Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Goîygydd Lleol—Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare Road. Hanes ëechreuaé yr Achosyn Stanley Road. Aígofion gan Mr. David Jones, Cremlyn. (parhad). Y nesaf yw Mr. Soley—hen wr oedd pan yr adwaenais ef gyntaf ; pryd tywyll, os cofìaf yn iawn, canolig o daldra, a'i dafodiaith yn hwntw- aiddi'r eithaf—anodd iawn, o leiaf i Norfhman, ei ddeaìl. Mewn amgylchiadau cysurus a man- teisiol y pryd hwnnw i fod yn ddefnyddiol gyda'r achos, ac felly y bu yn selog a fryddlon iawn am flynyddoedd. Y nesaf yw Mr. David Jones—llanc ieuanc oedd y pryd hwnnw. Ond fe aeth yn hen lanc ychydig cyn diwedd ei oes ; ond yr oedd wedi arfer dweyd " Y ni y bobl ieuainc yma " gymaint fel mai trwy drafferth fawr y gallodd berswadio ei hun nad oedd y frawddeg mewn date iddo hyd derfyn ei oes. Clcrh yn y Dock Board oedd. Ni bu erioed yn gyfoethog : nid oedd yn alluog iawn yn naturiol, ond gwnaeth beth wmbreth o wasanaeth i achos crefydd, dan ei ofal a'i arolygiaeth ef y bu bron popeth arn flynyddau lawer : eí'e oedd ysgrifennydd a thrysorydd yr achos, cyfarfodydd yr wythnos a'r Sul, dan ei ofal ef hefyd y bu y canu am fìynyddau lawer, ac wedi hynny, pan fyddai y dechreuwr canu yn absennol, Mr. Jones' fyddai yn gyffredin yn cymeryd ei le. Yr oedd yn ymwelydd da: gweddi- odd lawer wrth welyau cleifion, a rhannodd ei arian yn hael i dlodion ar hyn a lled Bootle. Nid oedd yn aelod eglwysig pan y daeth gyntaf i Bootle__yr oedd hynny tua'r flwyddyn 1850 ; ond ni fyddwn ymhell o'n 11 e pe dywedwn ei fod vn flaenor o'r cychwyn cyntaf—nicl oedd ei ddewisiad ef i'r swydd ond math o gadarnhâd ar yr hyn oedd mewn gwirionedd o'r blaen. Un peth hynod ynglyn âg eglwys Stanley Road yw hwn • na bu hen lanc na llanc ieuanc erioed yn flaenor ynddi yn oes David Jones ond ef ei hunan. Ond erbyn heddyw mae pethau wedi newid yn fawr yn hynny, fel llawer peth arall : maent wedi mynd erbyn hyn bron i gyd yn hen lanciau ! Yr oedd David Jones yn un o'r dynion agosaf i fod yn berffaith welais i. Os oedd gwendid yndd'o hwyrach ei fod dipyn yn rhy dueddol i dalu <^ormod gwarogaeth i'r rhai y tybiai oedd ar safle uwch nag ef, ac o'r ochr arall dipyn gormod o'r wialen haiarn ar y rhai oedd islaw iddo. Y nesaf yw William Parry : un o'r dynion mwyaf caredig posibl oedd ef. Llifiwr wrth ei alwedigaeth, yn gweithio dan y Doc/c Board. Cofiaf yn dda i mi ei gyfarfod ar y ffordd i.'r gwaith un boreu yn fuan wedi i mi ddyí'od yma, ac yn garedig siaradodd â mi : ac O ! mor dda oedd gennyf darro ar Gymro ac un oedd yn dweyd ar unwaith i chwi fod caredigrwydd lond ei esgyrn. Wedi y cyfarchiad cyntaf, aeth yn syth i son am yr Achos Cymraeg a'r room bach, a'r pryd hwnnw y dyweclodd wrthyf mai 12 mlynedd oedd er pan ddechreuwyd yr achos. Yr oedd llawer o hynodion yn perthyn i Mr. Parrj' : yn un peth, yr oedd yn siaradwr difyr da, yn. wedd'íwr rliagorol. Ei hoff bennill oedd : " Mawr oedd Crist yn nliragwyddolcleb." Ni. byddaf byth yn dyfod ar draws y pennill yna heb gofio am Mr. Parry. Ond ei brif hynodrwydd oedd ei fedr i ymweled. Yr oedd yn ymwelwr heb ei fath, ac ni byddai byth yn ei elfen yn iawn ond pan yn ymweìecl Mi fuom i yn byw yn y tŷ agosaf iddo am flynyddau, a chefais fantais dda i weled pa mor ddwfn yr oedd y gwaith hwnnw wedi soddi i'w galon. Wedi dyfod oddiwrth ei waitli yr hwyr, byddwn yn rhyfeddu mor fuan y byddai y tê, yr ymolchi, a'r newid dillad, yn cymeryd lle, ac yntau allan ar ffrwst, gan gyfeirio ei gamrau tua Ilety rhyw glaf neu drallodus, ac yr oedd yn gallu diddanu a rhwymo doluriau nad oedd ei gymar bron, Y nesaf yw Hugh Riehards : dyn jolly, llawn bywyd, brwdfrydedd, a digon o fynd ynddo. Organizer heb ei well. Dyma yr un y cyfeiriais ato o'r blaen oedd yn cydweithio gyda Mrs. Parry i dclwyn y tea, parties i berffeithrwydd a llwydcliant. Pe biiasech eisieu ei weled yn ei ogoniant. cawsech hynny dim ond dyfod i Schoolroom yr hen gapel ar ddydd tea party, tua Jianner awr cyn yr amser eistedd wrth y byrddau, ac edrych arno yn cerdded yn ol a blaen yn yr ystafell. Yr ydwyf yn cofio am un tro felly i'r Parch. Owen Jones ddyfod i mewn, a gweled Mr. Richards yn ei afiaith, ac meddai : " Dyna fo ar binacl ei ogoniant ; pe cai gynnyg mynd i'r nefoedd y funud yma, 'chredai ddirn yr â cyn tê ! " Geîrfa iV Emynau. Dygn—Gofidus, caled :— "Dioddefodd angeu dygn boen " (112). Ooglud—Ymddiried, hyder :— " Trwy ofn a pharch a goglud dwys " (446).