Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Claìs Rhpüdìd. Cyf II] MAWRTH, 1904. [Rhif 24. PREGETH ANGLADDOL [Tr diweddar Mr. Richard Jones, Lowther Street, a draddod- wyd yn Hope Hall, Rhagfyr %0,1903.] Hebreaid xiii. 7, 8.—" Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw ; ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Iesu Grist, ddoe a heddy w yr un, ac yn dragywydd." Nifer o gynghorion byr ac ymarferol sÿdd yn gwneud i fynu y bennod olaf hon, wedi eu hychwanegu fel math o atodiad ar ddiwedd yr Epistol. Terfynir ymresymiad y llythyr yn y bennod flaenorol; a buasai yn amhosibl dychmygu diweddglo mwy grymus ac arddunol na'r un a geir yn yr haner olaf o'r xii. bennod. Ond yn awr, ar ol gorphen ei lythyr, cyn ei sêlio i fynu, a'i anfon ymaith i'r eglwysi, y mae yr apostol fel pe yn ail- afael yn ei ysgrifell ac yn ychwanegu nifer o ôl-nodiadau—math o anogaethau cryno, gwresog, ar luaws o bynciau ymarferol, megis, cariad brawdol, haelfrydedd, a gostyngeiddrwydd. Ac un o'r cynghorion hyn ydyw y ddwy adnod a ddarllenwyd fel testyn. Er hyny, y mae pob rhan o'r bennod hon wedi ei chydio yn dỳn wrth ranau blaenorol yr Epistol. Yn mhob cynghor dywedir rhyw air neu gilydd sydd fel pe yn bachu y sylw wrth un neu ragor o wirioneddau mawrion y pennodau o'r blaen. Yr oedd gogoniant Mynydd Seion, a'r Jerusalem Nefol, yn disgleirio o flaen meddwl yr awdwr; ymdroai golygfeydd mawreddog y pennodau o'r blaen gerbron ei lygaid. Ac y mae am i ni dder- byn y mân-gynghohon hyn, ac edrych ar ein dyledswyddau, gan gofio breintiau achyfrifoldebannghydmaroldinasyddion Mynydd Seion. Llwydda i daro rhyw dant, yn nglyn â phob cynghor, sydd fel pe yn adgyfodi echo o fiwsig mawr y pennodau o'rblaen. Un felly ydyw yr adnod fechan ar ddiwedd ein testyn,—" Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd." Dolen, megis, yn mhen y cynghor, i'w fachu ar nnwaith wrth galon yr Efengyl. Meddyliwch am eich blaenoriaid sydd wedi croesi drosodd. dilynwch eu ffydd, a chofiwch fod Iesu Grist yn aros.