Skip to main content

YR mcaely Golygydd Lîeoî— Mr. HUGH ROBERTS, 57 Cîare Road. Haf?es declireiisid yr Achosyn Stanfey Road. [Gan Mb. THOMAS PARRY]. (Pa?'Jîacì). William Parry. Efe oedd y eylioeddwr yn y capel. Cofiwn lawer o'i gamgymeriadau. Cyhoeddai gyfarfod- ydd i ddechreu hanner awr cyn i'r drysau gael eu hagor. Yr oedd y Philharmonic Hall yn fagl iddo. " Philimonic " oedd yr enw ganddo ef. " Rehershulls " oedd y rehearsals. " Welsh Lions " oedd y Wesleaid ; ac os oedd Doctor parchedig i bregethu yn y capel, galwai ef yn " Mr. Doctor " hwn-a-hwn, a phethau cyffelyb. Yr oedd ei gamgymeriadau yn codi o'r ffaith na fedrai ddarìien llaw-ysgriíau, ac yr oedd yn gorfod dibynnu ar ei gôf. Dechreuai bob amser drwy ddweyd, " Wnewch chwi ddal sylw, gyf- eillion ? " ac yna ai yn ei flaen gyda'i bregeth, oedd weithiau yn ymylu at fod mor faith ag ambell i bregeth o'r pulpud. Gwelais Mr. Parry yn digio wrth y gynulleidfa am chwerthin am ei ben, a dywedai, " Dyna rywbeth i chwi i chwerthin am ei ben." Dewis- wyd Mr. Parry yn flaenor yr un adeg a Mr. David Jones, sef yn 1867 ; ac yr oedd ynddo lawer iawn o gymhwysterau. Mawr oedd ei ddyddordeb gyda'r gwaith o adeiladu'r capel presennol: byddai o gwmpas bob cyfle, a gwnaeth ei oreu gyda'r gwaith yn y cylch hwn, fel ymhob peth arall. Pe gymerodd ran flaenllaw yng nghychwyniad achos Southport. Efe oedd yr esgob, er y byddai rhai ereilî o'r blaenoriaid yma yn cyn- orthwyo. Hefyd bu yn ffyddlon iawn ynglyn â'r achos yn Waterloo, cyn iddynt sefydlu eglwys yno. Nid ydwyf yn cofio pa flwyddyn yr aeth oddi yma i'r South End—yn ol i Princes Road yr aeth ; ond rii ddewiswyd ef yn fiaenor yno, a bu farw fel aelod o'r| eglwys honno yn y flwyddyn 1884. Colled fawr i eglwys Stanley Road oedd ei symudiad oddiyma, ond ei waith oedd yr achos o" hynny—bu raid idclo ddilyn ei fywoliaeth. John Davies, y Cement. Pan ddaeth William Parry i Bootle aeth i fyw yn Litherland Road, ac anfonwyd fi gan fy mam i ddangos iddo pa le y preswyliai John Davies a Robert ei frawcl a'u teuluoedd. Dyma y tro cyntaf i mi weled Mrs. Parry, ac nid ang- hofìaf byth fel y dychrynwyd fi ganddi. Gwraig fawr, wroì o ran golwg, golwg sarug arni—ym- ddanghosai yn ofnadwj^ i mi, a bu ei harswyd arnaf byth ar ol hynny. Ond yr hyn a'm dychrynnodd fwyaf oedd hyn: Yr oedd ganddynt yn crogi ar y waì wrth y pentan fwyall a chledd 0 bres, a sylwodd arnaf yn edrych arnynt : daeth ataf, a gofynnodd i mi â pha un ohonynt y dewiswn gael fy Uadd. Nid rìryfedd fy mod wedi fy nychrynnu cymaint fel nad elwn i'w tŷ byth ar 01 hynny, ond pan fyddai angen. Dyna y rheswrn a addawais ychydig yn ol, a meddyliais lawer gwaith fy mocl yn gwybod paham y dewisai Mr. Parry fod yn ymwelwr â'r cleifion ac â'r rllai esgeulus. Noson fawr a phwysig, nid yn unig i mi, ond i'r achos, oedd y noson honno ; oherwydd fe lwyddwyd i gael gan y ddau frawd John a Robert Davies addaw dod i'r capel ac i'r ysgol, ac ar rhyw olwg dyma y ddau mwyaf dyddorol a ddaethum i gysylltiad â hwy erioed. Aeth Mr. Wm. Parry a finnau i'r Cement Works yn Bootle Village, lle yr oedd y ddau frawd a'u teuluoedd yn byw. John oedd foreman y gwaith, a Robert yn carter. Pedair o ystafell- oedd oedd yn y tŷ—yr oedd John a'i wraig a'i blant—4 neu 5 ohonynt—a thad Mrs. Davies— hen filwr oedd wedi bod gyda Wellington yn Waterloo, a chynt, tua 80 mlwydd oed—yn bjrw yn y cefn. Robert a'i wraig a'r un nifer o blant yn byw yn y ffrynt Yr oedd Robert wedi dod i'r tŷ yr aroser yr oeddMr. Parry aminnauyno, a gosodwyd ei dê neu ei swper o'i flaen—ni welais erioed y fath blatiad o bytatws a bacon yn cael ei osod o flaen un dyn ; ond nid oedd unrhyw anhawster ar ffordd Robert i'w fwyta, a bu Mrs. Davies mor garedig a rhoi brechtan i minnau— yr unig beth yn ymylu ar fod yn anymunol oedcl fod yr ymenyn a'r sebon wedi bod yn rhy agos i'w gilydd ; ond bwyteais y frechtan, oherwydd anaml oedd y cyfleusterau y pryd hwnnw i gael tamaid lieblaw yn nhŷ fy mam. Wel, canlyniad yr ymddiddan oedd i John a Robert Davies addo dod i'r capel, a buont i fyny a'u gair, a daethant ; a buont yn ffyddlon iawn am lawer o flynyddoedd. Daethant yn aelodau cyflawn, a chymerasant ran yn holì waith yr achos, yn y room bach, yr hen dŷ ; ac am dymor ynghapel ^Millers Bridge. Dechreuodd y ddau ar unwaith geisio gwybodaeth, a rhyfedd mor gyflym y cyrhaeddasant eu hamcan, ac mor fawr oedd ei swm. Yr oedd John yn chymic {chemist) eisoes, ond wrth gynhyddu darganfyddodd ynddo ei hun haenau ar haenau o athrylith ac o dalent, nas gwyddai am danynt yn flcienoroi.