Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clais Rbpddid. Cyf. II] MEHEFIN, 1903. [Rhif. 15. Dysgyblaeth Eglwysig. DYSGEIDIAETH YR ARGLWYDD IESU. Cymerwn yn nesaf St. Matthew xvi., 18—19. Oddeutu canol ei weinidogaeth gyhoeddus ymneillduodd yr Arglwydd Iesu ara. rai dyddiau i dueddau Cesarea Philippi, rhan o'r wlad yn nghwr gogleddol Galilea, ac ar derfynau pellaf tiriogaeth y genedl Iuddewig. Bu yno, fel yr ymddengys, am o leiaf wythnos o amser yn nghwmni ei ddeuddeg dysgybl, allan o gyrhaedd y torfeydd, mewn bro annghysbell a mynyddig. Erbyn vr adeg hon yr oedd yn amlwg fod corph y genedl am ei wrthod. " At yr eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun nis derbyniasant Ef." Eisoes yr o'edd penaethiaid y bobl yn. cydymgynghori yn ei erbyn, ac yn barod, pe gallent, i osod dwylaw llofruddiog arno. Hefyd oerai sel llaweroedd o'i ganlynwyr; u llawer o'i ddysgybl- ion Ef," medd yr hanes, " a aethant yn eu hol, ac ni rodiasant mwyach gydag Ef." Ac oddiyma hyd derfyn ei daith yr oedd ei lwybr drwy fwy a mwy o waradwydd a darostyngiad; cerddai ar ei waered tua pharthau isaf y ddaear. Ac yr oedd yr wythnos hon yn nhueddau Cesarea Philippi yn drofa yn ei hanes,—yo. fath o argyfwng rhwng tymhor o lwyddiant cymharol, ar ddech- reu ei weinidogaeth, a thymhor o erledigaeth a dyoddefaint yn y rhan olaf ohoni. Gwyddai ef yn mlaenllaw pa beth oedd i ddyfod. Ac yn awr, pan mewn tawelwch, allan o ddadwrdd y bobloedd, dymunai barotoi meddyliau ei ddysgyblion gogyfer a'r dyddiau drwg agoshaol. Cyn dywedyd wrthynt am y dyoddef- aint a'r angeu yn Jerusalem, gofynodd gwestiwn iddynt, " Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn ?" Gallasai Ef ateb y cwestiwn yn llawer gwell na neb ohonynt hwy, ond gofynodd hyn gyda'r dyben o agor y ffordd i gwestiwn arall. Wedi iddynt grybwyll rhai o'r amrywiol syniadau a goleddid am dano, " Eíe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi