Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR Ymuielydd ]VÜsol Golygydd Lleol—Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare Road. Y Nwyddyn Newydd. Cyn y bydd y rhifyn hwn allan o'r wasg, byddwn wedi cefnu ar yr hen flwyddyn, ac wedi dechreu ar y newydd. Ceir cyfle eto i adolygu y flwyddyn sydd yn terfynu yn ei pherthynas â'r eglwys, ond gallwn ddweyd ei bod' yn flwyddyn ag y bu angen mewn aml deulu yn ein plith, ac ar y cyfrif hwnnw iddynt hwy yn flwyddyn a goíìr byth. Y mae lle aml ün yn wâg, ac y mae arnom hiraeth ar eu hol. Gyda y rhifyn hwn bydd yr Ymwelydd yn cyrraedd ei flwydd oed, a dymunem gydnabod yn ddiolchgar bob cymorth a chefnogaeth a dderbyniasom yn y gwaith o'i ddwyn ymlaen. yn enwedig i'r cyfeillion sydd wedi bod mor barod i anfon ysgrifau iddo. Apeliwn am yr un gefnogaeth eto yn y dyfodol. Dymunem ná byddo un teulu yn ein plith heb fod yn dder- bynwyr ohono, ac y mae nifer fawr o bobl ieu- ainc yn ein mysg ag y byddem yn ddiolchgar am eu cefnogaeth hwythau, gan ddymuno i'r flwyddyn newydd fod yn flwyddyn dda i bawb. Hanes dechreuad yr Achos yn Stanfey Road. " Bychan oedd nifer y Cymry yn y gym" mydogaeth hyd symudiad y fasnach goed i Canada Dock yn 1860. Y pryd hwnw daeth amryw deuluoedd yma o ben deheuol Liverpool. Yn Gorphenaf, y flwyddyn hono, gwnaed ymdrech i gael cyfrif o'r holl Gymry a breswylient yn Bootle, Seaforth, Waterloo, a Crosby ; a chafwyd fod yn yr ardaloedd hyn 211 o rai mewn oed, a 81 o blant,—cýfan- rif o 292. Yn Medi, yr un flwyddyn, gwelid fod yr ystafell yn myned yn rhŷ fechán i'r gynulleidfa; a frurfiwyd Cyfeisteddfod i drefnu gyda golwg ar gael capel, ac i gasglu arian at yr amcan hwnw. Ond aeth cryn amser heibio cyn i ddim effeithiol gael ei wneud ; yn 1862, pa fodd bynag, sicrhawyd lle cyfleus i adeiladu capel gerllaw Miller's Bridge. Adeiladwyd yno gapel i gynnwys agos i bum' cant o eisteddleoedd, gydag Ysgoldy ehang a chyfleus oddi tano, am Ddŵy Fil o Bunnau. Dangoswyd líawer iawn o ffyddlondeb gan yr aelodau, a chared- igrwydd mawr gan y brodyr yn y dref, yn gystal a chan lawer o fasnachwyr Seisnig yn dal cysylltiad â'r gymmydogaeth, gydâg adeiladaeth y Capel. " Rai misoedd cyn ei agoriad, gadawyd yr oruwch-ystafell yn Princes Terrace, a chynhaliwyd y cyfarfodydd mewn ystafell fwy ehang a chyfleus, mep tŷ yn agos i'r He y saif Camden Street ac Emley Street (Derby Road yn awr). Agorwyd y capel ar y 5ed o Chwefror, 1864, a phregethwyd y bregeth gyntaf ynddo gan y diweddar Barchedig David Jones, Treborth. Ar ddi- wedd y flwyddyn ganlynol (1865) yr oedd nifer yr aelodau yn 171. Yn Hydref, yr un flwyddyn, y galwyd y Parchedig Owen Jones, Amwythig, i fod yn weinidog yr eglwys ; a pharhaodd i lafurio ynddi yspaid pum' mlynedd." Y mae Mr. Jones eto yn fyw, ac yn preswylio yn ei hen gartref, sef y Gelli, Sir Drefaldwyn. " Yn Rhagfyr, 1867, y dewiswyd blaenor- iaid yn yr eglwys am y tro cyntaf. Cyn hyny dygid yr achos yn mlaen dan arolyg- iaeth nifer o frodyr a weithredent fel Cyf- eisteddfod. Y brodyr a ddewiswyd y pryd hwnw oedd y Meistri William Parry, D. P. Davies, David Lloyd, David Jones, ac Owen Williams. Oherwydd yr anghyfleusdra o fyw yn Waterloo, gwrthododd Mr. Williams ymgymeryd â'r cyfrifoldeb yr adeg hono. Ar ddiwedd y flwyddyn yr oedd nifer yr aelodau yn 178. Parhaodd yr eglwys i gynnyddu yn raddol, nes yr oedd yn niwedd 1873 yn 284. "Yn Rhagfyr, 1873, galwyd Mr. Griffith Ellis, Aberllefenni, i fod yn weinidog yr eglwys. A'r flwyddyn hono teimlid fod y cynnydd oedd eisoes wedi cymeryd lle, a rhagolygon masnachol y gymmydogaeth, yn galw am i'r eglwys wneud paratoadau at estyn cortynau ei phreswylfeydd. Llwydd- wyd i werthu yr hen gapel yn Müler's Bridge am £1,680 ; a sicrhawyd tir i adeiladu capeì newydd arno ar gongl Stanley Road a Trinity Road." Teimlai rhai cyfeillion mai ar gongl Trinity Road a Pembrolce Road y dylid adeiladu,— ychydig yn agosach i'r hen gapel, am rnai yn y rhanau o'i amgylch yr oedd cyfartaledd mawr o'r aelodau y prÿd hwnw yn preswylio. Ond yn ffodus iawn, fel arall y penderfynwyd, a'r canlyniad ydyw fod y capel heddyw, yn