Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR Ymoaely 4B9r Golygydd Lleoî—Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare Road. Hanes dechreuad yrAchosyn Stanîey Road. [Gak Mb. THOMAS PARRY]. (Parhai). Tona Soley. I mi, yr hyn a osodai fawredd ar Mr. Soley hynaf oedd ei fod yn dad i Tom Soley. Tom oedd fy mhopeth i pan yn blentyn o bump i naw mlwydd oed—fy nhwr a'm cadarn noddfa : ato ef y ffown pan mewn cyfyngder, ar ei fynwes ef y cyso-wn, a'i fraich amddiffynnol o'm cwmpas, o'i sweets y cyfraíiogwn, a'i bres hefyd ; a chan fod ei dad mewn amgylchiadau cysurus ar y pryd, yr oedd ganddo ddigon o bob un, ac ni phallai ei drugareddau i mi. Tom oedd ein hathraw yn yr Ysgol Sul. Y rhai oeidynt yn ei ddosbarth oeddynt : Hugh fy mrawd a minnau ; David Williams, Rogerson Street (Queen's Road yn awr), a nifer ereill. Athro doniol iawn oedd Tom—byddai yn em humero. Darllen oedd ein gwaith yn y dosbarth, nid yn yr un maes na'r un llyfr bob Sul—byddai hynny at ein dewisiad os gellid cytuno all round ; ond byth yn esbonio yn y dosbarth. Yn y fas- nach lô yr oedd Tom—a'r yard yn Harrison St., allan o Marybone—rhan tra Gwyddeiig o'r dref, ac yr oedd ef wedi myned i siarad fel y Gwyddel- od ; ac weithiau pan y byddai rhyw aeiod neu aeloclau o'r dosbarth wedi troi yn anhydrin, dywedai, " Wat's the matter wid yez ?—ye look as sour as a haporth o* buttermillc." Tro arall dywedai. " I wouldn't teach the loihes of yez for twelve pounds a month, I'm blowed if I would." . Yr oedd ganddo dymer reit dda ; ond weithiau byddai dan orfod í hawlio ei le a'i awdurdod, a gwnaeth hynny droion drwy wthio yr aelod vstyfnig oddiar y fainc, gan ei alw yn " Bwhw- manllyd "—gair mawr oedd hwn ganddo wrth ddisgrifio plant drwg. Ond ni fachludai'r haul ar ei ddigofaint, na r sawì oedd wedi bocl dan y driniaeth chwerw. Toni oedd ei ffrynd, a gwyddwn fod ganddo yn ei logell yr hyn a brynnai heddwch bob tro. Un afrosgo oedcl o ran ei gorfî, yn tueddu i fod yn dew—osgo hen cldyn arno ; yn wir, yr ẁyf yn meddwl mai ei yrngais pennaf oedd i bobl edrych arno fel hen ddyn, neu yn hynach o lawer nag ydoedd. ■ Cymerai ran yn gyhoeddus, a dywedai ei brof- iad yn y Seiat—fel hen wr y gwnai y ddau, o ran llais ac ystum—llais tipyn yn hoarse oedd ganddo. Byddai yn ddrwg gennyf sylwi nad oedd y cyfeillion yn cymeryd Torn mor serious ag y dymunai ef, ac yr wyf yn meddwl mai yr achos o hynny oedd ei fod yn edrych yn hynach na'i ddyddiau. Ni ellir yn hawdd osod allan ar bapur pa fath un oedd o ; ond gellir dweyd am dano tra y bu yn fîyddlon,ac fe fu felly am fiynyddoedd,yr oedd yn aelod gwasanaethgar o'r achos, ac yn ol ei allu gwnaeth les, a bydd cofio am dano yn yr adeg yna yn rhoi llawer iawn o bleser i mi ; ond priododd Tom, cafodd deuìu mawr, trodd y busnes yn aflwyddiannus, a syrthiodd i ddifater- wch a dibrisdod o foddion gras ; bu yn hollol esgeulus, ond ynglyn â Chymanfa Sulgwyn : deuai i'r capel y Sul hwnnw ac ychydig wedi hynny ; ond yn ol yr äi bob amser, ac yn y tir pell y bu farw. Bum yn ymdrechu ei gael i ail- gydio yn y gwaith, ond ni wnaeth. Byddaf yn meddwl pe buasai Tom wedi ieuo yn iawn, y gallasai fod yn aelod gwerthfawr a gweithgar o'r eglwys hon, ac fe allai yn swyddog ynddi. William Parry. Rywbryd cyn y sixties daeth atom frawd arall ag a fu yn dra gwasanaethgar i'r achos, sef Mr. William Parry. Brodor o Sir Fflint oedd ef,— top sawyer yng ngwasanaeth y Dock Board. 0 Bedford Street y daeth ef yma, ac ni anghofiodd y ffaith mai o Bedford Street yr oedd wedi dyfod i Bootle ; ac ni adawai i neb arall anghofìo chwaith. Soniai yn barhaus am rhywbeth a ddywedai rhywun yn Bedford Street. William Jones, Machine, oedd enw un o'r oraclau ; a Morgan Howells oedd y pregethwr a ddifynnai amlaf. Un llygad oedd gan Mr. Parry—dyn tal cryf oedd o, wedi myned i oed pan y daeth yma. Ymdaflodd i'r gwaitli ar unwaith, ac aeth yn bur flaenîlaw. Yr oedd yn ymwelwr rhagorol, blaenor bugeiliol da iawn ydoedcl. Hoffai y rhan yma o'r gwaith, a byddai yn cael llawer o fwyniant wrth ei gyi- lawni. Nid oedd o yn ei ddull yr un fath a David Jones. Llawen iawn, a ffraeth oedd Mr. Parry,—siarachvr ar draws ac ar hyd, ac yr oedd am gael gymaint* o bleser ac oedd yn bosibl o'r gwaith. Clywais rhai brodyr angharedig yn awgrymu nacl ydoedd Mr. Parry yn cael cymaint o le a pharch yn ei dy ei hun ag a gaffai mewn tai ereill. Ni synnwn i ddim pe bai hynny yn