Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Irlais Rbyddid. Cyî. VII.] CHWEFROR, 1909. [Rhiî 11. Y Parch. John Jenkins, B.A. (Gwili). GANWYD Gwili yn yr Hendy, rhan o ardal Pontardulais sydd yn Sir Gaerfyrddin, ar yr wythfed o Hydref, 1872. Enw ei dad oedd John Jenkins. Yng ngweitbfeydd alcam y Bont a'r cyffiniau y bu efe yn llafurio yn ddiwyd i ddwyn i fyny dŷaid o blant mwy talentog o lawer na'r cyffredin. - Dyn caredig, syml, a thawel ydoedd, ac ni chadd brâd na chenfìgen lety am eiliad yn ei galon. Credai mai " bachan i'w ryfeddu" oedd Johnnie, yr ieuengaf o'i feibion, ond bu farw cyn i enw Gwili ddod yr hyn ydyw ar aelwydydd Cymru. Enw ei fam ydyw Elizabeth Jenldns, ac mae'n fyw a gweddol iach. Plentyn ei fam yw Gwili, ac iddi hi y mae'n fwyaf dyledus am yr hyn ydyw. Ni bu bachgen erioed mwy hoff o'i fam, na mam fwy gofalus o'i bachgen. Wedi bod yn ddisgybl-athro am dymor mewn ysgol yn y Bont, dechreuodd Gwili bregethu pan tua phedair-ar-bymtheg oed yn eglwys Calfaria. Gweinidog yr eglwys ar y pryd oedd y Parch. W. B. Jones, Penycae, yn awr. Un o'i destynau cyntaf