Skip to main content

YR Ymcuelydd Misol Golygydd Lleol—Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare Road. Hanes decnreuad yr Achos yn Stanfey Road. [Gan Mr. THOMAS PARRY.] Hen gymeriadau egîwys Síanley Road- Ttja phum mlwydd oed oeddwn pan y dechreuais sylwi ar y brodyr a'r chwiorydd oeddynt yn ffurfio yr achos yn y Room Bach, a chofiaf am y rhai canlynol :—Daniel Edwards a'i wraig a'i deulu—Thomas Jones, Marsh Lane, a'i wraig a'i deulu—John Davies y Gas a'i wraig a'i deulu— Joseph Hughes y Teiliwr—Thomas Soley a'i wraig a'u meibion, John a Thomas—Mrs. Mellam (Mayland)—Capt. a Mrs. Lloyd a'u merch, Mrs. Jones, a'i merch hithau (Mrs. Roberts y Mason)— David Jones (yn lletya gyda'r Soleys)—David Davies (eto)—Fy nhad. a'm mam, ac ewythr fy mam, a Hugh a minnau—Miss Wynn—Mrs. Hughes, yn perthyn i'r Wesleaid. Daníel Edwaeds. Arweinydd yr achos oedd Daniel Edwards,— dyn tawel, distaw, boneddigaidd yr olwg arno, ac o dduwioldeb amlwg. Gwelais yn rhywle mai efe oedd arweinydd y canu ; nis gwn a yw hynny yn wir—ni welais ef yn gwneuthur hynny. Ond efe oedd yn arwain gyda'r holl waith arall perthynol i'r achos, a gwnelai hynny yn y fath fodd í'el ag i roddi boddlonrwydd i'r holl frawd- oliaeth. Cofiaf glywed fy mam yn dweyd, lawer gwaith, mor ddeheuig ydoedd, ac mor gymwys i'r swydd o arweinydd gyda chrefydd. Nid ydwyf ychwaith yn cofio am dano yn cymeryd rhan mewn cyfarfod gweddio, ond y mae'r argrafî ar fy meddwi fod ganddo ddawn neilltuol i hynny. Yr oedd yn arferirad ganddo ddyfod i dŷ fy nhad a'm mam yn aml. Yr oedcl fy nhad ac yntau yn wael o'r un afiechyd, a byddent yn myn- ed arn d.ro gyda'u gilydd ddwy waith neu dair yn yr wythnos. Dyma'r paham fy mod yn ei gofio mor dda. Y rnae yn gofus gennyf sylwi ei fod wedi peidio galw, a'r rheswm a roddwyd i mi— ei fod yn rhy wael i hynny. Yna dywedwyd ei fod wedi marw. Claddwyd ef ym mynwent St. Mary's, Ecetle, yn nechreu 1857. Yr oeddwn yn y cOacdedigaeth, ac aethum gyda'r teulu a'r cyfcillion i'r tŷ. Yr oedd y teulu yn byw yn Derby Road, yn agos i Pleasant View. Ni chlywais eu bod yn byw yn Brunswick Place—er y gall hyn fod y hollol gywir. Colled fawr iawn i'r achos bycha oedd msrw- olaeth Mr. Edwards Yr oedd yn sefyll yn uchel ym meddyliau yr oll o'r brodyr a'r chwiorydd. Yr oedd fy nhad a'm mam yn hoff ac yn barchus iawn ohono. Bu farw fy nhad cldeunaw mis ar ei ol, ym Medi, 1858. David Davies. David Davies oedd y pen-cantwr cyntaf i mi ei gofio. Saer maen ydoedd wrth ei alwedigaeth, yn gweithio yn y Dock Board. Dyn tal, pryd goleu, llawn hwyl : llais a thipyn o grac ynddo oedd ganddo. Bycldai " mynd " yn y canu bob amser o dan ei arweiniad ef. Ni bu yma yn hir— ychydig o flynyddoedd. Symudodd o Bootle, a chollasom ei wasanaeth ef ; ond yr oecld yma wr i gymeryd ei le, sef Mr. David Jones. (/ barhau). Y DIWEDDAR 1r. Owen Jones, 20 Merton Hood. Ganwyd Mr. Owen Jones yn mhìwyf Ysceifiog, sir Fflint, Awst 14eg, 1842. Ryw adeg wedi hyny symudodd ei rieni, sef Mr. John a Mrs. Arabella Jones, i'r Tyddyn Bach,Rhosesmor,yn yr un sir. Bu iddynt chwech o blant, ond y cwbl sydd yn awr yn fyw ydyw un brawd, Mr. James Jones, yn yr hen gartref ; a dwy chwaer, Mrs. Worth a Mrs. Rogers, Fflint. Cafodd Mr. 0. Jones dcìyg- iad i fyny crefyddol, a phan yn wr ieuanc credai llawer o'i gydnabod fod ynddo gymhwysterau amlwg i'r weinidogaeth. A dywedir iclcìo gael ei gymhell i feddwl am bregethu gan y Parchedig William Pierce, Rhosesmor, a'r Parchedig Roger Edwards, Wyddgrug. Nid oes sicrwydd hollol pa bryd y gadawodd ei gartref ; ond y tebyg ydyw iddo ddyfod i Bootle yn ngwanwyn y flwyddyn 1864. Agorwycl y capel yn Miller's Bridge yn nechreu Chwefror y fiwyddyn liono. Nid ymddengys ei fod yn bresennol ar yr achlysur hwnw, ond credir ei fod yn bresenol yn y Tea, Party cyntaf yn nechreu Mai. >- Ymunodd â'r eglwys ar unwaith,ac yn ebrwydd dechreuodd wneud ei hun yn ddefnyddiol mewn gwahanol gylchoedd. Tuag adeg y dadleuon yn nghylch yr Eglwys Wyddelig, yn 1868 a 1869, darllenodd bapur rhagorol ar y mater yn y Gymdeithas Lenyddol. Priododd yn Medì, 1869, a bu iddo ef a Mrs. Jones dri o blant. Bu farw yr ail blentjm, Oswald Owen, yn ieuangc, ond y mae y ferch, Mrs. R. Llewelyn Roberts, 8 Pembroke Road, a'r mab ieuengaf, Mr. Robert Lloyd Jones, Llundain, eto yn aros, ac yn mwyn- hau iechyd rhagorol.