Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

h^f CERDDOE Y TONIC SOL-FFA. 83 AT EHî GOHEBWYE. Byddwn ddiolcligar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cebdd- or Tonic Sol-ffa gael ei lianfon i ni, i fod mewn llaw ar neu cyn yr 20fed o'r mis, i Rev. John Robeets, Feon, Caknarvon. DRAW AC YMA. Tn yr wythnosau cyntaf yn y mis diweddaf, cawsom fantais i sylwi ychydig ar sef}dlfa cerddoriaeth mewn gwahanol barthau o'r wlad. Cawsom ar ddeall fod ein hen gyfaill llafurus, Mr. E. Roberts, yn parhau i lafurio, gyda mesur da o lvryddiant, yn Liverpool; ond y mae sefyllfa cerdd- oriaeth yn mysg y Cymry yn y dref fawr hono yn mhell o'r hyn y byddai yn ddymunol ei fod. Yn Manchester, cawsom gyfarfod canu cynulleid- faol lled lewyrchus yn addoldy y Methodistiaid Cal- finaidd yn Grosvenor Square, nos Fercher, Tach. 3. Y mae y cyfeillion yn y dref hono wedi mabwysiadu y cynllun da, effeithiol, o ganu yr Hymn drosti, heb roddi y penillion allan bob yn ddwy linell. Ar ol cael prawf o hono, y mae pawb yn lled gyffredinol yn dyf'od yn hoff o hono, ac ni fynent er dim gael yr hen drefn yn ol. Canwyd amryw o Donau felly yn y cyfarfod, a chanwj'd rhai o honynt yn dra dymunol. Yn ystod y cyfarfod hefyd canwyd Psalm xxiii, ar Don syml o waith Tallis. Gydag ychydig o ymar- feriad, deuai y cynulleidfaoedd Cymreigyn y lle hwn? i ganu Psalmau yn y dull hwnyn drefnus ac effeith- iol. Hyderwn y byddant yn teimlo cyn hir eu bod yn ddigon addfed i ddwyn caniadaeth syml o'r fath yma i arferiad yn y cynulleidfaoedd. Yniddengys i ni hefyd, erbyn y bydd yr addoldy newydd yn barod yn y Square, y bydd y teimlad wedi addfedu fel y gellir gosod organ fechan ynddo heb dramgwyddo un brawd gwan. Mae yn wir y ceir rhai yn dadleu, byth a hefyd, yn erbyn pob ymgais a wneir i ddwyn caniadaeth y cysegr i well trefn, gan waeddi mai Pabyddiaeth yw y peth hwn, ac mai üefodaeth yw y llall. Ond byddai yn dda i'r cyfeillion hyny ystyried yn ddifrifol mai eu gwaith hwy yn par- hau i osod cymaint o bwys ar bethau bychain sydd yn galw sylw, ac yn ei gadw i fesur helaeth ar bethau bychain. Heblaw y llafur sydd yma gyda chaniad- leth gynulleidfaol, dan arweiniad Mr. R. Ellis, a'r jefnogaeth galonog a gwresog a roddir iddo gan y jweinidog, y Parch. W. James, B.A., a phobl barch- isaf y gynulleidfa, y mae yma lafur helacth gyda'r >lant a'r bobl ieuainc, dan ofal Mr. J. S. Williams. )ealiasom fod y cerddor Cymreig talentog Mr. John Joyd yn cynal dosbarth Sol-ffa yn y lle bob nos Wener. Hyderwn fod pobl ieuainc y dref yn gweled gwerth y fantais hon, ac yn gwneyd y defnydd goreu o honi. Nid cerddor cyffredin yw Mr. John Lloyd. Y mae dinas Manchester yn ei adnabod ac yn ei gyd- nabod; a da y gwnai holl lanciau a genethod Cym- reig y lle roddi eu hun dan ei addysg. Nos Lun, cawsom wahoddiad i weled a chlywed y Manchester Sol-fa Choral Union dan ei arweiniad ; ac ymddengys i ni fod hwn yn un o'r corau gorau yn y ddinas. Nid anfuddiol fyddai gosod yma restr o'r darnau a gan- wyd yn eu cyngherdd ar y 18fed o Hydref. Byddaí yn dda iawn i gorau ereill eu hefelychu o ran purdeb eu chwaeth. Dyma y darnau:—Morning Prayer (Mendehsohn). As pants the hart (Spohr). Morning Prayer (Costa). Go in peace (Costa). Psalm 95 (Mendelssohn). Old May Morning (Novello). The Captive Greek Girl (Hobbs). Early Spring (Men- delssohn). Autumn Song (Mendelssohn). Should he upbraid (Bishop). Hunting Song (Benedict). Hunter's Farewell (Mendelssohn). Nature's Praise (Smart). National Anthem. Y maeyn lles i lygaid un edrych ar brogram o'r fath yma, yn lle y pethau ffolion, gwagsaw a genir yn rhy fynych o lawer mewn cy- ngherddau yn Nghymru. Deallasom fod Mr. J. Davies yu parhau i lafurio yn bwyllog ac yn gyson yn Salfford, a bod ol y llafur yn amlwg ar ganiadaeth grefyddol yn y lle. Nos Iau, Tach. i, yr oedd un o gyngherddau Mr. Charles Halle yn y Free Trade Hall. Yr oedd tri pheth yn peru ein bod yn dra awyddus am fynedyno. Y cyntaf, a'r penaf ydoedd, mai Miss Edith Wynne oedd y brif gantores, ac nad oeddym wedi cael cyf- leustra i'w gwrando er ys cryn amser bellach. Y pethau ereili oeddynt, fod band Mr. Halle yn un tra rhagorol, a bod ei gydgan yn gynwysedig o bigion cantorion Manchester. Yno yr aethom. Yr Oratorio oedd Samson—hen Oratorio ag y buasern yn canu ynddi lawer gwaith, ac y cawsem gyfleustra i glywed holl brif gantorion Ewrop yn canu ei phrif alawon yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Yr oedd y neuadd fawr yn lled lawn, ond nid yn hollol felly. Y prif gantorion, heblaw Miss Wynne, oeddynt Madam Sainton-Dolby, Mrs. Brook.es, Mr. Cummings, a Mr. Lewis Thomas. Yr oeddym wedi colli y ''Return" gan Madam Dolby, ond y mae adgof o honi yn aros yn newydd ar ein cof er pan y clywsom hi gyntaf, tua 15 mlynedd yn ol. Y mae y gantores hon yn un o'r rhai mwyaf cydwybodol, gofalus,chwaethus,adeallgar. Yr ydych yn cael ypeth—nid rhywbeth, ond y meddwl, heb rynaceisiau,yneinaws a'i ysbryd ei hun. Trueni fod ei llai8 ardderchog yn treulio allan. Darllenai Mr. Cummings gyda chywirdeb a gofal; ond y mae yn rhy oer i ni. Yr oedd llais Mr. L. Thomas wedi ei niweidio gan anwyd, ac felly yr oedd braidd yn fwy cwrs nac arfer. Ond yr oedd Miss Wynne yn ei hwyliau goreu.