Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR Ymcaely Golygydd Lleol—Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare Road. Hanes dechreucisd yr Acliosyn StanSey Road. Gan Mr. THOMAS PARRY. (parhad). David Jones—Feî Gweddiwr. Yn ei flynyddoedd cyntaf, nid wyf yn cofio ei fod wedi cael llawer iawn o waith cyhoeddus, heblaw y canu a chymeryd rhan yn y cyfarfodydd gweddio—(Mr. Thomas Soley (hynaf) oedd llyw- ydd yr achos ar ol marwolaeth Daniel Edwards) a byddem yn teimlo fod ganddo ddawn neilltuol mewn gweddi—mewn un peth yn arbennig, sef meithter ac arafwch. Profedigaeth fawr i ni y plant oedd hyn, yn enwedig i fy mrawd a minnau. Yr oedd myned i gyfarfod gweddi yn ddigon o faich, heb son am yr angenrheidrwydd i fyned ar ein gliniau wrth y fainc tra byddai Dayid Jones yn gweddio ;. ac nid rhyfedd oedd i drwmgwsg ddod trosom, nes ein cadw ar ein gliniau drwy ei weddi ef a'r nesaf ar ei ol, ac i ni godi mewn cywilydd pan y byddid yn canu emyn i un arall. Gwelais Mr. Jones unwaith am ddeugain munud mewn gweddi ; ac er na fycldai hyn yn beth arferol ganddo, eto meithter gyda phethau cyhoeddus oedd ei wendid ef ;. ac hyd yn oed yn y weddi deuluaidd yr oedd yn syrthio yn aml iawn i'r arferiad. Cofus gennym yw yr hánes am ei househeeper —wedi blino yn disgwyl am derfyn y weddi—yn ail ymafiyd yn yr hosan, ac yn mynd ymlaen i'w thrwsio tra'r oedd Mr. Jones ar ei liniau gyda'r ddyledswydd. Tra yn y " room bach," ac yn yr hen dŷ, nid ydwyf yn ei gofio yn gwneud llawer yn gyhoeddus, er ei fod yn ddiameu yn un o'r colofnau. yn athro ffyddlon yn yr Ysgol Sul, ac yn un o'r brodyr hynny a fyddent yn ymweled ac yn cynnal cyfarfodydd gweddio yn y tai. Tua'r flwyddyn 1861 fe ddaeth Mr. Dav'id Lloyd yma o Pall Mall, a chollodd David Jones y swydd o ar- weinydd y canu ; ond ni ddarfu iddo na " sorri " na " monni " na " phwdu " na dim arall i'r cyfeir- iad yna ; ond eisteddodd ar unwaith wrth draed David Lloyd, a gwnaeth ymdrech i ddysgu y Tonic Solffa a'r Hen Nodiant—am yr hon y gwyddai rhyw ychydig yn flaenorol ; ond cawn ymhellach ymlaen sylwi yngoleuni barn un arall am dano pa faint a ddysgodd o'r Tonic Solffa. Aeth ymlaen i chwilio am waith newydd, a chafodd yn ychwanegol y swydd o edrych ar ol y Llyfr Eglwysig, yr hyn a wnaeth yn fîyddlon am nifer o flynyddoedd. Nid oedd David Jones yn un i gymeryd tram- gwydd, nag i honni fod i'w urddas bersonol gael ystyriaeth—gan ei frodyr neu ereill. Ei nôd ef oedd gwneud y gwaith a j/mddiriedid iddo gyda fîyddlondeb, a chyda'r medr oedd ganddo. Felly yr oedd rhyw fimish ar y cwbl a wnaeth. Wrth i'r achos gynhyddu, a'i anghenion aml- hau, yroedd clust deneu Mr. Jones yn clywed y galwadau arno i waith newydd, ac ni bu anufudd i'r alwad ; ond ymdaflodd i'r gwaith, gan edrych ymlaen yn hyclerus am cldatblygiad achos yr Arglwydd yn Bootle, gan fwrw golwg ffyddiog at adeg pan y byddai yn y lle achos teiìwng iddo Ef, yr Hwn a'i piau. Fel Athraw Mewn perthynas iddo ynglyn â'r Ysgol Sul, fel y dywedwyd, yr oedd yn athro ar ddosbarth o ferched, ac yr oedd yn hyn hefyd yn ffyddlon :—nid wyf yn meddwl mewn presenoldeb yn unig —ond yr oedd yn paratoi yn fanwl ar gyfer ei ddosbarth, a hynny o angenrheidrwydd, oher- wydd yr oedd yn ei ddosbarth nifer o chwiorydd ag oeddynt yn chwilio'r wers llawn mor gyd- wybodol ag yntau, ac yr oedd dan orfodaeth i baratoi ei hun ar gyfer ei ddosbarth, rhag iddo gael ei " dripio." Ond y peth oedd yn peri syndod oedd iddo allu—ynghanol ei holl brysurdeb gyda phethau y capel—yr ymweled â'r cleifion, ac â'r esgeulus—gael amser i baratoi mor dda ac mor effeithiol fel ag i fod yn athro mor ddefnyddiol a llwyddiannus. Yr Adeiladu. Y symudiad i adeiladu y capel newydd a roddodd i Mr. D. Jones ei gyfle, ac ini weithiodd yn frwdfrydig gyda'r amcan—yn ardderchog ; gellir dweyd yr un peth am dano ynglyn â'r ddau gapel—Miller's Bridge a Stanley Road. Yn wir, yn yr adeg y buwyd yn adeiladu yn y lle cyntaf, y cafodd ei alluoedd rhyw raddau helaeth o ddatblygiad, neu yn hytrach y daethant i'r golwg yn amlycach ; ac nid gormodiaith yw dweyd am dano fod pob gorchwyl, yn ol yr angen, yn tynnu i'r goleu yr adnoddau oedd ynddo ar ei chyfer ; a digon yw dweyd am dano, mewn cys- ylltiad â phob symudiad pwysig, ei fod yn ym- godi at anghenion y sefyllfa. Yr oedd hyn mewn un fîordd yn rhyfedd, oherwydd nid oedd Mr. Jones yn alluog yn yr ystyr a roddir i'r gair yn gyffredin : nid ydoedd yn ysgolhaig, ac nid oedd bob amser yn cael ei ystyried yn eithriadol o ddoeth. Ond yr oedd y dyn yno, ac yr oedd gan- ddo y bump of concentration yn fwy na nemor un a welais erioed. Wedi iddo [ef gymeryd peth i fyny, nis gollyngai nes ei ddwyn i rhyw derfyn-