Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lílais Rhyddid Cyî. VIII.] GORFFENNAF, 1909. [Rhif 4. Mr. a Mrs. Wíllíam Jones, Ballíol Road, Bootle. Ar yr 17eg o'r mis diweddaf, yr oedd y ddau a enwir uchod yn dathlu eu priodas euraidd ; ac y mae'n hyfrydwch gennym, ar gais yr églwys ym Merton Road, gyflwyno i'n darllenwyr ddarluniau rhagorol o'r ddau. Ymysg aelodau'r EGLWYS Rydd nid oes deuddyn uwch eu parch a mwy teilwng o le yn oriel LLAIS RHYDDID. O'r cychwyn cyntaf yr oeddynt hwy gyda ni, a chymerasant ran dda o'r baich ar eu hysgwyddau. Ac nid rhyfedd yw fod y gangen eglwys yn Bootle yn teimlo'n nodedig o gynnes tuag atynt, oblegid buont yn gefn da i'r achos yn y lle, ac yn barod ac ewyllysgar i hyrwyddo ei holl symudiadau. Y mae iddynt gylch eang o gyfeillion mynwesol, yn y wlad yn ogystal ag yn Lerpwl a'i chymniau, a dyddorol iddynt, mae'n ddiau, fydd y ífeithiau a ganlyn yn eu hanes. CawTsom eu dar- luniau i'r LLAIS ar un amod gaeth, sef nad ydym i ddweyd nemawr am danynt, nac i yngan gair o ganmoliaeth. Rhaid boddloni, gan hynny, ar groniclo ychydig ffeithiau sychion. Ganwyd Mr. William Jones ym Mrynsiencyn, Môn, ar yr 22ain o Ebrill, 1834, bellach, pymtheg-a-thri-ugain mlynedd yn ol. Adwaenid ei dad fel William Jones, Barras, Bryn- siencyn ; ac yr oedd o'r un âch â'r anfarwol Lewys Morys. Gadawyd iddo dyddyn bychan yn Moelfra, Môn, fel rhan o dreftadaeth y Morusiaid. Enw morwynol ei fam ydoedd Margaret Williams, merch i un o feibion Hafod-y-Llan, Beddgelert. Treuliodd William, eu mab hynaf, yr ugain mlynedd cyntaf o'i oes yng ngwlad Môn, ac fel ei alwedigaeth, dysgodd gelfyddyd saer coed. Ar ddechreu 1854, ymadawodd â'i hên gartref, a throes ei wyneb tua