Skip to main content

Iriais Rbyddid. Cyî. VIII.] AWST, 1909. [Hhiî 5. Pechod yng Ngoleimi'r Beibl a Chydwybod. Yn ein rbifynnau blaenorol, cymerasom olwg ar bechod yng ngoleuni datblygiad—beth a ddywedir am ei natur a'i ddechreuad gan wyddoniaeth y dyddiau hyn. Gwelsom wedyn beth yw rhai o'r casgliadau rhesymegol sy'n rhwym o ddilyn, fel y myntumir gan lawer, y ddysgeidiaeth wyddonol ar y pwnc. Y mae'r hên eyniadau diwinyddol am bechod, ebai llu o leisiau'n awr, yn euog o'i bardduo'n waeth nag ydyw, ac o greu teimladau, o euogrwydd ac ofnau, ofergoelus yng nghylch ei ganlyniadau. Gwyddom yn awr mai angenrhaid ydoedd ei ddyfodiad i'r byd, ac fod yr achosion o hono yn blethedig drwy gyfansoddiad gwreiddiol ein natur. A chamgymeriad, meddir, ydyw son am dano fel drwg moesol yng ngolwg Duw, ac fel gwrthryfel yn erbyn Ei lywodraeth Ef. Yn hytrach, Duw sy'n gyfrifol am dano, oblegid Ei ffordd Ef o wneud dyn, trwy ddatblygiad, a'i gwnaeth yn anocheladwy. Amcanwyd ef o'r dechreuad fel unig ffordd ein dyrchafiad, a buasai'n amhosibl ein gwneud yn greaduriaid moesol, a gweithio ynnom ddeìw'r Creawdwr, oddieithr drwy hir gwrs o bechu a dioddef. Gan hynny, hefyd, nid yw'r hyn a elwir yn rhyddid ewyllys mewn dyn ond cysgod di-sylwedd ; rhyddid mewn ymddanghosiad yn unig ydyw, a rhyfeddol o arwynebol a chyfyngedig. A gwrthun ydyw tybied y bydd i'r Duw da a chyfiawn ddal neb yn gyfrifol eto, na chosbi neb mewn byd ar ol hwn, am wneud yr hyn nas gallasai beidio'i wnend. Ac y mae'n dilyn ymhellach, ys dywedir, fod yr hên olygiadau Efengylaidd, am yr Iawn a Threfn y Prynedigaeth yng Nghrist Iesu, wedi eu profi'n gamgymeriadau. Ni bu erioed rwyg rhwng dyn a'i Greawdwr, ac oblegid hynny, nid oes angen am drefn o gymod. Lle nad oes gwTeryl, na sonier am heddychu ; lle na bu cwymp, pa angen am adferu ? Afresymol o hyn allan ydyw son am drefn Ddwyfol i faddeu pechod, cyfiawnhau'r anuwiol, a gwaredu'r colledig. Y mae holl freuddwydion yr