Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^J^ [%(\ CEBDDOR Y TONIO SOL-FFA. 59 AT HE GOHEBWYB. Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerdd- OR Tonic Sol-ffa gael ei lianfon i ni, i fod mewn llaw ar neu cyn yr 20/ed o'r mis, i Rev. John Roberts, Fron, Carnarvon. Y Gerddoriabth am y Mis hws tw :— " SAF DROS Y GWIR : " Y Gerddoriaeth yn Americana' dd;—y Geiriau gan Goi/TGTDD. "Y GAUAF:" Gan D. Jenkins ; a'r Geiriau gan Ihlay \ w, "HEN ADGOFION:" Gan R. Mills ; a'r Geiriau gan Iolo Trefaldwyn. Y SOL-FFA A CHANIADAETH YN NGHYMEU. Nid oes neb a wyr ychydig am ddylanwad cerddor- iaeth, ac a wyr hefyd am ragoriaethau amrywiol a phwysig cyfundrefn y Sol-ffa, feltrefn hawdd i ddysgu cerddoriaeth, nad yw yn llawenychu wrth weled y gyfundrefn hon yn myned ar gynydd yn ein gwlad. Y niae wedi myned ar gynydd yn fawr, ac y mae caniadaeth yn ein gwlad wedi manteisio llawer trwy hyny; ond y mae i fyned ar fwy o gynydd eto ; a hyderwn y caniateir i ni ychydig eiriau gyda'r amcan o'i hyrwyddo yn mlaen, a'i dwyn i ddylanwadu yn fwy effeithiol fyth ar ein caniadaeth, ac yn enwedig ar ein caniadaeth grefyddol. Wrth fyned ar hyd a lled y wlad, yr ydym yn cael fod llawer iawn yn gwybod rhyw gymaint am y Sol- ffa. Mae yr ychydig a wyr rhai, mae yn wir, wedi eu perswadio i gredu nad oes ond ychydig o ddaioni yn perthyn iddi, a bod yr hen gyfundrefn yn tra rhagori arni. Ond ychydig iawn ydyw swm gwybod- aeth y cyfryw rai am dani. Y mae y lliaws mawr o'r rhai sydd yn deall ychydig o'i hegwyddorion yn cydnabod fod manteision lawer yn perthyn iddi. Yr ydym yn deall hefyd fod yma a thraw ar hyd y wlad gryn lawer yn ei dysgu; ac y mae canoedd yn ein gwlad yn galln gwneyd rhyw-gymaint o ddefnydd o honi. Ond os edrychwn a llygad agored, nis gallwn lai na chanfod fod diffyg mawr a phwysigmewn cysyllt- iad a'r pwnc o gyfrann addysg. Nid yw y llafur ond ychydig mewn cymhariaeth i'r hyn a ddylai fod; nid yw y llafur yn cael ei ddwyn yn mlaen gyda chysondeb a threfn ; ac nid ydym yn gallu gweled fod amcan arbenig a difrifol yn cael ei gadw mewn golwg wrth lafurio. Mewn rhai ardaloedd, yrhyn a wneir ydyw rhoi ychydig o amser cyfarfod y Èand of Hope at ychydig o ymarferiad ar y Modulator a chanu ton neu ddwy allan o un o lyfran y Sol-ffa. Ond os bydd dosbarth Sol-ffa yn cael ei gynal, y mae y diffyg o iawn drefn, disgyblaeth, a difrifoldeb, mewn llawer lle, yn peru poen a siomedigaeth i sylwedydd craffus a chyfarwydd. Bydd yr ysgolheigion yn dyfod i'r cyfarfod rywbryd, ac wedi dyf'od, bydd yn hawdd gweled na fyddant yn dyfod yno gyda bwriad i weithio yn egn'iol ac o ddifrif. Ychydig iawn o ddysgybl- aeth nac o ddylanwad fydd gan yr athraw; ychydig o sylw delir iddo ; a'r canlyniad ydyw, nad oes ond ychydig iawn o waith yn cael ei wneyd. Daw yr ysgolheigion i'r cyfarfod pan welant yn dda, peidiant pan welant yn dda, ac nid oes dim ymofyn a galw i gyfrif am absenoldeb; ac wedi dyfod, gwnant y peth a welant yn dda, ac yn y ffordd y gwelant yn dda. Y mae yn ammheus ai nid yw cyfarfodydd felly yn foddion i wneyd mwy o ddrwg nag o dda. Ychydig o lafurio gyda chysondeb a threfn a geir mewn llawer o ddosbarthiadau. Yn hytrach na myned yn mlaen yn raddol a chyson o wers i were, bydd yr athraw yn rhoddi ffordd gyda theimladan y plant, yn ysgoi pob gwaith a fyddo yn gofyn meddwl a llafur, ac yn ymfoddloni ar rygni ychydig ar y Modulator a chanu tonau ag na fydd ond ychydig o drafferth i'r plant eu dysgu. Y mae llawer o'r bai bwn, mae yn sicr, yn gorwedd wrth ddrysau yr ath- rawon. Eu gwaith yw tori allan, neu fabwysiadu, y cynllun mwyaf effeithiol i ddwyn y plant i ganu; a myned yn mlaen yn raddol, o wers i wers, o ris i ris, nes cyrhaeddyd y nod. Ni ddylai nn dosbarth fod heb restr o enwau pob nn sydd yn perthyn iddo, a dangosiaeth ar hono o bresenoldeb ac absenoldeb pob un o'r aelodau. Dylai gyfarfod hefyd ar awr bennodol, a therfynu ar amser pennodol; a dylai yr athraw arferyd y gofal manylaf gyda'r naill a'r llall. Dylai y clas-lyfr fod yn llaw pob un o'r dosbarth hefyd; a dylai fod i'r dosbarth ei wers bennodol yn yn y llyfr hwnw yn mhob cyfarfod. Y mae y diffyg yn y cyfeiriad hwn yn dyfod i'r amlwg mewn modd poenus yn yr arholiadau. Bydd yr ymgeisydd, fel rheol gyffredin, yn canu ar y Modulator gyda llawer o rwyddineb ; ond yn methu pan roddir ton o'i flaen i'w chanu ar eiriau, neu yn yr ymarferiad mewn amser. Un achos o hyn ydyw, fod mwy o chwaren nag o weithio yn perthyn i'r dosbarth. Tuag at feddyginiaethu y diffyg a gyfarfyddir mor fynych mewn canu ton ar eiriau hefyd, yr ydym yn