifiad o'r drefn a gymerwyd ganddo ef gyda gol- wg ar gerddoriaeth yn nghapel Lozell. Dylai y gweinidog gymeryd dyddordeb arbenig yn y pwnc; a dylai yr Hymnau a'r Tonau fod yn yr un llyfr, a'r llyfr hwnw yn nwylaw yr holl gynulleidfa. Gallai pregeth ar ganu mawl fod yn dda i alw sylw ac i gynhyrfu y bobl at y gwaith; ond ni fyddai hyny yn ateb nemawr o ddiben heb fod peirianwaith wrth law i'w dysgu a'u cyfarwyddo. Tybiai rhai fod cael or- gan dda a chor da yn ddigon; ond ni fu erioed ddim yn fwy camsyniol. Rhaid ydyw cael y bobl i deimlo dyddordeb yn y mater ac i ddysgu cymeryd eu rhan yn briodol yn y gwaith. Darllenwyd papyr gan Mr. Proudman, A.C., ar " Fynegiant cywir mewn cerddoriaeth". a rhoddwyd egluriadau gan Gor buddugol Paris. Yr agoriad i'r holl bwnc ydyw fod y cantorion yn deall ac yn teimlo y geiriau a genir ganddynt. Dydd Mercher, yn nghyfarfod y Cyngor, daeth pwnc tystysgrif yr athrawon dan sylw. Dywedai Mr. Cnrwen ei fod yn gweled yn awr fod yn rhaid cael dwy dystysgrif yn y gelfyddyd o addysgu—un yn gofyn yr intermediate yn rhagarweiniol, a'r llall yn gofyn y tnembers; a bod yr arholiad i gael ei ddwyn yn mlaen mewu rhan gan arolygwyr lleol a benodir gan y Cyngor, ac mewn rhan trwy bapyrau a ddar- perir gan y Llywydd, ac a atebir yn mhresenoldeb yr arolygwr lleol. Gwelai hefyd fod yn rhaid iddo ys- grifenu "Llawlyfr i'r Athrawon." Rhoddai fanylion ychwanegol o'r drefn a fwriedir ganddo gyda golwg ar y tyst-ysgrifau hyn; ond gadawyd y cwbl heb ei benderfynu hyd y cyfarfod a gynheíir yn yr haf. Yn y cyfarfod yn yr hwyr, rhoddodd Mr. Miller wers ar y Langue des Durees, sef y drefn newydd a arferir yn Ffrainc gyda golwg ar ddysgu amser. Syl- wai Mr. Miller ei fod yn canfod mai y prif anhaws- der wrth ddarllen cerddoriaeth ar yr olwg gyntaf yn ol cyfundrefn y Tonic Sol-ffa yw yr amser. Nid oes genym ddim sillau i'n cynorthwyo gyda'r amser fel y mae gyda sain. Ein cyweirnod gyda golwg ar sain yw doh, a'r pwynt y cychwynir o hono gyda golwg ar amser, yn ol y drefn Ffrengig, ydyw dah; y sill hon yw yr enw a roddir ar un curiad. Anogai Mr. Miller bawb i roddi prawf ar y drefn cyn ei chon- demnio. Bu ymddiddan bywiog ar y pwnc; a gohir- iwyd y mater hyd dranoeth. Aeth Mr. Curwen yn mlaen gyda'i bypyrau ar y "Gelfyddyd o gyfranu Addysg." Rhanai y pwnc yn ddwy ran:— I. Egwyddorion y drefn o ddysga o lyír. II. Egwyddorion y drefn o ddysgu trwy y g^ust. Gyda golwg ar y cyntaf, dymunai osod i lawr ac egluro chwech o reolau. 1. Gadawer i'r hawdd ddyfod o flaen yr anhawdd. 2. Dysger yr elfenol o flaen y cyfansawdd. 3. Bydded'fod pob gris, mor bell ag y byddo ya ddichonadwy, yn codi oddiar yr un fyddo o'i flaen, ac yn arwain i fyny at yr un fyddo yn dyfod ar ei ol. 4. Galwer am y deall i gynorthwyo y medr yn mhob gris. 5. Arferer gofal i ddysgu y peth o flaen yr arwydd o hono; a gofaler yr un modd, wedi i'r peth gael ei ddeall, am gysylltu rhyw arwydd arbenig ag ef. 6. Dysger y pethau fyddo yn digwydd amlaf o flaen y rhai mwy an<îbyffredin; ac arweinier y dis-