Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

£lais Rlwddìd. Oyf 1] IONAWR, 1903. [Rhif 10. Dysgyblaeth Eglwysig. Darllexasom ysgrif, beth amser yn ol, ar y testyn uchod, ac ar y dechreu cwynai yrawdwr, fel esgusawd dros dlodi a chyffredinedd y meddyliau ynddi, fod eymaint wedi ei draethu ar y mater fel mai gorchwyl anhawdd, os nad annichonadwj^, ydoedd cael dim rhagor i'w ddweyd—dim, beth bynag, o newydd-deb na dyddordeb i neb o'r darllenwyr. Teimlai ef fod y mater wedi ei ddyhysbyddu ac nad oedd dim wedi ei adael iddo ond dyrnu gwellt a nithio us. Gwelsom a chlywsom lawer tro sylwadau i'r un perwyl gan erailL Y mae y maes wedi ei gynull a'i loffa mor lwyr fel na thal am y drafferth i neb mwyach gerdded drosto; nid oes ysgub, nac ysgatfydd dywysen, i'w chael i'r neb a wnelo hyny. Yn anffodus er hyny, oherwydd difaterwch yr eglwysi,ac yn fwy fyth, oherwydd amledd pechodau yr oes, gorfodir yr awdurdodau ar adegau i rygnu arno. Penodir brawd cymwys i draethu cyngor neu i ddarllen papyr arno, mewn Sasiwn neu gwrdd chwarterol, a gwneir hyny dro ar ol tro, gyda math o sobrwydd cysglyd, drwy ail-adrodd hen ystradebau gwybyddus i bawb ac mor ddiflas a gwyn ŵy. Pwy sydd heb gynefmo, hyd at lwyr- laru, ar yr ystwff drygsawr gan lwydni yr hwn a ddarperir yn amrwd, neu gydag ias o ail-dwymiad, gogyfer â phob trafodaeth ar y pwnc ? A raid i bob ymdriniaeth arno fod yn o-sychlyd a'r garthen, mor ddieneiniad a marwaidd a thywarchen o bridd, a chan lymed a phen Gilboa ar ol ei felldithio ? Tybed nad yw yn bosibl prophwydo tua'r gwynt a chodi rhyw chwa i anadlu bywyd i'r esgyrn sychion ? Ein hargyhoeddiad ni ydyw, er's Uawer blwyddyn bellach, fod gwir angen am ddiwygiad gyda dysgyblaeth eglwysig; ac yr ydym yn credu fod yr amser yn addfedu i ail-agor yr holl gwes- tiwn gyda golwg ar ei natur a'ì amcanion. Ac i'w ail-agor hefyd ar linellau tra gwahanol, os nad hollol newydd. Yr hyn sydd yn eisiau ydyw nid cerdded drachefn dros wyneb y maes, a dilyn yn y rhychau a dorwyd gan eraill; nid dynwared y tadau ganrif