Skip to main content

Claìs RDpdaia. Gyf II.] HYDREF, 1903. [Rhif. 19. Dysgyblaeth Eglwysig. DYSGEIDIAETH YR ARGLWYDD IESU. SüNiASOM fwy nag unwaith am Allu yr Agoriadau. Ymddiried- wyd hwnw i'r eglwys gan ei Sylfaenydd, ac y mae llywodraethwyr yr eglwysi drwy yr oesau yn esgud i'w bregethu ac i wneud defnydd awchus ohono. Yn Ngweledigaeth Cwrs y Bycl gan y Bardd Cwsg, desgrifir yn gyntaf Stryd Balchder. " Teg iawn," meddai Ellis Wynne, " rhyfeddol o uchder, ac o wychder, ac achos da, o ran bod yno Ymherodron, Brenhinoedd, a Thywysog- ion gantoedd, Gwyr Mawr a Bonheddigion fyrdd, a llawer iawn o Ferched o bob gradd." Ac yn gyntaf oll, meddai, " O hir dremio canfûm wrth Borth y Balchder, ddinas deg ar faith fryn, ac ar ben y Llys tra ardderchog 'r oedd y goron driphlyg a'r cleddfeu a'r goriadeu 'n groesion." Adwaenodd y Bardd hwy yn y fan fel arwydd-luniau Eglwys Rhufain. A pha ryfedd ? Pais-arfau y Pab er's llawer oes ydyw yr agoriadau croesion gyda phaladr o gleddyf drwy eu canol. Wrth ei orseddu, a gosod y goron driphlyg ar ei ben, arferir y geiriau, " Derbyn y tiara ag addurn y tair coron a gwybydd mai tydi yw Tad Brenhinoedd a Thywysogion, Llywodraethwr y byd, a Ficar ein Hiachawdwr Iesu Grist." Y tiara ydyw ei benwisg uchelfalch ; arwydda y cleddyf y gallu tymorol a roddwyd iddo, drwy yr hwn yr hona awdurdod i lywodraethu yn mrenhiniaeth dynion ; ac y mae yr agoriadau croesion yn tybio ei alluoedd eglwysig, y rhai a roddwyd iddo, meddir, gan Grist Iesu pan y dywedodd wrth Simon.Petr, " Rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd." Priodol yn wir, y dodwyd gan Ellis Wynne, ar fìaen y rhestr, ymffrostion anferthol y Babaeth, fel yr engraipht oreu o adeiladau palasaidd y Dywysoges Balchder. Anhawdd iawn i Gymro uniaith gael y ddirnadaeth leiaf am yr honiadau a wnaed, ac a wneir, ar bwys yr ychydig adnodau sydd yn son am Allu yr Agoriadau. Ac nid gan Eglwys Rhufain yn unig y gwneir hwynt. Bwriadwn yn ein hysgrif nesaf roddi cip-