Skip to main content

lîlais Rhyddid. Cyf. VIII.] CHWEFROR, 1910. [Rhif 11 Pregeth ar "Yr Iawn." [Gan y Parch. W. Ambrose ROBERTS.] " Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw."— I. Petr iiì. 18. Cyfeirir yng ngeiriau ein testyn at yr Egwyddor o Aberth ag sydd megis edau euraidd yn cysylltu ynghyd yr Hen Destament â'r Newydd. Mor bell ag y gall llygad dynol dremio drwy dywyllwch caddugawl yr oesau, canfyddir yr Egwyddor Ddwyfol hon yn taflu ei phelydrau gwannaidd, ond treiddgar, nes troi y nôs yn lwyd-wawr y bore. Fel y treigla'r oesau ymlaen, mae'r egwyddor o Aberth yn dod yn eglurach, nes o'r diwedd yr ydym yn ei chael yn cyrraedd ei huchafbwynt yn nioddefaint y Groes. Dyma egwyddor ganolog Cristionogaeth—maen-glo ag sydd yn cysylltu ynghyd wirioneddau sylfaenol ereill crefydd Crist—yr Iawn. Gwirionedd a dybid gan lawer i'w gredu yn hytrach na'i amgyffred; i'w dderbyn fel dirgelwch bythol, ac nid i'w ddeongli; i'w agoshau ato gydag edmygedd rhyfeddol, ac nid i'w ddadrys a'i esbonio. Ni fynnwn ddywedyd gair yn erbyn syniadau uchel- ryw y rhai sydd yn credu felly, ond addefwn nas gallwn, yng ngoleuni'r Testament Newydd, gyd-olygu mai dirgelwch anes- boniadwy ydoedd i'r Cristionogion boreuaf, ond datguddiad deu- blyg eglur—datguddiad o Gariad Duw, ac amlygiad o erchryslon- rwydd pechod. I'r Apostolion, nid dyrys-bwnc tywyll, anolrheiniad- wy ydoedd, ond ffrydlif o oleuni yn datguddio mewn modd nas gwelwyd erioed o'r blaen Gariad Duw, a natur ac effeithiau pechod yn y ddynolryw, a'r berthynas anwahanadwy gysylltiedig rhwng Duw a dyn. Mewn gair, yr oedd yr Iawn i oesau boreuaf Cristionogaeth, yn ddatguddiad—reuelation—ac yn gym,od—at- one-ment. Y mae'n wir fod ceisio egluro ystyr Aberth y Groes,