Skip to main content

Clals RhiHhliü. Cyf 1J GORPHENAF, 1902. [Rhif. 4. Codi Pregethwyr. Yn y rhifyn diweddaf o Lais Rhyddid, addawsom draethu yn helaethach ar y testyn hwn. Yr ydym gan hyny yn dychwelyd at ein gwaith. Ond wrth ail-gychwyn y mae genym raisylwad- au rhagarweiniol i'w gwneud. Hoífem, yn gyntaf, wneud yn hollol eglur mai nid ein hamcan pcnaf ydyw darganfod beiau, na gwneud ymosodiadau, ar unrhyw gyfundeb crefyddol. Os cyfeirir genym yn amlach at drefniadau y Methodistiaid Calfin- aidd nag at eiddo neb arall, gwneir hyny am ein bod yn gwybod mwy am yr eiddynt hwy; ac am mai hwynt-hwy a gyfrifir yn gyffredin, ganddynt eu hunain, a chan eraill, fel y Trefnyddion par excdlence yn Nghymru. Gwyddom mai gwaith hawdd ydyw beirniadu a dangos diffygion. Gorchwyl tra gwahanol ydyw cynyg gwelliantau, a gwneud yn rhagorach, ein hunain. Fodd bynag am hyny, y nôd genym mewn golwg yn y llithoedd hyn ydyw chwilio am sylfeini dyogel i Eglwys Rydd y Cymry adeiladu arnynt. Nid estyn bysedd at ddiffygion pobl eraill; os y llithra weithiau eiriau miniog oddiar ein hysgrif-bin, na feddyl- ied neb fod yspryd dirmygu nac ysgornio o'r tu cefn iddynt. Os ydyw yr Eglwys Rydd i barhau ac i lwyddo fel cyfundeb creíyddol, rhaid iddi hithau íagu pregethwyr. Pa fodd y disgwylia wneud hyny ? Y ífordd, o bosibl, sydd yn cynyg ei hunan i lawer o'n haelodau, fel y fwyaf ntturiol, ydyw syrthio yn ol ar gynlhmiau un o'r hen enwadau. Y mae y rhai hynyr gellir dweyd, yn ífrwyth profìad a doethineb rhai o oreugwyr Cymru, yn ystod ugeiniau, os nad canoedd, o íiynyddau. Paham y rhaid i ni ail-ddechreu drachefn, ac adeiladu o'r newydd gyn- lluniau o'r eiddom ein hunain ? Ai nid dyogelach i ni yn awr ar y dechreu, ac ai nid llawer hwylasach, fyddai mabwysiadu rheol- au tebyg, dy weder, i eiddo y Methodistiaid Calfinaidd ? Gyda y rhai hyny y mae y rhan fwyaf o'n haelodau wedi arfer o'u