Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clìíhìau o Bentre fllun. gaa _^ "V^ s.m.s. tT'^*^^ III. Gwraig WatJcin Jones. ■"AE Griffith, fy mrawd, wedi ysgrifennu llawer ara Bentre Alun,fy hen gartref anwyl. Bu yma y dydd o'r blaen, a dywedais wrtho am rai o'r pethau rhyfedd y mae Duw wedi wneud yma hefyd, lle yr wyf fì a Watkin Jones, fy mhriod, yn byw. " Yn wir," ebai Griffith, yn sydyn, " ysgrifenna yr hanes yna i'r Ymwelydd; os bydd gwallau, paid gofalu,—rhaid i bawb ddechre." Rhai enbyd o hunan-dybus yw'r gwŷr yma, hyd yn oed y goreu o honynt. Am Saesneg ! Wel, fedra'i ddim ysgrifennu llawer yn yr iaith honno, bid siwr, ond mi ddyl'swn allu gwneud rhywbeth yn Gymraeg, rhag cywilydd i mi. Ond heb ragor o Ragymadrodd, dyma fi yn dechreu yr hanes. Bu y " Diwygiad " dipyn yn hwyr yn dyfod i'n hardal ni yn Cwmbrethyn. Feallai mai y rheswm am hynny ydoedd nad oedd neb o honom yn gweld bod eisieu diwygiad arnom ni yng nghapel Soar. Yr oedd popeth yn mynd ymlaen yn gampus yma. Bu gweinidog gyda ni flynyddau meithion yn ol,—y Parch. Ezra Griffis. Ond pender- fynwyd adeiladu capel newydd, a bu gorfod i ni wneud heb fugail er mwyn treio talu'r ddyled. Ychydig iawn o bregethu oeddem ni'n gael hefyd, oherwydd rhaid i ch'i dalu i'r pregethwyr; ac ar ol i Stephan Huws dorri lawr y degwm Sabothol,—er mwyn y ddyled wrth gwrs,—-chredech ch'i ddim gynifer o'r pregethwyr oedd yn torri eu cyhoeddiadau. Ac felly Cyfarfod Gweddi byth a hefyd oeddem ni yn gael yn Soar. Cyn bo hir yr oeddem yn adwaen gweddi pob dyn yn y capel, ac yn gwybod pa bennod y byddai yn siwr o'i darllen. A rhywsut, er na fyddem yn talu llawer i bregethwyr, yr oedd yr hen ddyled yn aros o hyd. Ýr oedd Watkin a Stephan Huws yn annog digon ar y bobl i gyfrannu. er mwyn lleihau y ddyled, ond yr oedd esgus- odion gan bob un dros beidio rhoi. Ónd er hynny, yr oeddem ni yn Soar yn meddwl llawer o honom ein hunain, ac yn dal i fyny ein pennau gyda'r goreu. Yr oedd eglwysi ereill yn mynnu cael pregethwr i gadw seiat bob wythnos, tra yr oeddym ni yn Soar yn gwneud heb ddim cynhorthwy, ac yn gwrando, wythnos ar ol wythnos, ar Stephan yn darlunio Jonah a'r morfìl, nes yr oeddym wedi laru ar y ddau, ac yn dymuno yn aml ar iddynt foddi yn y môr a pheidio adgyfodi byth mwyach. Ond peth bach yw nynyna. Yr oedd ein hegìwys fechan ni yn anwyl iawn i ni i gyd, yn enwedig i ni, gwragedd y blaenoriaid; oherwydd, gan nad ydoedd bugail, yr oedd raid i ni wneud gwaith gwraig y bugail ynghyd â'n gwaith ein hunain. Clywsom am y diwygiad fel swn taran o bell, ond yr oeddym yn gobeithio y byddai yn aros acw, a dim yn dod i aflonyddu arnom ni. Bechgyn a genethod dibrofìad yn codi i siarad tra yr oedd blaenoriaid yr eglwysi yn gorfod eistedd yn dawel a'u dioddef! Anwyl y byd, all'sem ni ddim dioddef y fath eofndra ! Un Saboth yr oedd y Parch. William Williams, o Drehendre, i bregethu gyda ni, —y pregethwr cyntaf ers mis,—ac yr oedd