Skip to main content

Claìs Rbpddid. Gyf II] IONAWR, 1904. [Rhif. 22. Dysgyblaeth Eglwysig. DYSGEIDIAETH YR ARGLWYDD IESÜ. Erbyn hyn yr ydym wedi astudio, mor drylwyr ag y gallem yr adnodau a ystyrir yn gyffredin fel y testynau clasurol, yn nysg- eidiaeth yr Arglwydd Iesu, ar y pwnc o ddysgyblaeth: sef, St. Matthew xvi. 17—19 ; xviii. 15—20 ; a St. íoan xx. 21—23. Ar y rhai hyn, ac ar y rhai hyn yn unig, fel rheol, yr helaethir gan ysgrifenwyr, hen a diweddar, pan yntraethu ar y testyn ; a naturiol fuasai casglu, oddiwrth eu gweithiau, nad oes dim arall, o nemawr bwys beth bynag. i'w gael yn yr Efengylau ary mater. Y rhai hyn, meddir, sydd yn cynwys Deddflen Fawr yr Eglwys i " rwymo" a "rhyddhau;" drwyddynt hwy y cyflwynodd yr Argíwydd Iesu i'w bobl Allu yr Agoriadau. Y maent yn fath o charter i'r Eglwys, wedi ei roddi gan Frenin Seion, ac yn ei hawdurdodi,yn ei enw Ef, i wneud deddfau, llywodraethu, ceryddu a diarddel. Ac ar y rhai hyn, fel pe mai dyma yr oll o gyfraith Crist, y sylfaenwyd dysgeidiaeth ac arferion yr Eglwysi, parthed dysgyblaeth, o ddechreu Cristionogaeth hyd yn awr. A gwel- som yn ein hysgrif ddiweddaf beth a fu rhai o'r canlyniadau ;— y gyffesgell a'r penydiau, y purdan a'r chwilys, y ffagodau a'r ystanciau. Nid, yn wir, oherwydd fod dim yn yr adnodau uchod o eiddo y Gwaredwr yn cyfiawnhau y cyfryw orthrym- derau. Gau-gasgliadau ôddiwrthynt gan ddynion balch a hunan- geisiol achosodd y galanasdra. Diau fod ystyr ddofn a chyfoethog i'r adnodau hyn, fel pob geiriau o eiddo ein Harglwydd. Ond, yn sicr, nid yr ystyr a roddwyd iddynt gan fawrion yr eglwysi ar hyd y canrifoedd. Ni lefarwyd brawddegau erioed a gam- esboniwyd ac a gam-ddefnyddiwyd yn fwy echrydus na'r rhai hyn. Tynwyd casgliadau oddiwrthynt, a gwnaed esgusodion ohonynt, i ategu syniadau ofnadwy o gyfeiliornus. Adeiladwyd arnynt, fel y gwelsom, gestyll anferth i ormes a chaethiwed; gwnaed ohonynt beirianau arteithio na ddyfeisiodd y diafol erioed mo'u creulonach; esboniwyd hwy fel ag i droi " perffaith gyfraith rhyddid " yn efynau heyrn, ac i wneud Eglwys y Duw byw yn gadarnle gormes ac anobaith. 4V