Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÌBStfj^ŵs*. Clìtbìau o r^ioar^, gan "ì *"■* C^ -%_ II. CiA.r Goll-Enaid." ^R oedd gryn dipyn o siarad pan ddaeth Timotheus Price fel bugail i eglwys Pentre Alun. Yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau yn meddwl ei fod yn rhy ifanc i gymeryd gofal eglwys gref fel ein heglwys ni; ond yr oedd yr ieuenctid i gyd am ei gael. Mae blyn- yddáu wedi mynd heibio er yr amser hwnnw, ac y mae Pentre Alun wedi cael llawer bugail, ond nid wyf yn meddwl fod un bugail erioed wedi der- byn y fath groesaw a Mr. Price. Yn un peth, yr oedd wedi graddio yn uchel yn Rhydychain, a pheth go anghyffredin oedd hynny ddeng mlynedd ar hugain yn ol ymhlith pregethwyr y Methodistiaid. Yr oedd hefyd yn siaradwr hyawdl, yn bregethwr coeth, ac os ydoedd yn ieuanc, yr oedd yn hynod o lwyddiannus fel bugail,—yn ymweled â'r cleifion, yn dysgu y plant yn y Band of Hope, ac yn cymeryd dosbarthiadau ereill gyda'r bobl ieuainc. Ac yr oedd yn gwneud yn rhagorol gyda phob un o'r tri,—yn gwybod sut i gysuro y claf, yn gwybod sut i addysgu plant, ac yn gwybod sut i wneud gwirion- eddau y Beibl yn fyw o flaen llygaid bechgyn a genethod yr ardal. Yr oeddwn i yn ddyn ieuanc pryd hynny, ac yr oeddwn yn edrych ar Mr. Price fel un o angylion Duw. Yr oedd yn gwybod cym- aint, yn medru siarad gydag hyawdledd ar bob pwnc, dybiwn i,—yn deall serydd- iaeth, yn gwybod enwau y planedau uwch- ben, ac yn troi oddi wrthynt i siarad am y blodau a'r llysiau, gan eu rhannu i'r urdd hon a'r urdd arall. Yr oedd yn adnabod yr adar, yn gwybod eu hanes a'u harferion, nes ambell i waith yr oeddwn i, bachgen gwledig, syml, yn teimlo ei fod yn fwy na dyn. 0! 'r fath ddyddiau oedd y rhai hynny! Yr oeddwn yn ei garu fel y carai Jonathan Dafydd, a'm hoff bleser oedd treulio dyddiau cyfan yn ei gwmni. Yr oedd fy mam yn fyw pryd hynny; ac fel mamau yn gyffredin, yr oedd ei llygaid fel llygaid y barcud mewn popeth a berthynai i'w bachgen. " GrifB," meddai un diwrnod, " mae ofn Mr. Price arna' i. 'Rwy'n ei garu fel pe bae yn fab i mi, ond mae ei ben yn rhy wan i ddal yr holl ganmoliaeth y mae yn ei dderbyn. Mi leiciwn yn fy nghalon ei weld wedi priodi lodes â digon o synwyr ynddi, ond dim arian; a mi leiciwn weld llond y tŷ o blant. Erbyn y cyrhaeddai ganol oed, byddai Mr. Price yn ddyn mawr; fel y mae pethau 'rwan, aiff' yn ddyn bach cyn cyrraedd deg ar hugain oed." "Mam, mam," meddwn, " dyna galed ydech. Y gwirionedd yw, mae cenfigen wedi Uanw eich calon oherwydd fod eich mab gymaint yn llai dyn." Chwarddodd mam yr wyf yn cofio. " 'Dydwyt ti ddim yn deall mamau, Grifiî bach," meddai; "'dydi mam byth yn cymharu ei phlentyn â neb, 'does neb yn y byd yn ddigon da i'w roddi yn agos ato. Nid cenfìgen sydd yn fy nghalon i, ond gresynnu yr wyf drosto, druan bach. Aiff ar ei ben, un o'r dyddiau nesaf, i ryw ffolineb, fe gewch weld."