Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lílais Rhyddîd. Cyl. VIII.] HYDREF, 1909. [fthif 7. Pcchod yn crbyn Duw. A YW ein pechodau ni yn digio Duw, ac yn groes i'w ewyllys Ef ? I lawer o ddarllenwyr Llais Rhyddid, y mae gofyn y cwestiwn yn ddigon o atebiad iddo. Onid yw holl ddysgeidiaeth ein Beibl, onid yw iaith pob cyfarfod crefyddol, pob emyn, gweddi a phregeth, ac onid yw profiadau'r hil ddynol drwy oesau'r ddaear, yn ei ateb yn gadarnhaol ? Buasai'n anodd dj'chmygu cwestiwn sy'n awgrymu amheuon mwy ysgubol a beiddgar. Ac eto gofynnir ef yn groew ac uchel, a hynny gan liaws o arweinwyr meddyliol yr oes. Dywedant wrthym fod yr hên ddiwinyddiaeth ar y pwnc yn dra barbaraidd ac ofergoelus. Wrth ein dilyn, yn ein herthyglau blaenorol, nis gallasai'r darllenydd deallus lai na gweled y cwestiwn yn cyfodi. Os gwir yw, fel y dywedir wrthym, fod pechod yn rhan o gynlluniau crëedigol yr Anfeidrol, ei fod yn elfen angenrheidiol ac anocheladwy yn Ei drefn Ef o wneud dyn, a'i fod yn foddion datblygiad ein natur ddeallol a moesol—pa fodd y dichon yr Hwn a gynlluniodd y cyfan deimlo'n ddigofus o'i herwydd ? Efe ydyw ei wir achos, meddir wrthym, fel y mae'n achos gwreiddiol popeth o fewn y cread, a byddai'n afresymol ac yn anghyfiawn Ynddo weled bai ar Ei greaduriaid am syrthio i'w afaelion. Dysgir y pethau hyn yn ddi-gudd gan liaws mawr o athrawon gwyddonol a diwinyddol yr oes; ac i fod yn gyson â hwynt eu hunain, nis gallant lai na gwadu'r posibilrwydd o bechu yn erbyn Duw. A gwnant hynny mewn geiriau nas gellir eu camddeall. Yr ydym o'r farn fod y Parch. R. J. Campbell, ar rai adegau, yn rhedeg i eithafion peryglus yn y cyfeiriad hwn. Nid oes odid un wedd ar ei ddysgeidiaeth sydd yn peri mwy o bryder a gofid i rai o'i gyfeillion ffyddlonaf. A thêg ydyw addef nad pawb, hyd yn oed o'r diwinyddion newyddion, sy'n gallu cyd-weled â'i olygiadau. Rhag ofn gwneud cam â'i ddysgeid-