Skip to main content

Clais RDpddia. Cyf II] EBRILL, 1903. [Rhif 13. Dysgyblaeth Eglwysig. DYSGEIDIAETH YR ARGLWYDD IESÜ. Un diwrnod, cynarol ar ei fywyd cyhoeddus, yr oedd yr Arglwydd Iesu gyda'i ddysgyblion yn Capernaum. Ac, meddai yr hanes, Efe " a aeth allan o'r tŷ ac a eisteddodd wrth làn y môr, a thorfeydd lawer a ymgynullasant ato Ef, fel yr aeth Efe i'r llong ac yr eisteddodd : a'r holl dyrfa a safodd ar y làn. Ac Efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamegion." Yn ol St. Matthew, traddodwyd ganddo ar y pryd saith o ddamegion. Ac o'r rhai hyn y mae dwy mewn modd arbenig yn trafod ar ddysgyblaeth eglwysig, sef, dameg yr efrau a dameg y rhwvd. Mor bell ag y gellir casglu oddiwrth gwrs yr hanes ynyr efengylau, hwn ydoedd y tro cyntaf iddo gyffwrdd â'r cwestiwn ; ac yn sicr ni ddywedwyd ganddo, cyn nac wedi hyny, ddim cliriach ei ystyr, na dim mwy uniongyrchol ar y mater, na'r ddwy ddameg a nodwyd. Yr ydym yn credu, gan hyny, os am' gaei gafael glir ar feddwl y Meistr ar ein testyn, mai dyma y man i ddechreu, sef, gyda'r dyrfa yn gwrando arno ar làn mor Galilea y diwrnod hwn. Gwir yw mai nid am yr eglwys o dan ei henw y llefarai Efe ar y pryd ; teyrnas neíbedd ydoedd testyn yr ymddiddan. Ond gan nad beth a ddeallir wrth "deyrnas nefoedd " mewn manau eraill, nis gall fod amheuaeth nad yw yn golygu, yn y damegion hyn, bron os nad yn hollol yr hyn a ddeallir yn gyffredin genym ni wrth yr eglwys Gristionogol. Y mae cynwys ac amcan yr adnodau, ar y wyneb, yn cau allan bob esboniad arall. Eglur yw yn mhellach nad oes a fyno y damegion hyn ond âg un wedd i'r ddysg}d)laeth, sef diarddeliad o'r eglwys. Am ffurfiau eraill arni, megis cynghori, rhybuddio,. a cheryddu o fewn yr eglwys, ni ddywedir gair. Ond gyda golwg ar esgymuno aelodau y mae ganddynt genadwri hollol ddiamwys.