Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

é^^j&^^M^^^^íT^ja&r^ ìthìau o Bentre fllun. GAN S. M. S. v. Moah Jenlcins, yr Ysgolfeistr. YN tawel, mwynaidd, oedd Noah Jenkins, yr ysgol- feistr. Yr oedd yn llwydd- iannus iawn gyda'r plant, yn medru ennill eu serchiadau mewn modd rhyfedd; ac er nad ydoedd yn hoíF iawn o'r wialen, yr oedd yn medru cadw trefn yn yr ysgoldy, ac yn llwyddo i gael y plant yn anrhydeddus iawn trwy y gwahanol arhol- iadau. Ond, rhywsut, er fod Noah yn bobíogaidd iawn gyda'r plant, nid oedd yn boblogaidd gyda'r bobl mewn oed. Yr oedd yn rhy dawel i'w boddhau, ac yr oedd y -iwyafrif yn honi íbd "dyfroedd llonydd yn rhedeg yn ddwíh," ac yn methu credu yn unplygrwydd y dyn. Rhaid i mi gyfaddef fy mod innau yn teimlo yn bur debyg i'r pentrefwyr. Dyn tawel ydwyf hnnau, ond yr oedd yn anhawdd gennyf ddeall dyn oedd yn tíòi i rywle er mwyn ysgoi cyfarfod â phobl. Peth digon cyfí'redin yn hanes Mr. Jenkins oedd ei weled yn rhedeg i fyny rhyw lon fach oherwydd ei fod wedi canfod dyn yn dyfod i lawr y íFordd fawr, neu yn troi i fewn i gae rhag ofn cyfarfod âg un o wragedd bach diniwed y pentref. Ond un diwrnod dyma'r pethau yn newid. Yr oedd Sue, merch Robin, y saer, wedi bod yn (ìysgu ei chrefí't fel gwniadyddes, ac aeth i'r ysgol ddwy waith bob wythnos i ddysgu gwnio i'r merched. Lodes í'ach ■digon glân oedd Sue, a dau lygad mawr tanbaid ganddi. Yr oedd yn deall sut i ddefnyddio y llygaid yma i'r diben goreu hefyd; a daeth Noah Jenkins,—y dyn yswil, gwylaidd, o dan ei llywodraeth. Gallasai Sue wneud fel y mynnai âg ef. Ond yr oedd Noah yn anwybodus iawn yn ffyrdd carwriaeth, ac nid oedd ganddo syniad sut i ymddwyn tuagat yr eneth. Yr oedd ofn arno fyned ormod i'w chym- deithas; ofn, mi dybiaf, rhag iddi flino arno. Yr oedd y rhai oedd yn deall pethau yn dweud fod calon Sue wedi ymglymu yng nghalon Noah, ond gan ei fod ef mor araf, nid oedd hi yn myned i ddangos ei theimladau. Yn y cyf wng hwn dyma'r sarff yn myned i mewn i'r baradwys. Yr oedd ffermwr bychan yn yr ardal pryd hynny, o'r enw William Bevan. Dyn ieuanc go ofer ydoedd, yn meddwi weithiau, ac yn cael y gair o fod yn anonest hefyd. Ün o nodweddion William Bevan ydoedd, nad oedd byth yn edmygu dim byd hyd nes y byddai rhy wun arall wedi hoffi y peth hwnnw. Yr oedd yn adnabod Sue er yn blentyn, ond ni chymerodd yr un sylw o honi hyd nes y deallodd fod Noah Jenkins eisieu ei chael. Aeth Sue yn rhywbeth gwerthfawr wedi hynny, a dechreuodd Wil ei dilyn gyda chryn ffyddlondeb, Yr oedd Sue wedi digio gyda Mr. Jenkins am fod mor araf, mor ofnus, a gwnaeth beth y mae llawer merch arall wedi ei wneud o'i blaen, gwnaeth ymgais i greu mwy o chwant am dani ym mynwes Noah trwy chwareu gyda Wil Bevan; ac fel llawer merch arall, hi, druan, gafodd dalu y gost. Nid dyn i chwareu gydag ef oedd Wil Bevan; ac yr oedd yr ysgolfeistr yn rhy ddall i ddeall y sefyllfa. Yn ei ddiniweidrwydd, credodd Noah mai Wil Bevan ydoedd gwir gariad