Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Irlais Rbyddid. Cyî. VIII.] MEDI, 1909. [Rhiî 6. Pcchod yng Ngolcimi'r Bcibl a Chydwybod. Pa beth yw pechod ? Neu yng ngeiriau'r Salmydd, " Pwy a ddeall ei ganiweddau ?'' I ble'r awn i ymofyn am atebiad ? Fel y gwelsom o'r blaen, 'does ond un man i droi, sef at y natur foesol sydd o'n mewn. Beth a ddywed cydwybod y ddynoliaeth ? Dyna'r unig dystiolaeth o ddim awdurdod ar y pwnc. Lle nad oes gydwybod, nid oes bechod ychwaith ; hyhi'n unig a ddichon ei deimlo a'i adnabod. Ni fuasai gennym ddirnadaeth am bechod fel drwg moesol, nac unrhyw syniad am ei fodolaeth, oni bae am y gydwybod. Hyhi ydyw'r synwyr neu'r gyneddf i'w weled a'i farnu. I ddyn dall o'i enedigaeth, nid oes oleuni'n bod; ac i fyddar, nid oes swn na sain o fewn y cread. A'r un modd am bechod o ran ei ddrwg moesol—hynny yw, pechod yn ystyr briodol y gair—cydwybod ydyw'r cyfrwng i'w adnabod. Nid oes bechod yn bod i greadur amddifad o gydwybod, ac amhosibl iddo ei ddeall na gofidio o'i herwydd. Gellir cario'r gymhariaeth ymhellach. Y llygad, fel y dywed gwyddoniaeth, sýngwneud goleuni, a'r glust sy'n gwneud swn. O'r tu allan i'r llygad, nid yw goleuni ond tonnau o ether; hynny yw, nid goleuni mo hono, ond rhywbeth tra gwahanol. Ac ar wahan i'r glust, nid yw swn ond tonnau distaw o awyr. Y mae'r synwyrau hyn, gan hynny, nid yn derbyn goleimi a swn o'r byd o'r tu allan ; yn hytrach, hwynthwy, i fesur mawr, sy'n eu gwneud. Ac y mae rhywbeth tebyg yn wir am bechod ; ni buasai'n bod i ni onibae am y gydwybod, neu y natur foesol sydd ynnom. Nid gormod yw dweyd mai cydwybod sy'n ei wneud yn bechod i ni. Ar wahan iddi hi, rhywbeth arall a fuasai, tra gwahanol o ran ei natur. Afiechyd neu ddiffyg naturiol a fnasai—dim ond anffawd, coll, neu gamgymeriad, heb ddim tebyg i gymeriad moesol yn ei nodweddu. Os am wybod