Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fâẁUW} CERDDOE Y TONIC SOL-FFA. 19 AT EIN GOHEBWYE. Am y chwe mis dyfodol, tra y byddo y öolygydd ar ymweliad a'i gydgenedl yn America, anfoner pob Go- hebiaeth i ofal y Cylweddwyr, erbyn y 18/ed o'r mis. Y GEBDDOEIAETH YU Y EHIFYN HWN. Oheewydd fod llawer o'n Solffayddion ieuainc yn cwyno am nad ydyw yr " Amen" i'w chael ar ei phen ei hun yn y noäiant hwn, yr ydym yn ei hargraffu yn y rhifyn hwn. Y,mae y gydgan hon yn un o'r pethau mwyaf mawreddog a gyfansoddodd Handel erioed; ac y mae yn mhob modd yn deilwng derfyniad i oratorio anghydmarol y Messiah. Ni wuaeth Handel ond un Amen. Cynygiodd amryw weithiau; ond af- lwyddianus ydyw pob cynygiad o'i eiddo ond hwn. Yma y mae ei enaid mawr wedi myned i mewn i galon ei bwnc; ac nid gorchwyl hawdd fydd i neb gyfansoddi y fath Amen ar ei ol. Y mae yn sefyll ar ei ben ei hun yn hollol hyd yn hyn, heb ddim tebyg iddo yn yr holl fyd cerddorol. Gwyddom fod y cyfansoddiad yn an- hawdd; ac y mae yn debyg ei fod yn rhy anhawdd i f lawer o ddosbarthiadau Cymru. Y mae ereill, pa fodd bynag, a fedrant ei ddysgu a'i ganu; a rbaid i ni gadw " mewn cof yn wastadol fod eisiau llaeth i'r babanod, a " bwyd cryf i'r rhai perffaith." Gofaler am gadw yr amser gyda manylrwydd. Dechreued pob rhan y test- yn yn mhob man, gydag acen gref ac eglur; a thaler Bylw manwl i'r acen trwy yr holl gyfansoddiad. Heb hyn bydd y datganiad yn aneffeithiol. Bydded yr oslef hefyd yn fawreddog o'r dechreu i'r diwedd. Mae y dernyn bychan arall, o waith Ferrari, i'w ganu yn ysgafn a siriol; ac y mae yn enghraifft neillduol o rai o'r rhanau yn gwasanaethu fel cyfeiliant i'r lleill. Olnodiad.—Trwy garedigrwydd y Parch. H. Parr, yr ydym yn deall fod Mr, Edward Harwood yn byw yn iüdmund Street, Liverpool, yny fl. 1785; a dywedir iddo farw yn 1787. Oyhoeddodd un set o Donau gwreiddiol; a hysbysir un arall yn y fl. 1785, dan yr enw " Ail Set o Donau Hymnau a Salmau, gydag Anthem, gan E. H." Nid ydyw Mr. Parr na ninau wedi gweled y naill set na'r llall. SWN. " Beth yw swn, 'nhad ? " gofynai plentyn bach i'w dad un diwrnod, Beth pe gofynid y cwestiwn i fil- oedd o dadau yn Nghymru ? Yr ydym yn ofni na fyddai gan ond ychydig iawn o honynt un atebiad i'w roddi iddo. Ei ateb jn hollol, yn wir, nis gall neb. Nid oes neb a all ddweyd pa beth yw swn o ran ei hanfod, mwy nag y gellir dweyd beth yw han- fod dim arall. Ond y modd y cynyrchir swn sydd fel hyn. Y mae ein darllenwyr ieuainc yn gwybod, mae yn debyg, ein bod ni yn byw mewn awyr, fel y mae y pysgodyn yn byw yn y dwfr. Y mae llawer iawn o awyr o fewn i ni yn barhaus, a llawer yn cael ei daflu allan, ac yn cael ei dynu i fewn, gyda phob anadliad. Mae y ty yr ydym yn byw ynddo, yr ystafell yr ydyra yn cysgu ynddi, a'r wlad yr ydym yn rhodio ar hyd-ddi, i gyd yn llawn o awyr. Trugaredd fawr yw hyny; oher- wydd heb hyny, nis gallem fyw. Dyna y llanc yn taflu careg i lyn o ddwfr. Mae y gareg yn ysgogi y dwfr. Y mae ton yn ymffurfio ar ei wyneb o am- gylch y lle y daeth y gareg i gyffyrddiad ag ef. Y mae y don yn ymledu. Y mae un arall yn codi, ac yn ymledu ar ei hol; ac un arall, ac un arall; ac y maent yn ymlid eu gilydd, ac yn ymdori ar y lan, Yn debyg iawn i hyny y cynhyrfir yr awyr pan y delo dau wrthddrych i wrthdarawiad o'i mewn. Pan y tare^ir dwy gareg, neu ddau bren caled, wrth eu gilydd, y mae swn o ryw fath yn cael ei gynyrcbu ; ac y mae gwahanol seiniau yn cael eu cynyrchu yn ol ansawdd y gwahanol wrtbddrychau a darewir. Wedi i'r awyr felly gael ei gynhyrfu, y mae y dîrgryn- iad, fel y don ar wyneb y dwfr, yn symud oddiwrth y fan y cymerodd y gwrthdarawiad le, ac y mae dir- gryniadau, neu donau awyrol eraill yn eu canlyn. Os digwydd fod dyn, neu ryw greadur, o fewn pellder pennodol i'r fan y cychwynwyd y dirgryniadau. y maent yn cyrhaeddyd ei glust, ac yn siglo y gloch, neu y tympanum, yn y glust, a hono yn effeithio ar y nerf, fel y mae yr hyn a eíwir swn yn cael ei gyn- yrchu yn y meddwl. Y mae seiniau yn soniarus. neu heb fod, yn ol y cysondeb, neu y rheoleidd-dra gyda pha un y bydd y dirgryniadau yn cyrhaeddyd y glust. Us bydd y dirgryniadau yn gyson, bydd y swn yn soniarus neu gerddorol, os yn anghyson, bydd y swn yn gras ac aflafar ; ac y roae cysondeb neu anghyson- deb y dirgryniadau yn dibynu ar ansawdd y gwrth- ddrychau a'r modd y tarewir hwynt. Nid ydym yn amcanu ysgrifenu traethawd yn y lle hwn ar athroniaeth sain, na dangos pa fodd y cyn- yrchir sain gan wahanol offerynau cerddorol. Ein hamcan yn hytrach yw galw sylw at y llais dynol, a chrybwyíl rhai pethau ymarferol a allant fod yn fanteisiol gyda golwg ar leisio. Mae y peiriant lleisiol wedi ei osod yn y gwddf. Neu a siarad yn fwy man- wl, y mae y peiriant yn cynwys yr ysgyfaint, y bibell wynt, y genau, y tafod, y dannedd, a'r gwefusau. Megin y peiriant yw yr ysgyfaint. llon sydd yn taflu, awyr allan, ac yn tynu awyr i fewn yn barhaus. Mynedfa yr awyr yw y bibell wynt; ac o fewn hon y mae yr hyn a elwir mewn modd arbenig yn beir- iant lleisiol. Y mae yn cyn.vys nifer o gylìyrau, neu»