Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Cm^Ŷ^ &**& CERI)D0R Y T0NIC SOL-FFA. Y GEEDDOEIAETH TS Y EHIPYN HWÎT. PAB, I MI WYBOD DY FFYRDD; Anthem ar Psalm xxv. 4, 5, 6, 7, 20, 22, gan y diwedd- arMr. Darid Harries, Carno; wedi ei chynghaneddu gan I. Gwyllt. AT EIN DARLLENWYE. Yr ydym yn dechreu heddyw ar orchwyl ag y buom yn meddwl er ys cryn lawer o amser am dano. Caf- odd y Cerddor Cohihig yr hyfrydwch o ddwyn cyfundrefn y Tonic Sol-ffa gerbron y wlad, mewn cyfres o lythyrau gan ein cyfaill a'n cyd-weithiwr j talentog, Mr. E. Eoberts, Liverpool. Wedi hyny, darparodd Mr. Roberts y " Llaẅ lyfr," a chyfieithodd 'y "Gyfres Elfenol" o eiddo Mr. Curwen, yn mha rai y ceir Uawer o hyfforddiant yn y gyfundrefn, ynghyd a nifer dda o Donau, Darnau, ac ymarferion ereill, at wasanaeth y dosbarthiadau. Dan olygiaeth <- yr un gwr, dygwyd allan " Anthemau Cynulle'idfaor' a Cherddoriaeth Curwen," ynghyd a thair rhan bell- ach o " Hymnau a Thonau " at wasanaeth y plant. Mae y llyfr diweddaf hwn wedi bod o werth amhris- iadwy; ac nid oes Uawer o blant ein cenedl heb fod yn gyfarwydd ag ef. Teimla ein dosbarthiadau, pa fodd bynag, nad oes darpariaeth ddigonol a phriodol wedi cael ei gwneyd eto gyferbyn a'u holl eisiau; ac y maent wedi bod yn galw yn barhaus, er ys misoedd lawer bellach, am rywbeth yn ffurf yr hyn a gych- wynir genym heddyw. Bydd yn llawenydd mawr gen- ym os gallwn daro ar yr hyn sydd yn anghenrheidiol. Yr ydym yn gwenieithio i ni ein hunain weithiau ein bod yn gwybod beth sydd yn eisiau; ond yr ydym yn teiffilo mai pwnc arall yw ei gyflenwi. Tuag at hyny, rhaid i ni gael cynorthwy lawer o lawer o gyfeiriadau. Ymae yn ein meddiant swm anferth o gyfansoddiadau cerddorol, ag ydynt, yn ein barn ni, yn dra chyfaddas i wasanaethu ein pobl ieuainc. Y mae nifer fawr o hen alawon Cymreig yn disgwyl am gyfleustra i wasanaethu y genedl, ond nis gallant fod o un gwas- anaeth hyd nes byddo i ryw fardd eu hanrhegu a thafodau. Y mae nifer fawr o hen alawon y Werddon, Ysgotland, Lloegr, ac Itali yn barod at wasanaeth, ond yn yr un sefyllfa. Y mae llawer hefyd o ganigion goreu y Saeson, a rhan-ganau Ffrainc a Germani yn gorwedd yn feirw, ac yn disgwyl am ryw greawdwr o fardd Cymreig i anadlu anadl bywyd ynddynt. Y ffiae America ieuanc a hoyw yn taflu allan at ein gwasanaeth yn barhaus gyflawnder mawro'r melodion mwyaf bywiog a melus. Ac yn olaf, ond nid y lleiaf dyddorol, y mae nifer o lanciau ein gwlad ein hunain wedi tynhau eu tanau, ac yn medru canu yn deilwng o holl enwogrwydd a chlod ein cenedl. Un peth neillduol, a'r peth cyntaf a phenaf, fe ddichon ar hyn o bryd, sydd yn angenrheidiol ydjw gwasanaeth ein beirdd. Y mae ein golwg ar ryw haner dwsin o honynt a fedrent wnestbur gwasanaeth tra gwerth- fawr yn y cyfeiriadau hyn; a hyderwn yn fawr y cyfoethogir tudalenau Cerddor y Tonic Sol-ffa a llawer o'u cynyrchion. Bydd ein drws yn agored, gyda chroesaw mawr hefyd i'n cerddorion; ac yr ydym yn cyfrif gyda sicrwydd ar gynorthwy amryw o oreuon cyfansoddwyr ein gwlad. I'r rhai ieuainc, sydd yn dechreu ymarfer mewn cyfansoddi, ein cynghor ydyw, ar iddynt beidio bod yn rhy awyddus am weled eu cynyrchion yn argraffedig. Gwyddom yn dda beth yw yr ysfa blentynaidd am weled rhywbeth o'n heiddo mewn argraff; ac yr ydym yn cófio pa fodd y dychlamai y gwaed yn ein gwythenau pan yn agor y cylchgrawn misol a gynwysai ein Ton gyntaf pryd nad oeddŷm ond pymtheg oed ; ond gwyddom hefyd am gyfnod maith ar ol hyny, wedi i ni agor ein llygaid ychydig yn lletach ar y byd, ag na fynasem ar un cyfrif i un linell o ddim o'n heiddo weled swyddfa argraffydd.- Anogem ein pobl ieuainc i lafurio yn galed, i ym- gynefino a gweithiau y beirdd, a'r cerddorion, a'r llenorion goreu; yna, ar ol rhai blynyddoedd o ddarllen ac o ymarfer felly, os bydd ganddynt ryw beth newyddt prydferth, a da, bydd derbyniad groes- awus iddo yn ein colofnau. Nis gallwn gyhoeddi pethau cyffredin, diddrwg didda—pethau nas gellir dweyd dim gwell am danynt, na'u bod yn ddi wallau. Y mae plant a phobl ieuainc, yn enwedig, yn awyddus iawn am rywbeth newydd; a cham dirfawr a'r cyfryw ydyw llanw eu llyfrau a phethau dienaid. Tybia rhai y gwna rhyw fath o rigwm, mewn barddoniaeth a cherddoriaeth, y tro i blant; ond camgymeriad dirfawr ydyw hyny. Onid y plentyn yw tad y dyn ? Ac onid gwir yw gair y bardd— " Y winwydden a nyddir Yn egwan iawn ac yn îr." Yn y goleu hwn, ymddengys y dylid darparu ar gyfer plant a phobl ieuainc y pethau mwyaf prydferth, awenyddol, a llawn o fywyd; ac nid oes neb a fedr barotoi y cyfryw bethau ond meddylwyr aeddfed ac ysgrifenwyr wedi hir ddisgyblu eu hunain yn y gwaith. Dosbarth arall ag yr ydym yn sefyll mewn angen mawr am eu cymhorth ydyw athrawon y dosbarth- iadau. At y rhai hyn yn benaf y byddwn yn edrych am hyrwyddo cylchrediad ein misolyn bychan, trwy ei g)rmhell i sylw, a dwyn ei gerddoriaeth i ymarferiad