Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Claìs RDpddìd. Cyf 1.] MAI, 1902. [Rhif 2. Swyddogaeth Eglwysig. " Chwi a wyddoch fod penaethiaid y cenhedloedd yn tra-argl- wyddiaethu arnynt, a'r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt hwy. Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynag a fvno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi; a phwy bynag a fyno fod yn benaf yn eich plith, bydded yn was i chwi: megys na ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer." (St. MaTT. xx. 25—28.)—Mor wahanol, mor drwyadl wahanol, fuasai hanes Eglwys Crist ar y ddaear pe buasai ei swyddogion wedi yfed yn helaethach o yspryd y Meistr, ac yn amcanu yn onest at ddilyn ei esiampl Ef! Llefarwyd y geiriau uchod gan Grist Iesu, Pen Mawr yr Eglwys, ei hunan : a llefar- wyd hwynt wrth y deuddeg disgybl, Apostolion y Testament Newydd. Os y bu dynion erioed a chanddynt hawl i lywodraethu yn yr Eglwysi, ac yn meddu ar awdurdod uwchraddol i'w cyd- ddynion, yn sicr yr Apostolion ydoedd y rhai hyny. Yr oeddynt hwy wedi eu penodi i'w swydd, ac wedi eu haddysgu i'w gwaith, gan yr Athraw Mawr ei hun ; cawsant flynyddoedd o'i gwmni i wrando ar Ei eiriau, ac i wreled Ei weithredoedd nerthol. Yr oeddynt yn llygaid-dystion o'i ddioddefaint a'i oruchaíiaeth,— Gethsemane a Chalfaria, yr adgyfodiad foreu y trydydd dydd, a'r esgyniad oddiar fynydd yr Olewydd. Anfonwyd hwynt allan ganddo Ef, a gwisgwyd hwynt â nerth o'r uchelder. Yr oeddynt wedi eu hysbrydoli i ddatguddio dirgelion teyrnas nefoedd, ac i gyflawni gwyrthiau ar gyrph ac eneidiau dynion. Hwynthwy ydyw yr esiamplau goreu sydd genym o'r hyn ddylai swyddogion eglwysig fod. Ymffrost ac uchelgais benaf, hyd yn nod esgobion a phabau yr Eglwys, o hyny hyd yn awr, ydyw cyfranogi, fel y dywedant, o'r Olyniaeth Apostolaidd.