Skip to main content

YR Ymcuelydd Misol Golygydd Lleol—Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare Road. Dewis Biaenoriaid. Nos Iau, Hydref 10, bu y brodyr canlynol, y Parchn. John Hughes, M.A., William Owen, J. D. Evans, a Simon G. Evans, a'r Mri. Nathan- iel Bebb, William Williams, Joseph Bellis, a David Parry, yn y cyfarfod eglwysig, dros y Cyfarfod Misol, yn cymeryd llais yr eglwys yn newisiad ychwaneg o swyddogion. Gwnaeth y Parch. John Hughes, M.A., ganlyniad y bleidlais yn hysbys, fod tri brawd wedi eu dewis, sef Mri. Hugh Evans, Stanley Road; R'. O. Jones, Pembroke Road ; a Hugh Roberts, Clare Road. Datganodd Mr. Hughes ei fodd- had yn newisiad y tri blawd, a hyderai y byddai y tri yn derbyn yr ymddiriedaeth bwysig oedd yr eglwys wedi ei osod arnynt. Dywedai hefyd fod nifer ereill o frodyr yn sefyll yn uchel yn syniad yr eglwys, yn ol fel y danghosai y bleidlais. Diau mai yr unig siomedigaeth ydyw na fuasai nifer mwy wedi eu dewis. Da gennym ddeall fod y tri brawd a ddewiswyd yn derbyn y swydd. Mae'r tri yn aelodau o'r eglwys er's llawer o fiynyddau, a'r mwyafrif mawr yn eu hadwaen yn dda, ac maent hwythau yn adwaen yr eglwys. Credwn mai dymuniad pawb ydyw am iddynt gael bywyd ac iechyd i was- anaethu yr Arglwydd ya ei winllan yn Stanley Road am hir amser. Derbynnir hwy yn aeì- odau o'r Cyfarfod Misol y nos Fercher gyntaf yn Tachwedd ; wedi hynny byddant yn cymer- yd eu lle fel swyddogion yr eglwys.—L.R. Mathew vii. 7—12. (parìiad). 2. Deddfau y Deymas.—Geilw yr Arglwydd Iesu sylw at ei deddfau, trwy ddangos ymlaen- af ei berthynas ei Hun â'r gyfraith: " Na thybiwch fy nyfod i dorri y gyfraith, neu y proffwydi : ni ddaethum i dorri, ond i gyf- lawni." Bywyd yr Arglwydd Iesu ydyw y datguddiad perfîaith o ofynion deddf DuW, ac nid datguddiad mewn geiriau ydyw y dat- guddiad a ddyry yr Arglwydd Iesu, ond dat- guddiad mewn bywyd. Yn ei fywyd Ef y gwelwn ehangder gofynion y gyfraith, a'r gyfynion hynny yn cael eu sylweddoli ym mherffeithrwydd ei gymeriad. Datguddio y ddeddf trwy ei byw. Yng ngeiriau yr Hyffordd- wr : " Efe a fawrhaodd y gyfraith, ac a'i gwnaeth hi yn anrhydeddus," ac nis gwyddom am ddim yn dangos mawredd cyfraith Duw yn fwy na'r ffaith ei bod yn ddigon mawr i'r Deddfwr ei hunan ddyfod o dani, byw ei holl ofynion, heb i hynny fod yn unrhyw ddarostyng- iad ar ei Berson. Y mae Duw yn gofyn yr un perffeithrwydd yn neiliaid ei D&yrnas ag sydd ynddo Ef ei huri : " Byddwch chwithau gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith." Oni osodir safon y bywyd crefyddol yn uchel ? 3. Y Deyrnas yn ei chysylltiadau. — Yma cawn berthynas y Cristion â'r byd mewn dwy wedd. Ei berthynas â'r byd (á) fel meddiant, (6) fel drwg. Er fod y credadyn wedi ei alw allan o'r byd, eto y mae i fyw ynddo, ac y mae yn rhaid iddo, wrth ddarparu ar gyfer ei gyn- haliaeth ei hun a'i deulu, wynebu cwestiynau gyda golwg ar yr hyn sydd dda neu ddrwg mewn ereill, cadw a defnyddio cyfoeth, ac yn yr adran vi. 19—34, rhybuddir hwy rhag peryglon cybydd-dod a gorbryder, y ddwy agwedd ar berthynas dyn â phethau y byd ag y mae yn agored i'w dylanwadau niweidiol ar ei ysbryd. Yn yr adran ddiweddaf, sef vü. 1—6, cawn berthynas y credinwyr â'r drygioni sydd yn y byd, a'r peryglon y .maent yn agored iddynt oddiwrtho, y rhai y cyfeiriwyd atynt ar ddeehreu ein hysgrif. Y mae y pethau hyn yn dangos fod safon foesol y bregeth yn gyfryw ag y mae yn an- hawdd ei gyrraedd, neu mewn geiriau ereill, fod crefydd yr Arglwydd Iesu yn un mor ysbrydol fel y rnae holl galon dyn i gael ei dwyn o dan ei dylanwad. Nid cyfìawnder y cyf- lawniadau fel eiddo y Phariseaid a ofynnir ganddi, ond cariad at Dduw, a chariad at ddyn wedi dod yn egwyddorion Ilywodraethol y galon, ac mewn canlyniad yn ysgogydd pob meddwl, bwriad, a gweithred o eiddo y credadyn Cwestiwn ag sydd yn ymgodi yn naturiol ydyw : Os yw y safon mor uchel, pwy sydd ddigonnol yn y pethau hyn ? Ein perygl ydyw digaloni, gan ein bod mor bell oddiwrtho, ameu ei bosiblrwydd, ac ymfoddloni ar osod safon isel i'n bywyd. Os mai " gyda dynion amhosibl yw hyn, gyda Duw pob peth sydd bosibl." Gofynwch, ceisiwch, curwch. Yr unig ffordd i'w gyrraedd ydyw, nid darostwng safon ein bywyd, ond myned at Dduw mewn gweddi i ymofyn am y gras i'w gyrraedd, ac y mae pob parodrwydd yn Nuw i'w roddi i ni. Dyma gysylltiad y geiriau fel yr ymddengys i ni. " W.P.J.