Skip to main content

YR Ymmely Goîygydd Lîeol—Mr. HUGH RORERTS, 57 Clare Road. Hanes dechreuad yr Achos yn Stanley Road. [Gan y Parçh. GRIFPITH ELLIS, M.A.] (pnrhad) Yn ddiweddar ym.ddanghos.odd y bedwaredd gyfrol o Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru gan Dr. Spinther James, Llandudno, a chynhwysa yr hyn a ganlyn am " Eglwys Bootle " :— Cawn i ddau Fedyddiwr—George Roberts a Cornelius Jones—gychwyn achos yma yn 1850. Ymunodd y ddau i gymeryd ysgoldy bychanaelwid " Worthington's Academy " yn Princes Terrace, am £6 yn y fiwyddyn o rent, i gynnal addoliad ; a chawsant y gweinidogion dieithr a wasanaethent yn rhai o eglwysi Liverpool ar y Suliau i bregethu yma am ddau o'r gloch. Enwir Edward Roberts o'r Drefach, ger Castellnewydd Emlyn, fel y cyntaf a bregethodd yn y lle, Mehefin 23, 1850 ; J. D. Evans (Llangefni ar y pryd) ar y ddau Sul dilynol ; a Thomas Roberts, Rhosybol, ar y pedwerydd. Yna ymddengys iddynt adael i'r enwadau ereill ymuno â hwy—pob enwad i ddarparu pregethwr yn ei dro. Medi 29, 1850, dechreuwyd Ysgol Sul gymysg, pryd y daeth 23 ynghyd, Dylid deall ei bod yn bur foreu yn Bootíe y pryd hwnw : nid oedd yma yn 1860 ddim ond 211 o Gymry mewn oed, a 81 o blant. Yn Awst, 1851, gorfu i George Roberts a Cornelius Jones, ar gyfrif eu galw- edigaeth, symud i fyw i'r dref ; ac yna syrth- iodd yr achos Cymreig yn Bootle i ddwylaw yr enwadau eraill—y Methodistiaid yn bennaf, y rhai, erbyn 1862, oeddynt yn 50 o aelodau, ac wedi adeiladu tŷ cwrdd iddynt eu hunain. Yn y flwyddyn hono, 1862, dychwelodd George Roberts i Bootle, ac yma y treuliodd weddill ei oes, yn golofn i'r achos. Nid cywir ydyw dweyd i'r Methodistiaid adeiladu " tŷ cwrdd " yn 1862. Ar y 5ed o Chwefror, 1864, yr agorwyd eu capel cyntaf yn Miller's Bridge, pryd y pregethwyd gan y Parchedig David Jones, Treborth. Wedi ei ddychwelyd, penderfynodd George Roberts " adgyweirio allor yr Arglwydd, yr hon a ddrylliasid," a chafodd gan Undeb Bedyddwyr Liverpool i'w gynorthwyo. Mewn cyfarfod yn Great Cross, Tach. 27, 1862, awdurdodwyd William Thomas, gweinidog Great Cross, a J. J. Williams, gweinidog Athol, i gydweithredu â George Roberts i gymeryd yr hen ysgoldy—(W^orthington's Academy)— am £6 yn y flwyddyn, i ail gychwyn achos i'r Bedyddwyr. Cynhaliwyd y gwasanaeth cyn- taf yr ail Sul yn Ionawr, 1863, ac wyth enaid yn bresennol. Ar y lOfed o Ionawr, 1864, cawsant fenthyg ysgoldy y Presbyteriaid i gynnal eu cwrdd blynyddol cyntaf, lle y pregethodd Isaac Thomas, Birhenhead ; Wm. Thomas, Great Cross ; J. J. Wiìliams, Athol Street ; a John Davies, Howe Street,—hen weinidog Athol Street. Yn hanes y cwrdd, dywedir : " Ar ddiwedd yr oedfa chwech, cawsom y fraint o dderbyn un i gyíìawn aelodaeth, a chyd eistedd wrth fwrdd yr Arglwydd. Gweinyddwyd yr ordmhad gan y Parch. John Davies. Dyma y cyfarfod blyn- yddol cyntaf a gynhaliwyd gennym, a chyf- arfod rhagorol ydoedd. Yr ydym wedi cael y fraint o fedyddio dau y flwyddyn ddiweddaf. Nid oes yma eglwys wedi ei fîurfio eto, ond canghen o eglwysi Cymreig Lerpwì ydym. Pregethir yma bob Sabboth am ddau gan weinidogion yr eglwysi, ac am chwech gan y pregethwyr cynorthwyol. Mewn ysgoldy bychan yr ydym yn cynnal ein cyfarfodydd : chwe phunt yn y flwyddyn yw ei ardreth, a thelir am dano gan yr eglwysi." Pwy oedd y ddau a dderbyniwyd y flwyddyn ddiweddaf nis gwyddom ; ond tybiwn mai gwr o'r enw David Lewis, brodor o Lanfrothen, sir Feirion- ydd, a ddaethai i Bootle tua 1863, oedd yr " un a dderbyniwyd i gyflawn aelodaeth " yn y cwrdd uchod. Bedyddiasid ef gan John Davies ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn hono. Daeth yn grefyddwr dysglaer, ond ber fu ei yrfa: claddwyd ef Ionawr 1, 1870..... Erbyn 1868 yr oedd yr aelodau yn Bootle yn 15 ; ac ar y 14eg o Fehefin y flwyddyn hono corpholwyd hwy yn eglwys dan ofal John Davies—hen weinidog Athol Street—yr hwn a ymgymerodd i wasanaethu yr eglwys ieuanc yn ddi-dâl, a gwnaeth yma waitli rhagorol. Efe, mewn gwirionedd, a gododd yr achos yn Bootle. . . . Ymddiswyddodd yn Gorphenaf, 1885. Bu farw Mehefin 3, 1888, yn 63 mlwydd oed ; [ac yn Nghladdfa Anfield y mae ei fedd. Y cyfeiriad cyntaf at yr achos Methodistaidd yn y Drysorfa ydyw yr hwn a ganlyn, 1861, tudalen 236 :—