Skip to main content

YR cctcly Goîygydd Lîeol —Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare Road. Hcmes decfireuod yr Achosyn Stanfey Road, Atgofion gaii Mr. David Jones, Cremlyn. Dechreuwyd yr achos Cymraeg yn Bootle yn y flwyddyn 1849. Yr oedd hynny 12 mlynedd cyn i mi ddyfod yma. Gan y gofynnir i mi ddweyd ychydig am hen gymeriadau eglwys Stanley Road, y peth goreu i rni yw enwi nifer, a dweyd ychydig ar rai ohonynt. Mi rof ddigon o bennau pregeth i chwi, ac fel y dywed pre- gethwr weithiau, cewch chwi feddwl am danynt. ISTid oes amser i sylwi ond ar ychydig iawn. Maent fel y canlyn : Mrs. Parry, Mr. Soley, David Jones, Wm. Parry, Hugh Richards, John Lumley, David Lloyd, Robert Williams, Jeremiah Jones, Jeremiah Evans, Evan Owen, Joseph Hughes, Edward Jones, Robt. Roberts, Wm. Jones, Wm. Jones, Wm. Jones, John Jones, Owen Jones, John Lewis, Evan Lewis, Evan Evans, Henry Lewis, Edward Grifîìths, David Kymn, Owen Williams, D. P. Davies, Robert Evans, Owen Jones, Owen 01iver, Evan Jones, Samuel Jones, John Davies, Robert Davies, John Davies, Thomas Jones, John Edward Davies, a Wm. Roberts. Dyna rai o'r hen gyfeillion, ac y mae llawer eto heb eu henwi, mi wn, heblaw gwragedd a phlant. Nid ydwyf am ddweyd dim braidd am y chwiorydd, nac ond ychydig am neb, gan gofio fod yma rai anrhydeddusach na mi i ddyfod ar fy ol, a chan gofio y gair hwnnw hefyd : " Y cyfaill eistedd yn is i lawr." Ond gan fod Mrs. Parry ynuno'î rhai cyntaf oll ynglyn â'r achos yn Bootle, hwyrach y caniatewch i mi ddweyd gair i gychwyn am dani hi. Yr oedd pawb ohonom yn adnabod Mrs. Parry, ond nid llawer ohonom sydd yn ei chofìo mor bell yn ol ag 1861. Yr oedd y pryd hyn wedi ei gadael yn weddw er's tua thair blynedd, a dau o fechgyn ganddi i'w dwyn i fyny, eu haddysgu a'u hyfforddi yn addysg ac athraw- iaeth yr Argìwydd—yr hyn hefyd a wnaeth yn ffyddlon. Yr oedd Mrs. Parry yn gymeriad cryf, ac yn ymddangos ar y wyneb tipyn yn ar'w, ond wedi ymwthio j^chydig i'r dwfn ceid calon nobl, hawddgar a da, a'r cyfan dan warogaeth iddi. Gwnaeth Mrs. Parry lawer o wasanaeth i achos crefydd yn Bootle, yn enwedig ar adegau neiìltuol. Yr oedd yr eglwys hon yn nodedig am tea parties er's talm,—nid rhyw fan deach, ond tea party gwerth ei alw, yn dyfod â ryw gan punt neu well o elw. A 'doedd yma yr adeg honno ond dau allai arolygu te yn iawn, a Mrs. Parry oedd un o'r ddau. Daw y llall dan sylw eto. Ei rhan hi o'r gwaith bob amser fyddai gof- alu am a threfnu y bwydydd, a byddai ganddi ddwsin neu well o'r cliwiorydd yn ei helpu ar ddydd mawr yr wyl, ac ni wnai dim dycio y diwrnod hwnnw ond perffaith ufudd-dod. Ac os teimlai neb ar ei galon fod yn amgen, nid oedd eisieu dim ond i lygaid mawrion duon Mrs. Parry gael eu gosod arno na byddai fel cicaion Jonah yn gwywo i ddiddymdra yn dra di- symwth. Daeth Mrs. Parry gyntaf i Bootle o Langadwal adr, Môn, rywbryd oddeutu y flwyddyn 1830, at ei hewythr, Mr. Robert German, yr hwn oedd yn arolygu y gwaith dwfr dros y Cwmpeim Dwfr—cyn i Corporation Liverpool ei gymeryd i'w dwylo. Yr oedd ef wedi bod yma er tua 1795, ac yn byw yn y gwaith. Yr oedd rhyw radd o hynodrwydd yn yr amgylchiadau o dan ba rai y daeth hi i'r gymdogaeth hon. Pan yn 20ain oed, tua 1830, bwriadodd Mrs. Parry ymfudo i'r America at ei brodyr a'i chwiorydd, oeddynt wedi ei rhagflaenu er ys rhai blynyddoedd ; ac yr oedd ei luggage un ai ar fwrdd y llong neu ar y ffordd ati, pan y daeth llythyr oddiwrth ei hewythr Robt. German, yn hysbysu fod ei wraig—enw yr hon oedd Gwen German—yn glaf hyd angeu, ac erfyniodd ar ei nith—Margaret German y pryd hynny—i ddyfod i Bootle. Daeth hithau ar unwaith, a bu gyda'r hen deulu am ysbaid ; ond gwellhaodd ei mod- ryb, a bu fyw am rai blynyddoedd, yn ystod y rhai y bu y nith yn gwasanaethu yn Liverpool, ac yn gwneuthur ei chartref yn y Bootte Water WorJcs, lle y byddai yn aros pan allan o wasanaeth Tua'r flwyddyn 1840 bu farw ei modryb, ac aeth hithair i fyw at ei hewythr, yr hwn oedd yn oedranus—(bu ef farw yn y flwyddyn 1854, yn 96 mìwydd oed)—ac yn y tŷ hwnnw yr arhosodd hi—yn ddibriod, yn briod, ac yn weddw—hyd y flwyddyn 1887, pryd yr ymadawodd i ofalu am dŷ a theulu ei mab hynaf, yr hwn oedd yn weddw ar y pryd. Bu farw Hugh Parry, priod Mrs. Parry, yn y flwyddyn 1858, gan ei gadael yn weddw a dau facìigen yn amddifad, a bu ei bywyd wedi hyn yn un llawn o ymdrech galed am ei bywoliaeth, ac o bryder ynghylcli ei pìilant. Ond er hynny ni Iwfrhaodd, ao ni thaflwyd i ddigalondid oher- wydd clywsom hi yn adrodd ei hanes o'r adeg rhwng marwolaeth a chladdedigaeth eí phriod