Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR Golygydd Lleol—Mr. HUGH ROBERTS, 57 Clare Road. Dymtjna y Pwyllgor sydd yn gofalu am y plant ddiolch yn y modd mwyaf cynnes i'r chwíorydd a'r brodyr caredig am eu gwasanaeth yn paratoi y decorations,&c, ar gyfer yr orymdaith ddir- westol, ddydd" Sadwrn, yr 8fed o Fehefin. Yr oeddym wedi llwyr anobeithio cael plant ein Gobeithlu i gymeryd eu lle yn yr orymdaith eleni, oherwydd ein bod wedi methu cael ond ychydig iawn i roddi eu presenoldeb yn y cyf- arfodydd paratoawl, a thybiem fod pawb yn y lle yn hollol ddifater a oeddym am ymuuo â'r orymdaith ai peidio, a digalónwyd n yni fawr o'r herwydd. Ond, ar anogaeth y Pwyll- gor Dirwestol, gwnaeth ein parchus weinidog a Mr. Alderman Jones apêl bersonoì at y plant i ddyfod ynghyd, a gofynwyd i'r boneddigesau am eu cynhorthwy hwythau ; ac iddynt hwy, o dan arweiniad Miss Ada M. Roberts a Mrs. Thomas Parry, yr ydym yn ddyledus am ym- ddanghosiad hardd y dyrfa o blant a ddaeth ynghyd. Fel gyda phopeth arall y bydd y boneddigesau caredig yn ymgymeryd a'i wneu- thur, fe wnaed hyn o orchwyl mewn modd nad oedd bosibl ei wella, ar mor fyr rybudd. Diolchwn o galon hefyd i Mr. Alderman Jones am ei rodd haelionus o medal i bob un o'r plant. Gresyn fod y tywydd anffafriol wedi dyrysu cymaint ar y trefniadau ddiwrnod yr orym- daith. Fodd bynnag, yr oedd ein tum-out y goreu gawsom hyd yn hyn, a diolchwn hefyd i'r plant arn eu hymddygiad da, ac i bawb a gymer- odd ran, yn enwedig i'r ddau frawd Mr. John Davies a Mr. E. 0. Jones, am gario y faner fawr mor ewyllysgar a deheuig. J.W. CYMDEITHAS DDIRWESTOL Y CHWIORYDD. [Gan Mrs. Thomas Pabry.] Da gennym fod y gymdeithas uchod yn cael ychydig sylw yn ein Hymwelydd Misol, a go- beithiwn y bydd yn foddion i ddwyn liawer o'n chwiorydd yn ychwanegol i gymeryd dyddordeb ynddi. Cangen ydyw hon o Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru. Y llywyddes gyffredinol yw Mrs. J. Herbert Roberts, Bryngwenallt ; a'r ysgrifenyddes yw Miss Prichard, Birmingham. Y mae canghennau o'r gymdeithas drwy Ogledd Cymru, ac amryw o drefydd Lloegr, a chynnwys ei haelodaeth bob enwad Ymneilltuol. Mae tuag ugain o ganghennau yn Lerpwl, ac anfona y rhai hyn gynrychiolesau i'r pwyllgor sydd yn cyfarfod bob mis yng nghapel Crosshall Street. Llywyddes y pwyllgor yma yw Mrs. Evan Owen, Smith Street ; a'r ysgriíenyddes yw Mrs. Parry, York Terrace. Ond â changen Stanley Road y mae a wnelo y sjdwadau hyn yn fwyaf neilîtuol. Rhifwn tua 200 o aelodau, y rhai hynny gan fwyaf o fysg ein haelodau eglwysig, ac mae y mwyafrif ohonynt yn cyfrannu o geiniog i swllt yn y flwyddyn tuag at dreuliau y gymdeithas. Mae gennym bwyllgor o 18 o chwiorydd, y rhai sydd yn trefnu y cyfarfodydd ac yn gofalu am yr achos yn gjTffredinol. Rhennir yr eglwys yn ddosbarthiadau, ac mae un o'r pwyllgor yn ymweìed â'r holl chwiorydd o leiaf unwaith yn y flwyddyn i gasglu y tanysgriiiad.au ae i geisio cael aeîodau newyddion i'r gymdeithas. Cynheiir cyfarfodydd amrywiaethol bob mis, gan amlaf yn ein hystafell genhadol yn York Hall, a dymunol iawn fyddai cael llawer yn ychwaneg o'r chwiorydd i gymeryd rhan ynddynt drwy ganu neu adrodd, darllen hanesyn, neu ysgrifenu papur. Credwn y byddai hynny ynìles iddynt hwy eu hunain, trwy ddwyn i'r amlwg dalentau ag sydd hyd yn hyn yn guddiedig ; a phwy a ŵyr nad allent fod yri foddion i wneud rhyw ddaioni i ereill ? Dymunein wahodd yn daer yr holl chwiorydd i ymuno â'r gymdeithas yma, a rhoddi eu dylanwad o blaid Dirwest a Phurdeb, fel y byddo eglwys Stanley Road yn gryno ac yn gryf yn erbyn y felltith sydd yn difa moesau a chymeriadau Hawer o'n ehwiorydd yn y dref hon, ac felly sylweddoli ein harwyddair, " Er mwyn Crist, er mwyn Cartref, ac er mwyn Cymydog." Mae Cymdeithas Lerpwl wedi ymgymeryd â gwaith go fawr a phwysig eleni, sef gwahodd Cymcleithas Ddirwestol Gwynedd ac Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru i gynal eu cyfarfodydd blynyddol yn ein tref ni. Fe gynhelir y cyfarfodydd hyn tua chanol mis Hydref, a disgwyhr brodyr a chwiorydd urdd- asol a galluog i siarad ynddynt. Gan y bydd rhai ugeiniau ío gynrychiolwyr yn feibion a