Skip to main content

YR Goiygydd Lîeol-ROBERT ROSERTS, B.A., Ph.D. Fel y mae yn hysbys i bawb, yn ddiau, fod Dr. Roberts wedi derbyn galwad o eglwys Trefnant, a bwriada ddechreu ar ei waitb yno y mi.s nesaf, felly yr ydym yn colli ei was- anaeth gyda ni yn yr egìwys hon. Nid oes angen datgan ein gwerthfawrogiad o'i lafui- ffyddlon a chymeradwy yn ein mysg am y deunaw mis diweddaf. Gwnaeth le cynnes iddo ei hun yn serch yr eglwys. a cholled drom fydd ei symudiad. Mae ein dymuniadau goreu am ei Iwyddiant yn ei faes newydd, ac am iddo ef a'i briocl gael hir oes a Ilawnder bendith yng ngwinllan eu Barglwydd. Gyda'r rhifyn hwn yr ydym yn cyflwyno darlun o Dr. Roberts, ac mae'n sicr genuym y bydd yn dderbynniol gan yr oll o'n darllenmwr. L.R, Xid oes ond ychydig fisoedd er pan gyfarchem ein darllennwyr am y waith gyntaf ; ond erbyn hyn y mae'r amser wedi dyí'od i ni gyfiwyno " Cadair y Golygydd " i arall. Gŵyr ein cyf- eiìlion yn dda nad oedd ar y golygydd presennol angen " cadair íawr," a rhag idcìynt ofni y codir pris yr Ymwelydd Misol yn y dyfodol, prysurwn i'w sicrhau na bydd ar y golygydd. newydd angen cadair llawer mwy. Y brawd sydd wedi ei ddewis i ofalu am hyn o waith ar oì ein hymadawiad ydyw Mr. Hugh Roberts, 57 Clare Road ; a phe dymunem roddi clwyf iddo wrth ymadael, y ffordd fwyaf effeithiol i wneud hynny a fyddai trwy ei ganmol wrth ddarllennwyr yr ?mwelydd. oblegid gwyddis nad oes arno ef angen llythyrau canmoliaeth. Yr ydym wedi cymeryd. dyddordeb mawr yn yr Ymwelydd er y dechreuad, ac wedi gwneud ein goreu i'w wneuthur yn adeiladol a dyddorol, a hefyd i'w ddwyn i sylw yr eglwys a'r gyn- ulleidfa yn Stanley Road. Nid oes gennym yn awr ond cyflwyno ein diolchgarwch gwresocaf am y o;efnogaeth a gawsom, a hefyd erfyn am barhad o'r cyfryw i'r goìygycld newydd. Dymunwn yn neilltuol ddiolch yn galonnog i'r Iliaws cyfeillion a ddanghosodd. y fath barodrwydd i'n cyhorthwyo gydag ysgrifau ; hefyd i ysgrifenyddion y gwahanol gymdeith- asau am anfon eu hadroddiadau ar derfyn bob mis. Gofalodd ysgrifennydd yr eglwys, Mr. Thomas Parry, hefyd am i ni gael pob newyddion eglwysig o fis i fis, y rhai a gofnodir yn yr Ymwelydd, a mawr hyderwn fod ein darllennwyr yn talu sylw i'r newyddion^ hyn. Un amcan i'n cyhoeddiad yciyw cre\i mwy o ddyddordeb ynom yng ngwaith y Deyrnas, a'n dwyn ì aclnabod ein gilydd yn well. Sylwer ar restr y rhai sydcl yn dyfod o'r newycld, ym- weler â hwynt, a gwneler popeth 3rn bosibl tuag at eu dwyn i deimìo yn gartrefoî yn ein plith. Hefyd yn yr Ymwelydd Misol gall arolj^gwyr, athrawon. ac athrawesau y ddwy j'Sgol weled pwy ydyw, a pha le y trig y newydd ddyfodiaid. a thrwy hynny ymweled â hwynt, a riiocldi gwahoddiad cynnes a charedig iddynt i' r ysgo!. Wrth derfynu. caniataer i ni apelio yn daer am ychwanegiad yn nifer derbynnwyr yr Ymwelydd. Er focl nifer clda yn ei gymeryd yn fisoi, y mae lliaws eto yn ein plith nad ydynt iij-ci yn hyn wedi rhoddi eu henwau am dano. Fel yn ein rhifyn cyntaf, dywedwn yma eto, mai gwasanaethu'r achos mawr yclyw ein ham- can, ac felly nid oes angen unrhyw esgusawd dros apelio feì hyn yn daer am ychwanegiacl yn nifer ei dderbynirwyr. Er yn ymadael, hyderwn y cawn eto gyfle i annereh ein cyf- eillion trwy gyfrwng yr Ymwiîlydd, ac yn achlysurol i ymweied á hw\rnt yn ijersonol. ANRHYDEDDÜ ATHRAW. Yx yr ysgol, Mai 5ed, cymerodd aíngyichiad hynod dclyddorol le, pan y cyflwynodd dosbarth Mr. John Davies nifer o lyfrau icldo fel arwydd o'u teimlaclau da tuag ato. Yr unig gŵyn sydcl gennym yngìyn â hyn ydyw, na buasai y cyf- Iwyniacl wedi ei wneud ar goedd yr ysgol. Ru Mr. Davies yn athraw ar yr un dosbarth am ciros ugain mlynedcl. ac y mae pawb yn barod i gydnabod ei fod yn llanw y drychfeddwl o athraw llwyddiannus. Y prawf goreu o hynnj^ ydyw y parch a'r edmygedd a goleddir gan aelodau y dosbarth tuag ato. Eleni y mae Mr. Davies yn Uanw y swydd o arolygwr yr ysgol, ac yn gwneud hynny mewn modd teilwng iawn. Wele restr o'r Ilyfrau a gyíiwynwyd iddo :—'" Y Syched am Dduw," gan y Parch. G. Elìis ; " Y Duw-Ddyn," gan y Parch. T. C. Edwards ; " Edifeirwch," gan y Parch. W. M. Lewis ; " Gorsedd Gras." gan y Parch. R. E. Morris ; " Egwyddor Moesol Gynghanedd," gan y Parch. D. M. Phillips. Nis gwyddom pa un i'w edmygu fwyaf,—gwaith nifer o ddynion ieuainc yn clewis y fath lyfrau, ynte Mr^ Davies fel un sydd wedi profi ei hun yn deilwng ohonynt.