Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR Golygydd Lîeoì—Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare Road. Oyled y Copel. Fel y mae yn hysbys i'n darllenwyr, yr ydym fel eglwys wedi penderfynu gwneud ymdrech neilltuol i dalu y ddyled o £500 sydd ar y capel, ac i'r amcan hwnnw y mae nifer o frodyr wedi eu penodi yn gasglyddion i fyned oddiamgylch i ofyn ewyllys da yr aelodau. Fe ofynriir am addewidion ì'w talu erbyn diwedd 1908. Nid ydyw y baich yn fawr i eglwys mor liosog, ac ond i bawb ohonom wneud eu rhan, fe'i symudir yn bur rhwydd. Hyderwn y ca y brodyr fydd yn casglu dderbyniad croesawus, ac y byddwn oll fel eglwys yn ei theimlo yn fraint caeì cyn- orthwyo gyda y gwaith da hwn. Y Gymanfa Ddîrwestol. Ym Mhwyllgor Dirwestol yr eglwys, a gynhal- iwyd Tachwedd 3ydd, pasiwyd y penderfyniad canlynol gyda dymuniad iddo gael ei gyhoeddi yn yr Ymwelydd Misol :— " Ein bod yn dymuno gosod ar ein cofnodau ein gwerthfawrogiad o ymweliad Cymanfa Ddirwestol Gwynedd ac' Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru â'r cylch y mis di- weddaf. Cafwyd cyfarfod tra rhagorol gan Undeb y Chwiorydd yng nghapel Stanley Road, yn yr hwn y traddodwyd anerchiadau gwerth- fawr iawn gan Mrs. Herbert Robérts (llywyddes) Miss Pritchard (ysgrifenyddes), a Mrs. Herbert Lewis. Diolchwn yn galonnog i'r brodyr a fu yn paratoi at dderbyn y cynrychiolwyr ac yn llafurio i wneud y çyfarfodydd yn llwydd- iannus ; ac yn arbennig i'r chwiorydd, y rhai a wnaethant waith gwir effeithiol. Credwn nas gall y cyfarfodydd a gafwyd mewn gwahanol leoedd o fewn y cylch, a'r areithiau grymus a draddodwyd, lai na gadael argraff ddaionus ar ddyfodol yr achos dirwestol yn ein plith. " Llongyfarchwn Gymanfa Gwynedd ar derfyn dengmlynedda thriugain o lafur gyda'r achos, ac Undeb Dirwestol y Merched ar derfyn ei bymthegfed fiwydd. Credwn fod y naill a'r llall wedi gwneuthur gwasanaeth godidog yn yr amser aeth heibio, a dymunwn iddynt eto lwyddiant mwy mewn blynyddoedd dyfod- ol." R. A. Jones, Ysg. Hanes dechreuad yr Achos yn Stanley IRoad. [Gan y Parch. GRIFFITH ELLIS, M.A.] Yn gymaint a bocl y rhan fwyaf o aelodau presennol yr eglwys yn gymharol ddieithr o angenrheidrwydd i'r hanes :ichod, bwriadwn roddi o fis i fis ychydig nodiadau arno. Nid oes yn awr ond un ar hugain o aelodau yn yr eglwys ag oeddynt yn aelodau ohoni yn nechreu 1874. Yn Adroddiad yr Eglwys am 1876, rhoddwyd gan ein hen frawd ffyddlawn, Mr. David Jones, grynhodeb o'r hanes cychwynol ; ac nis gallwn wneud yn well na dyfynu rhanau o hono, fel rhagarweiniad i'r hyn a ysgrifenir i rifynau dyfodol :— " Fwy na hanner can mlynedd yn ol bu nifer o frodyr ieuaingc yn cerdded i Bootle Vülage o Liverpool yn gyson am gryn yspaid i gynnal Ysgol Sabbothol; ond rhoddwyd yr Ysgol i fynu oherwydd gwrthwynebiad erledigaethus rhywnifer o'r trigolion." Teflid cerrig i mewn trwy y ffenestri, fel yr oedd yr aelodau yn gorfod ymgynnull yn nghyd yn nghanol peryglon. Yn 1876 yr oedd un o'r gwŷr ieuaingc hyny yn fyw, a chanddo ef y cafwyd yr hanes uchod. " Ac nid ymddengys i un gwasanaeth Cym" raeg gael ei gynnal yn y gymmydogaeth wedi hyny hyd y flwyddyn 1849. Dywedir mai y gwasanaeth cyntaf a gynhaliwyd y pryd hwnw oedd Cyfarfod Gweddi yn nhŷ Daniel Edwards, yn agos i'r lle a elwir yn awr Brunswich Place. Enwau y brodyr a gymerent ran ynddo oedd Thomas Jones (Ẅesleyad), Thomas Evans (Bedyddiwr), John Jones (Methodist), a Hugh Jones (Methodist)." Nid oes llawer o flynyddoedd er pan fu farw y diweddaf,—Mr. Hugh Jones, Globe Street,— un o hen aelodau ffyddlonaf yr eglwys yn Netherfìeld Road. Hoffai ef hyd ddiwedd ei oes son am y rhan a gymerodd yn nghychwyn- iad yr achos yn Bootle. " Wedi hyn gofynwyd i'r Parchedig Thomas Aubrey roddi pregeth Gymraeg yn y Capel