Skip to main content

Claìs Rbpddìd. Cyf 1] CHWEFROR, 1003. [Rhif. 11. PREGETH Gan Mr. DAVID DAVIES, Park Road, Liverpool. " A gwr fydd megis yn yraguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymhestl: megis afonydd dyfroedd mewn sychdir, roegis cysgod craig fawr mewn tir blin."—Esaiah xxxii. 2. Nod uchaf a dyhead dyfnaf dynolryw ydyw dedwyddwch, ac y mae gwir a pherfFaith ddedwyddwch yn gynwysedig mewn meddiant ac mewn mwynhâd o Dduw ; ac amod meddiant o Dduw a'r cymhwysder i'w fwynhau ydyw tebygolrwydd iddo. Bod yn gyfranog o natur Duw, dyna sail cymundeb á Duw; cymundeb â Duw, dyna foddion neu gyfrwng mwynhâd o Dduw; mwyn- hâd o Dduw, dyna y dedwyddwch penaf a pherffeithiaf. í: Goleuni yw Duw"—yn ei natur, sancteiddrwydd dihalog, purdeb dilychwin, gogoniant disglaer a difrycheulyd; y mae Efe yn " ogoneddus mewn sancteiddrwydd." " Dilynwch heddwch â phawb a sancteiddrwydd, heb yr hwn—sef heb sancteiddrwydd—ni chaiff neb weled yr Arglwydd." Ni chaiff am nas gall; nis gall am nad yw yn meddu y eymhwysder angenrheidiol—sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd. " Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw." Y pur o galon, a'r pur o galon yn unig, a welant Dduw, ac y mae i'r gair " gweled " yn y lleoedd hyn ystyr ddofn ac eang iawn ; nid canfyddiad yn unig ydyw, cynwysa fwy na hyny fel yn yr adnod hono, " Yr hwn sydd yn credu yn y Mab y mae ganddo fywyd tragwyddol, eithr yr hwn nid yw yn credu ni wêl fywyd." Ffydd ydyw y gallu sydd nid yn unig yn gweled yr Anweledig ond hefýd yn ymaflyd ynddo ac yn ei feddianu. " Yr hwn sydd yn credu —yn gweithredu fTydd—yn y Mab y mae ganddo fywyd tragwyddol." " Y bywyd hwn sydd yn ei Fab Ef, Iesu Grist." " Yr hwn y mae y Mab ganddo y mae y by wyd ganddo." " Yr hwn sydd yn credu yn y Mab y mae ganddo fywyd tragwyddol, a'r hwn nid yw yn credu ni wêl fywyd," hyny yw, ni chaiff ei feddianu na'i fwynhau. " Gwyn eu