Skip to main content

Irlais Rbyddid. Cyî. VIII.] MAWRTH, 1910. [Rhiî 12 Ccrddcd yn Araî. Mewn un aclran o'i lyfr (viii. 5-8), beia'r proffwyd Esaiah bobl Jerusalem am " wrthod dyfroedd Siloah, y rhai sy'n cerdded yn araf," a dewis yn eu lle afonydd lleidiog a thrystfawr Damascus ac Assyria. Wrth wneud yr achwyn, llefarai Esaiah mewn dameg ; oblegid,. ar y pryd, yr oedd rhywrai yn Israel ac yn Judah yn anfoddlon ar wasanaethu'r Arglwydd, a dilyn bywyd llonydd " fel pobl yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â'r cenhedl- cedd." Awyddant, yn hytrach, am wneud cyngrhair â rhai o deyrnasoedd rhyfelgar y byd paganaidd, a chymeryd mwy o ran yn nherfysgoedd gwleidyddol yr oes. Dyna, meddent hwy, ydoedd unig obaith y genedl am gadw'i gogoniant ac eangu'i therfynnau. Ond rhagwelai'r proffwyd, yn eglur ddigon, nad oedd dim i'w ddisgwyl oddi wrth eu policy hwy ond blinderau alaethus, os naJ dinistr di-syfyd. Eu diogelwch hwy, fel y barnai ef, ydoedd ym- ddiried yn Nuw Israel, credu ei addewidion Ef, a glynu'n ddi- ollwng wrth orseddfainc ty Dafydd. Ac i rymuso'i ddadleuon defnyddia'r gydmariaeth a grybwyllwyd uchod. Tebyg, ebrai ef, ydoedd bywyd o rodio gyda Duw a chadw'i orchymynion, î " ddyfroedd Siloah, y rhai sy'n cerdded yn araf," tra'r oedd bywyd mwy tymhestlog ac ymffrostgar teyrnasoedd y byd hwn yn debycach i afonydd mawrion, megis yr Euphrates a'r Tigris—yn fynnych yn gorlifo eu glannau, ac yn dduon gan fudreddi. PTrwd fechan, ddistaw, ydoedd dyfroedd Siloah, yn tarddu o wreiddiau mynyddoedd Seion a Moriah. Vr oedd un o'i ffynonellau, fel y tybir, yn ffrydio i'r wyneb o fewn cynteddau y deml. Gorweddai ei gwely, am ran o'i thaith, drwy dynel tan-ddaearol, ac yna deuai i'r golwg drachefn gan lifeirio'n hamddenol i Iyn Siloam. Vng ngolwg pob Iddew twym-galon, yr oedd ei dyfroedd yn gysegredig, ac o werth amhrisiadwy i ddinas Jerusalem. Bob amser yn loywon fel y grisial, diodent y trigolion yn ddi-feth, boed heddv ch