Skip to main content

YR Ymcuelydd Golygydd Lleol—Mr. HUGH ROBERTS, 57 Ciare Road. Hanes dechreuad yr Achos yn Staníey Road. " Y Sabboth olaf o'r flwyddyn 1875 oedd y diweddaf i'r gynulleidfa i addoli yn yr hen gapel ; a'r Sabboth cyntaf yn 1876 symud- wyd i'r Ysgoldy cysylltiedig â'r Capel NewT- ydd, lle y buwyd yn addoli hyd agoriad y Capel, Rhagfyr 7—20, 1876. Yr arch- adeiladydd oedd Mr. C. O. Ellison, Liverpool, a'r adeiladydd ydoedd Mr. Samuel Webster, Bootle. Cyrhaeddodd y treuliau i fwy nag Wyth Mil o Bunnau. " Ar yr agoriad gwasanaethwyd gan y Parchedigion Joseph Thomas, Carno ; John Hughes, D.D. ; O. Thomas, D.D. ; Lewis Edwards, D.D., Bala ; William Rees, D.D., Caer ; Hugh Jones, Liverpool ; John Evans, Garston ; Richard Lumley, Seaeombe ; Wm. Graham, Mount Pleasant, Liverpool ; David Lloyd Jones, M.A., Llandinam ; John Thom- as, B.A., Catharine Street, Liverpool ; a G. Ellis, B.A. Ar yr 8fed o Ragfyr, wedi pregeth yn y prydnawn gan y Parchedig William Graham, cafwyd Cyfarfod Tê yn yr Ysgoldy, dan lywyddiaeth Maer Bootle (T. P. Danson, Yswain). A'r pryd hwnw datganodd y Trysorydd fod £3,800 yn eisieu tuag at ddileu y ddyled. Ar ddiwedd 1876 yr oedd nifer yr aelodau yn 410." Dywedai y Maer y pryd hwnw fel hyn :— " Y mae yn Cumberland le arall o'r enw Bootle ; ond lle bychan ydyw hwnw, gydâ phum' mil o drigolion, tra y mae ein Bootle ni yn meddu poblogaeth o bum' mil ar hugain." Mawr ydyw y cynnydd er yr adeg hono. "Yn Tachwedd, 1877, dewiswyd tri yn ychwaneg o flaenoriaid, sef y Meistri Owen Williams, Thomas Williams, a William Jones (yn awr o Caradog Villa, Balliol - Road). Ar ddiwedd 1877 yr oedd yr aelodau yn 437. Yn nechreii 1878 ymadaw- odd cryn nifer i ymfîurfìo yn eglwys yn Walton, fel nad oedd nifer yr aelodau ar ddiwedd y flwyddyn hono ond 418. Yn Mai, 1879, dewiswyd drachefn dri o flaenor- iaid, sef y Meistri Edward Owen, William Jones (yn awr o Tyrol, Aigburth Drive, Liverpool), a William Jones, 85 Brasenose Road. Yn Tachwedd, yr un flwyddyn, sefydlwyd eglwys yn Waterloo, ac mewn canlyniad yr oedd nifer yr aelodau ar ei diwedd wedi gostwng i 388. Erbyn diwedd 1881 yr oedd y nifer wedi cyrhaedd drachefn i 466, tra yr oedd nifer aelodau yr eglwys yn Walton yn 103, a'r nifer yn Waterloo yn 90,—cyfanrif o 659. Yn 1861 nifer yr aelod- au ydoedd 53 ; ond erbyn diwedd 1882 yr oedd yr eglwys fechan hono yn dair o eglwysi gyda chyfanrif o fwy na saith gant o aelodau." " Dengys yr amlinelliad uchod i gynnydd mawr a chyfìym gymeryd ìle, yr hwn nas gallai lai na bod yn destun lìawemydd i'r swyddogion a'r aelodau." Ychydig iawn sydd yn aros yn niwedd 1907 o'r rhai oedd yn aelodau o'r eglwys ar agoriad yr hen gapel yn nechreu Chweíror, 1864. Oni fyddai yn werth gosod eu henwau ar gof a. chadw ? Diau y gall Mr. Thomas Parry eu nodi allan yn rhwydd. Nodiad. Ym Matthew iv. 23, dywedir i'r Arglwydd lesu fyned o amgylch holl Galiìea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyì y deyrnas. A chawn hefyd fod loan Fedydcìiwr cyn hyn yn cyhoeddi fod teyrnas nefoedd wedi neshau. Yn awr, pa gwestiynau ydoedd yn debyg o godi ym meddyliau y bobl wrth glywed yr ymadrodd hwn : " Neshaodd teyrnas nefoedd"? Onid cwestiynau tebyg i hyn : (a) Beth ydyw y deyrnas hon, pa ragorfreintiau a gynhygir ganddi ? (b) Beth a ofynnir oddiwrth y sawl a berthynant iddi ; beth ydyw ei deddfau a'i rhwymedigaethau ? (c) Pa"íodd y gall y sawl a ddymunant gyfranogi o'i rhagorfreintiau ac ymgymeryd â'i rhwymedigaethau ddyfod yn ddeiliaid o'r deyrnas hon ? Gwelir fod y tri cwestiwn hyn, neu y tri dos- barth o gwestiynau, yn cyfateb i raniad y bre- geth, sef natur a cìiyfansoddiad y deyrnas ; decldfau y deyrnas, a gwahoddiad i'r deyrnas. Ac wrth sylwi fel hyn ar y cysylltiad agos sydd rhwng y gwahanol rannau, cadamheir ni yn y golygiad mai un bregeth sydd yma, ac nid casgliad o ddywediadau yr Arglwydd Iesu ar wahanol adegaú, er y dîchon fod y Gwaredwr wedi defnyddio rhai o'r dywediadau hyn fwy nag unwaith, yr hyn sydd an cyfrif am y modd gwdsgaredig ymha un y ceir hwynt yn Efongyl Luc. Addewid Duw i Abraham ydoedd, " Mi a'th fendithiaf, a thi a fyddi yn fendith." Gwelir fod yr addewid hon yn ddeublyg : Duw yn bendithio Abraham, ac yn ei wneud yn fendith i ereill. Felly yma ; yn y rhan gyntaf o'r bre- geth ar y mynydd ni gawn Dduw yn bendithio— dyna ystyr y gwynfydau ; ac yn yr aiì ran (adn. 13—16) ni gawn ddeiliaid y deyrnas yrt