Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Irlais Rbyddid. Cyî. VIII. HHAGFYH, 1909. [Rhif 9. Pcchod yn crbyn Duw. Yn ddiweddar daeth llythyr i law oddi wrth un o ddarilenwyr Llais Rhyddid yn gwrth-ddadleu yn erbyn rhai o'r sylwadau a wnaed ar y testyn uchod yn y rhifyn am fis Hydref. Tybia ef ein bod yn euog o gam-liwio dysgeidiaeth y Parch. R. J. Campbell ar y pwnc, a gofynna nifer o gwestiynnau, gan ddymuno cael rhagor o oleuni. Nis gwyddom pwy ydyw'r ysgrifennydd, oblegid ffugenw sydd wrth ei lythyr. Nid hwn ydyw'r cyntaf o'r llythyrau di-enwau a gawsom. Ond nid ým yn beio o'r herwydd ; y maent yn ddieithriad mewn ysbryd rhagorol, yn cyd-weled â dysgeidiaeth Llais Rhyddid ar y cyfan, ond yn teimlo anhawsterau gyda golwg ar bynciau neilltuol. Cawsom un dro'n ol o Bortbdinorwig; ac er na chyfeiriasom ato'n benodol o'r blaen, ceisiasom ateb ei wrth- ddadleuon yn yr ysgrifan dilynnol. Nis gwyddom a ydyw'r gohebydd hwnnw wedi ei foddloni ai peidio ; ac os y digwydd weled y sylwadau hyn, hoffem glywed eto oddi wrtho. Ni byddai dim yn well gennym na derbyn ychwaneg o'r goheb- iaethau hyn. Rhoddant gyfìeustra i weled drwyddynt pa mor bell yr ydym yn llwyddo i egluro ein meddwl, ac i weled hefyd pa fath yw'r anhawsterau sy'n blino ein darllenwyr. Wrth yr enw Progressẁe yr ysgrifenna'r gohebydd diweddaf, a chan fod a fynno ei lythyr â'r testyn uchod, gwnawn ychydig sylwadau arno. Geilw sylw at frawddeg a ddifynwyd gennym o waith y Parch. R. J. Campbell, sef " Sin has never injured God, ecccept through man" a myntumia ein bod yn cam- ddeall y frawddeg. Gyda golwg arni, dywedasom : " Beth a feddylir wrth y geiriau ? 'Does ond un atebiad yn bosibl. Yn erbyn dyn, ac yn erbyn dyn yn unig, y gellir pechu. 'Does yr un pechod yn taro yn uniongyrchol yn erbyn Duw ei Hun. Ond o herwydd fod Duw yn preswylio'n fewn-fodol ynnom, y mae ein pechodau yn erbyn ein gilydd, mewn ystyr ail-raddol, yn bechodau yn erbyn Duw" (LLAIS RHYDDID am Hydref 148). Gofynna Progressẁe: " Onid yw'r cyfieithiad a roddir o'r frawddeg yn gam-arweiniol ? Onid gwell a fuasai y cyfieithiad