Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clais Rfcpddìd. Gyf II] CHWEFROR, 1904. [Rhif 23. Dysgyblaeth Eglwysig. DYSGEIDIAETH YR ARGLWYDD IESU. TRAETHU yr oeddym, pan adawsom y mater yn ein hysgrif ddi- weddaf, ar le y swyddogaeth yn y gwaith o ddysgyblu. Dadleu- em nad oes gair o gefnogaeth i'w gael, yn nysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu, i syniadau trahausfalch y rhai a fynant deyrnasu ar eu brodyr. Ac yn wir gallwn ddweyd ychwaneg :— Y mae yn dra amheus a oes cymaint a brawddeg o'i eiddo Ef yn cyfeirio at swyddogaeth o gwbl. Wrth ddywedyd hyn nid ydym yn awgrymu fod swyddogaeth eglwysig yn afreidiol. nac ychwaith i'w dibrisio. I'r gwrthwyneb, yn sefyllfa bresenol yr Eglwys, gwyddom ei bod yn anhebgorol angenrheidiol. Ac mewn rhanau eraill o'r Testament Newydd,—Llyfr yr Actau a'r Epis- tolau,—fel y gwyr pawb, dywedir llawer wrthym am ei natur a'i dyledswyddau. Ond y mae a fynom ni yn awr â dysgeidiaeth ein Harglwydd Iesu Grist, ac yr ydym yn gryf o'r farn na ddywedwyd dim ganddo Ef am le nac awdurdod unrhyw fath o swyddog. Ar ol darllen yr Efengylau lawer gwaith drosodd, a meddwl wrth eu darllen, yr ydym yn methu a gweled fod cy- maint ag un o'r adnodau a lefarwyd ganddo Ef yn ymyryd unwaith â'r mater. Gadawodd y cwestiwn heb ei gyíFwrdd; cheir dim cymaint âg un awgrym ganddo o berthynas i fodolaeth swydd o fath yn y byd. Llefarai yn fynych am ei deyrnas, ac weithiau hefyd am ei Eglwys, ond er syndod nid oes genym hanes iddo erioed grybwyll am benodi swyddog yn y deyrnas nac yn yr eglwys. Datganwyd awyddfryd cryf, fwy nag unwaith, gan rai o'r disgyblion am iddo wneud hyny,—am iddo greu swyddi ac urddo penaethiaid. Tybiai dau ohonynt, fel llawer ar eu hol, eu bod hwy yn anad neb yn deilwng o eistedd, un ar ei law ddeheuac un ar ei law aswy, yn y frenhiniaeth. Ond cerydd llym a gawsant, ac nid cefnogaeth, ganddo Ef. " Chwi a wydd-