Skip to main content

Clais Rhpddid. Gyf l.J MEDI, 1902. [Rhif 6. Pregeth gan y Golygydd. St. Lt'O, vii. 47.—"Oherwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei haml bechodau : oblegid hi a garodd yn fawr : ond y neb y maddeuer ychydig iddo, a gâr ychydig." Esboniad yr Arglwydd Iesu ydyw y geiriau hyn ar ymddyg- iadau rhyw wraig o bechadures, yr hon a olchodd ei draed Ef â'i dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen. Yr esboniad, meddai Ef, ydoedd ei chariad tuag ato: hi a garodd yn fawr oblegyd maddeuwyd ei haml bechodau. Bwriadaf gymeryd mantais oddiwrth yr adnod hon i fwrw golwg dros yr hanes drwyddo, ac os y gallaf, i dynu rhai addysgiadau oddiwrtho. Y mae yn werth ei astudio, pob brawddeg a gair ohono, oblegyd dyry olwg hawddgar ryfeddol ar gymeriad ein Gwaredwr. Dengys ei barodrwydd i faddeu i'r gwaethaf o bechaduriaid, ac nad y w yn gywilydd ganddo arddel y truenusaf, a dadleu drosto, mewn unrhyw gwmni. Un diwrnod, yn ol yr hanes a geir yma, gwahoddwyd Ef i gyd-fwyta âg un Simon y Pharisead. Nis gwyddom ddim am y Simon hwn pellach na'r hyn a ddywediryn y rhan olaf o'r bennod hon. Yr oedd ef yn Pharisead o'i goryn i'w sawdl; dyn balch, hunangyfiawn, a choeg-grefyddol. Dichon ei fod yn wr parchus yn ei ardal, yn hollol fucheddol a gweddaidd yn ei ymddygiadau, ac yn hollol uniawngred o ran ei syniadau crefyddol. Ond yr oedd yn iach ei yspryd, heb erioed adnabod drwg ei galon ei hun, heb wybod dim am gariad tuag at Dduw, na thynerwch tuag at ei gyd-ddyn. Yr oedd ei enaid fel pe yn amddifad o bob teimlad o drugaredd a thosturi. Edrychai ar drueiniaid y bobl gyda chilwg ddirmygus ar ei aeliau Ysgarthion cymdeithas oeddynt yn ei olwg ef; dynion annheilwng o sylw, ac i'w hosgoi ar yr heol. Y mae yn ddigon posibl fod Simon ei hunan yn wr llwyddianus yn y byd, raewn amgylchiadau cysurus, ac yn arfer cyfeillachu gyda'r bobl fwyaf diwylliedig a chrefyddol yn y