Skip to main content

IV. " -A newidia yr Ethiopiad ei groen." LLWN i byth ddisgrifio i chwi holl bethau a gymerodd le, nid yn Cwmbrethyn, ond yn ein tŷ ni, mewn canlyniad i'r Diwygiad. Teulu cysurus iawn oeddym ni wedi arfer bod. Dyn tawel iawn yw Watcyn, ac am y pedwar plentyn, mae Huw a Martha yn debyg iawn i'w tad, tra y mae Sue a öriffi yn debyg i fi. Am danat' fy hunan, wel, nid peth hawdd yw tynnu îy narlun iy hun, ond gwn hyn, ìy mod wedi gwneud gwraig dda i Watcyn, a mam dda i'r plant. Yr oeddwn yn grefyddol hefyd, yn myn- ychu y cyfarfodydd gyda chysondeb, ac yn derbyn lles a budd yno hefyd—weithiau. Yr o'n i bob amser yn tybied mai í'el yr oeddem ni, teulu Pengwyn, yn byw, y dyl'sai pob teulu yn y gy mdogaeth fyw, gan edrych yn ofalus am bethau y byd hwn, a rhoi gymaint fedreìn ni spario at achos yr Arglwydd. ünd ar ol y Sul yna y soniais i am dano, newidiodd y cwbl yn ein tŷ ni. Yr oedd Watcyn a'r plant fel pe bae nhw yn byw yn y nefoedd, tra yr oeddwn i a Shoned, y forwyn, í'el estroniaid tu allan i bopeth. Yn wir, yr oedd yn dda iawn gennyf gael cwmni Shoned; yr oeddwn yn teimlo fod gennyf rywun allai gydym deimlo gyda fi ar y llawr, tra yr oedd Watcyn a'r pìant yn hedfan fry. Un bore, ar ol brecwasta, codais fel arfer i ddechreu clirio y llestri o'r bwrdd, pan y rhoddodd Watcyn ei law ar fy mraicl). " Mami," meddai yn swil, fel ers llawer dydd pan yr oeddym yn caru, " ía'sech ch'i ddim yn meddwl 'mai peth fine fa'se i ni gael dyledswydd gyda'n gilydd fan yma ? " " Wrth gwrs," meddwn i, mor ddifater ag y medrwn i ddweud, "'rwy'i wedi bod yn disgwyl eich clywed yn dechreu'sllawer dydd ; cefais i fy nwyn i fyny ar aelwyd grefyddol." " Do," ebai Watcyn, " mi wn hynny, ac y raae bai mawr arnaf fy mod heb ddechreu cadw dyledswydd ers blynyddau; 'rwy'n gobeithio y caf faddeuant." Darllennodd Salm fach, a gweddiodd,— wel------. Onibaebodcywilydd arnafbuaswn wedi ìlefain allan; ond yr o'n i yn pender- fynu peidiö rhoi ffordd i'm teimladau. Ar ol dyledswydd aethum fel arfer i'r llaethdy i wneud gorchwylion y dydd, ond rywsut 'doedd dim blas gwneud dim, yr oedd llais Watcyn yn fy nilyn o hyd. Ond gwyddwn fod Shoned yn fy ngwylio fel y mae cath yn gwylio llygoden, a phenderfynais fyned ymlaen â'r gwaith fel arfer. Buais wrthi yn cldiwyd iawn hyd amser cinio, pan y daeth Martha yn ol o'r ysgol. Lodes dawel iawn yw Martha, fedrwch ch'i ddim ei gyrru, neu fe aiff fel mul, ac yr o'n i wedi ei gadael yn llonydd ers blynyddau. Pan yr oedd yn ieuengach, d'wedais wrthi un diwrnod am helpu gyda'r cinio ar ol dod o'r ysgol. " Ffwrdd â ch'i 'rwan," meddwn, " gadwch y lìyfrau'n llonydd, a dewch i'n helpu ni." Dd'wedold hi ddim, ond dechreuodd gydio yn y Ilestri fel b'asech ch'i yn disgwyl gweld buwch yn gwneud. Collais fy nhymer ar unwaith. "Cer allan o'm golwg i," meddwn, "neu bydda' i yn siwr o cíy fwrw." Y diwrnod nesaf gwnes iddi helpu drachefn, a chyn bo hir dyma Shoned yn dwad ataf i'r llaethdy. " Waeth i ch'i íieb dreio, meistres," meddai, " fel ei thad yw Martha, dd'wedith