Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Claìs Rftpddid. Cyf II] MAI, 1903. [Rhif 14. Dysgyblaeth Eglwysig. DYSGEIDIAETH YR ARGLWYDD IESU. Yx ol ein haddewid yn y rhifyn diweddaf, arhoswn am enyd yn rhagor gyda damheg yr efrau. Gallesid meddwl fod y prif wirionedd a ddysgir ynddi wedi ei osod mor glir a digamsyniol fel nas gallai neb gonest ei feddwl gamgymeryd ei ystyr. Fel y weledigaeth hono gan Habacuc gynt, gwnaed y wers mor amlwg " fel y rhedo yr hwn a'i darlleno." Ond rhyfeddol odiaeth ydyw medr plant dynion i fethu gweled gwirionedd, neu i ddyfeisio diangfaau rhag ei dderbyn, os yn groes i'w rhag-dybiau hwy ; ac yn fwy fyth os yn tori yn erbyn dymuniadau eu calonau. Y mae hanes esboniadaeth y ddamheg hon yn engraifft nodedig o'r modd y gall dynion dywyllu cynghor, a pherswadio eu hunain ac eraill i gredu gwrthuni, er mwyn amddiffyn yr hyn a dybiant hwy sydd wirionedd arall llawn pwysicach. Llawer gwaith cyn hyn y gwnaed ymdrechion cywrain ac amryfal i ddirdynu o'r ddamheg syniadau hollol annghydnaws â'i hysbryd, ac i wyr- gamu ei hadnodau fel ag i'w cysoni gydag anathemau creulonaf yr eglwysi. Eglur yw, cyn y gellir cyfiawnhau yr arferion o ddiarddel aelodau, fel y gwneir, wrth y canoedd bob blwyddyn, rhaid gwneud rhywbeth gyda damheg yr efrau, naill ai gwadu ei dilysrwydd a'i hawdurdod neu ddarganfod esboniad arni tra gwahanol i ystyr naturiol y geiriau. Y mae y cyntaf allan o'r cwestiwn, oblegyd yn sicr nid oes adran o'r Beibl yn dwyn delw Ceidwad pechadur yn fwy diamheuol na hon. Dywedir wrthym gan yr uwchfeirniaid fod aml adnod, ac ambell baragraph, o'r hyn a adroddir yn yr Efengylau fel dysgeidiaeth Crist Iesu, mewn gwirionedd wedi eu hychwanegu, neu o leiaf wedi eu lliwio yn drwm, gan syniadau adroddwyr yr hanes. Ond nis gwyddom am neb a feiddiodd amheu. dilysrwydd damheg yr efrau. Pwy