Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR Golygydd Lieol—ROBERT ROBERTS, B.A., Ph.D. Wkth gyflwyno'r ail rifyn o'r Ymẁelydd i ddwylaw ein darllenwyr, caniataer i ni ddatgan ein diolchgarwch gwresocaf am y derbyniad siriol a roddwyd i'r rhifyn cyntaf. Y mae'r ofnau a ddatganwyd gennyrn yn y rhifyn hwnnw yn prysur ddifìannu,ac ond i'r egiwys barhau yn ei chefnogaeth iddo, gall fyw yn hir i ymweled â ni, ac i fod o wasanaeth i'.r achos mawr yn ein plith. Y mae Uiaws o'n cyfeillion nad ydynt eto wedi rhoddi eu henwau am dano ; ai gormod disgwyl i'r Ymwelydd gael gwahoddiad gan bob teulu yn ein plith ? Gwasanaethu'r achos yn ei wahanoi agweddau ydyw ei amcan, ac felly disgwylir i bob un sydd yn caru'r achos wneuthur yr hyn a allo tuag at ei gadw yn fyw. Yn ystod y mis diweddaf cafwyd. nifer o gyf- arfodydd yn ychwanego] at ein cyíarfodydd arferol. Nos Fawrth, Chwef. lleg, cynhaliodd ein côr oi gyngerdd cyntaf, dan arweiniad Mr. D. M. Roberts, a thystiolaeth pawb ag oedd yn bresennol ydoecld ei fod yn gyngerdd rhagorol. Deaìlwn fod ein cyfeillion cercldorol yn bwriadu caeì cyngerdd cyfíelyb yn fuan eto, a rnawr hyderwn y rhoddir iddynt y gefnogaeth a haeddant am eu hymdrechion gyda'r rhan hon o waith y cysegr. Cofus gennym am weimdog unwaith yn adrodd hanesyn mewn Cymanfa Ganu yn y Gogledd. Yr ydoedd, meddai, yn myned un prydnawn Saboth i bregethu am ddau o'r gloch rnewn capel perthynnol i'r daith yr ydoedd ynddi. Wedi dyfod at y capeì, eiywai ganu, a gofynnodd i fachgenyn ydoedd yn sefyll y tu allan '' Ä ydynt wedi dechreu, machgen i ?" " Nac ydynt, syr," medde'r bachgen, " canu ma nhw." Gan lawer,fel gan y bachgen îiwnnw, nid edrychir ar y canu i'eì rhan o wasanaeth y Tŷ. Nos Fercher, Chwefror 20, cynhaliwyd Cyf- arfod Dirwestol yn Stanley Road mewn cys- ylltiad â'r Wyl Ddirwestol. Gwnaed cyfeiriad tyner at absenoldeb ein gweinidog parchus— yr hwn ydeodd i gymeryd y gadair—oherwydd afìechyd ; ac am yr un rheswm methodd y Parch. David Jones, Bootle, a bod yn bresennol. Cafwyd anerchiad ryinus gan y Parch. D. PowelJ, Everton Vllage, a phasiwyd pender- fynniad gyda golwg ar iawn i dafarnwyr. Gwyddom fod gwaith rhagorol yn cael ei wneud yn ein plith gyda'r achos teilwng hwn, a da fuasai gennym weled cynhulliad lliosocach yn y cyfarfod hwn. Ond prif gyfarfod y mis ydoedd y Cyfarfod Blynyddol, yr hwn a gynhaliwyd Chwefror 21. Yn y ]3rydnawn daetli nifer dda ynghyd i yfed té, a chafwyd prawf ychwanegol nad ydyw chwiorydd Stanley Road yn ail i chwiorydd unrìiyw eglwys gyda'r peth hwn ; yn wir, tystiai un brawd fod y té da a'r gwynebau siriol yn gwneud iddo deimlo ugain mlynedd yn ieu- engach. Gadawn y gweddill o hanes y cyfar- fod hwn i'n " gohebydd nei.Utuol." GYFÂRFOD BLYNYDDOL YR EGLWY8. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn nos lau, Chwofror 21ain, pryd y daeth cynhulliad Uiosog ynghyd. Y mae'r cyfarfodydd hyn belllach yn hen sef- ydliad yn ein plith, a diau mai teimlad pawb sydd jm eu mynychu ydyw eu bod yn ateb diben ymarferol rhagorol, trwy ddwyn yr aelod- au at eu gilydd i gael rhydd ymddiddan, a dyfod i adnabyddiaeth. o'i gilydd, yr hyn sydd yn pwysig iawn mewn eglwys mor liosog, a lle y mae cymaint o fynd a dod. Siomedigaeth i'r holl eglwys ydoedd absen- oldeb Mr. Ellis oherwydd afiechyd. S)arpar- wj^d tê am lianner awr wedi pump gan y chwior- ydd, a dywedai un brawd profiadol wrth gyf. Iwyno diolchgarwch iddynt ar y diwedd, nad oes eu gwell am wneuthur y gorchwyì. Rhwng y tô a'r cyfarfod cynhaliwyd cyngerdd gan y côr, o dan arweiniad Mr. David M Roberts, yr hwn a fwynhawyd yn fawr gan y rha rhai oedd yn bresennol. Am hanner awr wedi saith, dechreuw^ycJ y cyfarfod eglwysig, o dan aiweiniad Mr. Thomas Parry, pryd y cymerwyd i ystyriaeth adroddiad blynyddol yr eglwys. Dechreuwyd trwy ddar- llen a gweddio gan Mr. John Davies, Beatrice Street. Y cadeirydd a ddatganai ei lawenydd o weled cynhulliad mor liosog ; a chyfeiriodd yn garedig at absenoldeb Mr. Ellis ; tystiai am undeb a chydweithrediad y swyddogion yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, a clianmolai yr undeb'a'r brawdgarwch a ffynnai ymhlith yr holl aelodau. Yr oedd yn llawenhau wrth weled cynifer o bobì ieuainc yn mynychu cyf- arfodydd mwyaf ysbrydol yr eglwys. Yna cafwyd tystiolaeth yr archwiliwr, Mr. Richard Humphreys,yrhwn a sylwai ar y gwaith mawr a wneir mewn dwyn.yr adroddiad allan, a thystiai fod y llyfrau yn cael eu cadw yn ofalus a hollol gywir. Mr. D. H. WiDiams a gynygiodd fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. Ystyriai ei fod yn adroddíad boddhaol, a bod gennym le i fod yn ddiolchgar am yr haelioni mawr a ddanghosir yn einfplith ;1|gofidiai|am'''ydleihad ynglyn â'r