Skip to main content

Claìs Rbpddìd. Cyf II.] MEDI, 1903. [Rhif 18 Dysgyblaeth Eglwysig. DYSGEIDIAETH YR ARGLWYDD IESU. Yn ein hysgrif ddiweddaf treuliasom ein gofod ar adran o'r xviii. bennod o Efengyl Matthew, sef adnodau 15—20. lle cyfarwyddir eglwys pa íodd i weithredu tuag at frawd wedi syrthio i bechod. Ond y mae y bennod drwyddi yn trafod cwestiynau perthynasol i ddysgyblaeth, ac yn ddatguddiad gwerthfawr o feddwl y Meistr ar y mater. A phetae disgyblion Crist baroted i wrando ar bob adran o'r bennod ag ydynt ar adnod neu ddwy yn ei chanol, nid yw yn debyg y canfyddai neb ynddi resymau yn mhlaid arfer llymder dysgyblaethol tuag at frodyr syrthiedig. Llefarwyd hi ddiwrnod neu ddau ar ol y gweddnewidiad ar fynydd Hermon. Pan ar eu ífordd yn dychwelyd o gymydog- aeth y mynydd hwnw yn ol i ddinas Capernaum syrthiodd y deuddeg i'r brofedigaeth o ymdderu yn anfwynaidd â'u gilydd. Achos y gynen ydoedd yr hen gwestiwn gwaed-gynhyrfiol hwnw, Pwy a fyddai fwyaf yn nheyrnas nefoedd ? Hyd y gwyddom, hwn ydoedd yr unig wreiddyn o chwerwedd o fewn y gymdeithas hono; yr unig gwestiwn fyddai byth yn peri teimladau cenfigenllyd rhyngddynt â'u gilydd. Gwedi iddynt gyrhaedd i'r ddinas, a myned i mewn i dŷ, yr Iesu " a ofynodd iddynt, Beth yr oeddych yn ymddadleu yn eich plith eich hunain ar y rfordd ? ond hwy a dawsant a son : canys ym- ddadleuasent â'u gilydd ar y ífordd pwy a fyddai fwyaf. Ac Efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf o'r cwbl, a gweinidog i bawb." (St. Marc, ix. 33—35). Hwn yw yr achlysur pryd y llefarwyd y bennod, ac y mae agos bob adnod ohoni yn hawddach ei deall o gadw yr amgylchiadau hyn mewn golwg. Ei hamcan cyntaf yn ddiamheuol ydoedd gostegu yr annghydfod yn mhlith y deuddeg, a meithrin ynddynt fwy o frawdgarwch a gostyngeiddrwydd yspryd. Ac i ddechreu " yr Iesu a alwodd ato fachgenyn, ac a'i gosod- odd yn eu canol hwynt; ac a ddywedodd, yn wir y dywedaf i